Ganwyd yn 1751 yn y Waun-bwll ger Glandŵr, Sir Benfro, ond wedi priodi aeth i ffermio 'r Pant-glas yn Llanboidy (Caerfyrddin). Yr oedd yn aelod yng Nglandŵr, a dywed rhai y byddai'n pregethu yno, ond amheuir hyn. Pan aeth y blaid Arminaidd allan o eglwys Glandŵr a ffurfio eglwys newydd yn Rhyd-y-parc (Llanwinio), tua 1787, ymunodd Phillips â hi, a dechreuodd bregethu; ac ar farw Owen Davies yn 1792, urddwyd ef yn weinidog. Yr oedd yn Undodwr pendant erbyn 1811, pan ymwelodd y cenhadwr Undodaidd Lyons â'r lle, ond ' yn rhy fregus ei iechyd i wneud llawer.' Wedi iddo symud o Bant-glas, a phrynu tyddyn Pant-maen yn ymyl Rhyd-y-parc, llysenwid ef yn 'apostol Pant-maen.' Ymddengys mai Benjamin Phillips o Sain Clêr a William Thomas o Langyndeyrn oedd prif gynheiliaid Rhyd-y-parc yn henaint Phillips, ond erbyn 1816, pan ymwelodd y cenhadwr Wright â'r eglwys, yr oedd yno weinidog cynorthwyol o'r enw John Evans - y mae'n bosibl mai'r John Evans a enwir ar t. 500 o Hanes Bed. Deheubarth David Jones, ond y mae'n debycach mai'r John Evans a oedd ar yr un pryd (1816-25) yn bugeilio'r Undodiaid a ymgynullai yn hen gapel y Porth Tywyll yng Nghaerfyrddin. Bu Phillips farw 11 Mehefin 1825, ' yn 74 oed ' meddai ei feddfaen yn Rhyd-y-parc.
Nai iddo oedd DAVID PHILLIPS, (fl. 1814), emynydd Undodaidd; amaethwr y Pilmawr, Rhyd-y-parc. Nid oes awgrym iddo bregethu erioed, eithr, yn ôl Titus Evans, ' meddai ar gyneddfau cryfion a chafodd ddysgeidiaeth dda i'w gwrteithio. Yr oedd yn feddiannol hefyd ar gyfran o'r awen brydyddawl fel y gwelir yn yr hymnau a Chân y Drindod a gyfansoddodd ac a ymddangosodd yn ei ddydd trwy yr angraffwasg. ' Teitl y llyfryn yw Ychydig o hymnau newyddion yn bennaf at wasanaeth Undodiaid, gan David Phillips, Pilmawr, ger Rhydypark (Caerfyrddin, J. Harris, 1814). Rhydd y rhagair (saith tudalen) olwg ar ganiadaeth a diwinyddiaeth yr Undodiaid yn y cyfnod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.