PHILLIPS, HENRY (1719 - 1789), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Henry Phillips
Dyddiad geni: 1719
Dyddiad marw: 1789
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nhrelech (Caerfyrddin) yn 1719. Argyhoeddwyd ef, 'yn 18 oed,' dan Howel Harris; aeth i Landdowror at Griffith Jones a bu'n athro mewn amryw o'i ysgolion; derbyniai'r Cymun gan Howel Davies. Troes wedyn at y Bedyddwyr ym Mhen-y-garn, a bedyddiwyd ef gan Miles Harry yn 1750; bu dan addysg yn y Trosnant a hefyd (1751) ym Mryste. Yn 1752-3 bu'n cynorthwyo gweinidog yr ' Hen Dŷ Cwrdd ' yn Wrecsam, gan wasnaethu hefyd yn Nantwich; ac o 1753 hyd 1758 pregethai (heb ofalaeth) mewn amryw leoedd yn neheudir Lloegr. Urddwyd ef yn 1758 yn weinidog ar eglwys y Bedyddwyr yn Waterford, Iwerddon; bu yno hyd 1763, pan alwyd ef i'r Back-lane yn Nulyn. Dychwelodd i Gymru yn 1765, a bwriodd dymor ym Mhen-y-garn ac wedyn yn weinidog yn Exeter; ond fis Chwefror 1766 sefydlwyd ef yn ' Sarum ' (h.y. Salisbury), ac yno y bu weddill ei oes. Cynhaliai ysgol rad yno, a bu nifer mawr o blant tlodion dan addysg ynddi. Cadwodd ei gyswllt â Chymru, a thrwy ei law ef y rhannodd John Thornton gannoedd o Feiblau Cymraeg yng Nghymru. Yn 1762 cyhoeddwyd pamffled chwecheiniog 24 tudalen, A Sketch of the Life and Character of the Reverend and Pious Griffith Jones; pan ailargraffwyd hwn yn 1777 yn y Gospel Magazine, amlygwyd mai ei awdur oedd ' H. P., Sarum,' felly Phillips ar un ystyr oedd cofiannydd cyntaf Griffith Jones - ysywaeth, y mae'r pamffled yn llawer llawnach o foliant nag o ffeithiau. Heblaw hwn, sgrifenniodd Phillips 'lythyr' a gyfieithwyd (gyda'i gydsyniad) yn 1781 dan y teitl Y Dinasoedd Noddfa wedi eu priodoli i Grist. Bu farw yn Salisbury 20 Awst 1789, a chladdwyd ym mynwent y Bedyddwyr yno.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.