Cywiriadau

PRICHARD, THOMAS JEFFERY LLEWELYN (bu farw 1874?), actiwr ac awdur

Enw: Thomas Jeffery Llewelyn Prichard
Dyddiad marw: 1874?
Priod: Naomi Prichard (née Jones)
Rhiant: Ann Prichard
Rhiant: Thomas Prichard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: actiwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Perfformio
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd ym mhlwyf Trallong, sir Frycheiniog. Gwyddys iddo gymryd rhan mewn dramâu a chwaraeid gan actorion crwydrol yn Aberystwyth ac yn Aberhonddu (e.e. 1841); dywedir hefyd iddo fod am gyfnod yn catalogio llyfrau Lady Llanover (Lady Hall y pryd hwnnw) yn ei chartref hi yn sir Fynwy. Y gwaith y cysylltir ei enw ag ef fynychaf erbyn hyn yw The Adventures and Vagaries of Twm Shôn Catti, a gyhoeddwyd gyntaf yn Aberystwyth (‘Printed for the Author by John Cox’) yn 1828. Cafwyd llawer o argraffiadau wedi hynny — yn yr ail (y Bont-faen) ceir rhagair gan yr awdur wedi ei ysgrifennu yn Llanfairmuellt a chyfeiriadau ynddo at William Owen Pughe, David Owen (‘Brutus’), a W. J. Rees, Cascob; o Lanidloes y daeth y trydydd argraffiad (awdurdodedig) yn 1871, yn cael ei ddilyn gan argraffiad Cymraeg o'r un argraffwasg, 1872, y cyfieithiad gan ‘Eilonydd,’ sef John Evans. Cyhoeddodd Prichard y gweithiau hyn hefyd — Welsh Minstrelsy … or Cantrev y Gwaelod. A Poem (Aberystwyth, 1824), The New Aberystwyth Guide (Aberystwyth, 1824), The Cambrian Balnea: or Guide to the Watering Places of Wales, Marine and Inland (London, 1825), gydag argraffiad arall o hwn o dan yr enw The Llandrindod Guide (d.d.), The Heroines of Welsh History (London, 1854). Golygodd The Cambrian Wreath: A Selection of English Poems on Welsh Subjects (Aberystwyth, 1828), gan gyfrannu iddo beth o'i waith ei hun. Ymddengys iddo farw mewn tlodi, yn Abertawe, efallai yn 1874 neu 1875.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Cywiriadau

PRICHARD, THOMAS JEFFERY LLEWELYN

Yn 1875 neu 1876 y bu farw. Ymbriododd ar 14 Ionawr 1826 yn y Fenni, â Naomi Jones o Lanfair-ym-Muallt. Yn Cyfaill yr Aelwyd, 1887, 113, dywedir iddo gael ei gladdu ym mynwent y Tabernacl, Abertawe. Dengys dyddiad llythyr ganddo, a argr. yn Cymru Fu, II. v. 80, ei fod eto'n fyw ar 24 Tachwedd 1875.

Awdur

  • Y Parchedig Gomer Morgan Roberts, (1904 - 1993), Pont-rhyd-y-fen

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau