Ganwyd yn Llanelwy, a dygwyd i fyny'n 'whitesmith,' ond cafodd addysg gyffredinol bur dda. Dywedir mai anystyriol fu ei fuchedd nes iddo glywed Robert Prys o Blas-winter (1738 - 1809) yn pregethu; yna (ar waethaf ei dad) ymunodd â'r Methodistiaid. Dechreuodd bregethu tua 1805. Yr oedd yn briod, ond collodd ei wraig, ac yn 1813 ailbriododd â gweddw o'r enw Clarke, yn byw ar fferm Tan-y-clawdd, Rhosllannerchrugog; rhoes yntau ei grefft i fyny, ac fel ' Robert Roberts, Rhosllannerchrugog,' y cofir ef. Yr oedd yn bregethwr athronyddol ei naws, meddai Roger Edwards, a dug hynny ef i gryn helynt (yng nghwmni gwŷr fel John Jones o Dalsarn, John Hughes (1796 - 1860), a Morris Roberts (Remsen) yn y dadleuon diwinyddol yng nghyfarfod misol Sir y Fflint o tua 1828 hyd 1841; nid oedd ei lymder personol ef ei hunan chwaith yn lliniaru'r dadleuon hyn - bu bron iddo gael ei ddiarddel, ac er iddo osgoi hynny, ni chafodd mo'i ordeinio cyn 1832, pan oedd yn 58 oed ac wedi bod yn pregethu am dros chwarter canrif. Cyfansoddodd lawer o emynau - cyhoeddwyd y rhain, a rhai cerddi o'i waith, yn Y Traethodydd; y mae nifer o'i emynau yn Emynau y Cysegr. Bu farw'n ddisyfyd, 14 Awst 1849, yn 75 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.