Ganwyd yn 1621 yn fab i Thomas Rowland, 'yeoman,' Biwmares; yr oedd ganddo frawd o'r enw Richard Rowlands. Bu yn ysgol ramadeg Biwmares, ac aeth, fis Gorffennaf 1639, 'yn 18 oed,' i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, ond ni raddiodd (Venn, Alumni Cantabrigienses). Clywir nesaf amdano ym mywoliaeth Llanelidan, a pharhawyd ef ynddi (1653) gan brofwyr y Weriniaeth. Bu yno hyd 1657, pan gafodd blwyfi Clynnog-fawr a Llanwnda. Dywed Samuel Palmer (Nonconformists' Memorial) ei fod hefyd, hyd yn oed at 1660, yn warden Rhuthyn, ond y mae'n anodd credu hyn - dywed Palmer bethau eraill na thâi mo'u credu, megis mai Bedyddiwr oedd Rowland (a ddisgrifir fel ' Presbyterian ' yng nghofnod swyddogol 1672), ac iddo farw tua Chaerlleon yn 1683. Bwriwyd ef allan o'i blwyfi yn 1660 ('llusgwyd ef i lawr o'r pulpud ' meddai Palmer); cymerwyd ef i'r ddalfa yn 1661 a'i chwilio am arfau. Aeth i Gaernarfon i fyw; yn ôl Palmer eto, yr oedd ei wraig yn cadw ysgol yno i ferched, a Rowland yn tynnu patrymau i'r merched eu copïo, ond yr unig beth sy'n sicr yw ei fod yn ei ddisgrifio'i hunan yn ei ewyllys (sydd heddiw yn y Llyfrgell Genedlaethol) fel 'now a Teacher in a private Grammar School.' Yn 1666 enfyn Philip Henry gopïau o Alwad Baxter iddo i'w dosbarthu. Trwyddedwyd ef â'i dŷ dan Oddefiad 1672, ond nid oes air amdano yn adroddiad Henry Maurice yn 1665, nac yn adroddiad y Dr. Daniel Williams i Fwrdd y Gronfa yn 1690. Edrydd John Pinney (Ymneilltuwr arall a drowyd allan yn 1660) iddo aros gyda Rowland yng Nghaernarfon yn Ionawr 1688 (Letters of John Pinney, 1929). Gwnaeth Rowland ei ewyllys fis Gorffennaf 1688, mewn gwaeledd. Nid ymddengys oddi wrthi ei fod mewn unrhyw galedi; y mae'r cymynroddion mewn arian bron yn £20 (efallai £160–200 o'n harian ni). Cofiodd am dlodion Biwmares a Chaernarfon, am ei hen ysgol (gadawodd iddi 'my Cooper's Dictionary, with 5s. to have it re-bound'), am ei geraint, ac am geraint ei wraig. Gellid meddwl, gan nad enwir mohoni, ei bod hi wedi marw, ac awgryma popeth mai merch o Ddyffryn Clwyd oedd hi; bu, ganddi 'great Bible ' a roddwyd iddi gan Thomas Jones, rheithor Clocaenog 1672-1705, a gadawodd Rowland 'two pieces of gold' a chwe llyfr o'i lyfrgell i Thomas Jones. Yr oedd ei bapurau i fynd i Richard Edwards o Nanhoron. Ei frawd Richard oedd ysgutor yr ewyllys, ac y mae dau ' Rowlands ' arall ymhlith y tystion. Profwyd yr ewyllys 8 Mehefin 1691, felly gellir barnu i Rowland farw yn 1691 neu'n ddiweddar yn 1690.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.