Un o ogledd Penfro neu dde Ceredigion ydoedd. Aeth i'r Gogledd yn athro cylchynol yn 1741 ac erlidiwyd ef yno. Dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid, a phenodwyd ef yn gynghorwr cyhoedd yn sasiwn Watford, 1743 - gelwir ef yn ' licensed Dissenting Minister ' yn y cofnodion, ond prin ei fod yn ordeiniedig, o'r hyn lleiaf nis enwir felly yn Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru Bu yn y Gogledd drachefn yn 1743 ac erlidiwyd ef ym Môn. Penodwyd ef yn gynorthwywr i Howel Harris fel arolygwr dros Gymru yn sasiwn Porth-y-rhyd - 'my assistant' y geilw Harris ef yn ei ddyddiadur. Anfonwyd ef i'r Gogledd yn 1748, a chrybwyllir amdano yn 1749 fel un o brif genhadon y Methodistiaid yng Ngwynedd. Aeth i sasiwn Llanidloes, 1750, ac ochrodd gyda Daniel Rowland yn yr ymraniad. Cyfarfu Harris ag ef yn sasiwn Castellnewydd Emlyn, 1764. Ceir ' Benjamin Thomas, near Cardigan ' ymhlith tanysgrifwyr Sir Benfro i Tair Pregeth D. Rowland, 1772, ond yn rhestr Sir Benfro o danysgrifwyr Pum Pregeth, 1772, 'near Llechryd ' sydd ar gyfer ei enw. Enwir ef ymhlith y cynghorwyr yn sasiynau Llangeitho, 1778 a 1783. Y mae ei fedd ar bwys beddau Dafydd ac Ebenezer Morris ym mynwent Tredrëyr, a dywedir ar y maen iddo farw 12 Ebrill 1790, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd yn bregethwr grymus a theimladwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.