TWISTLETON, GEORGE (1618-1667), swyddog ym myddin y Senedd

Enw: George Twistleton
Dyddiad geni: 1618
Dyddiad marw: 1667
Priod: Mary Twistleton (née Glynn)
Plentyn: George Twistleton
Rhiant: John Twistleton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog ym myddin y Senedd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: William Gilbert Williams

Trydydd mab John Twistleton, Barley Hall, sir Efrog. Gwasnaethodd dan y cadfridog Mytton, a chynorthwyodd yng ngwarchae ac ennill castell Dinbych. Gwnaed ef yn llywydd y castell yn 1647. Yn fuan ar ôl hyn priododd â Mari Glynn, merch William Glynn, y Lleuar, Sir Gaernarfon, a gor-or-ŵyres William Glynn y Sarsiant. Bu Twistleton yn amlwg yn erbyn y gwahanol ymgyrchoedd a wnaed yng Ngwynedd ymhlaid Siarl frenin, a bu yn yr ysgarmes ar y Dalar Hir, Llandegai, 5 Mehefin 1648, pan orchfygwyd ac y daliwyd Syr John Owen, Clenennau. Yr oedd hefyd yn aelod o'r Uchel Lys a nodwyd i brofi'r brenin Siarl, yn ogystal ag o amryw gomisiynau a drefnwyd ynglŷn ag atafaelu, etc., yn nyddiau'r Weriniaeth. Codwyd ef yn aelod seneddol tros Fôn yn 1659. Ar ôl yr Adferiad ymsefydlodd yn y Lleuar, ac nid ymddengys iddo gael aflonyddu arno oherwydd ei weithgarwch yn ystod cyfnod y Weriniaeth. Bu farw 12 Mai 1667 a chladdwyd ef yn eglwys Clynnog, lle y gwelir ei fedd hyd heddiw. Goroesodd ei briod ef hyd 1676. Priododd eu mab ac etifedd

GEORGE TWISLETON (1652 - 1714),

â Margaret, ferch William Gruffydd, Cefn Amwlch, a bu'n ustus heddwch yn Sir Gaernarfon ac yn siryf yn 1682-3; bu farw 26 Rhagfyr 1714. Dilynwyd ef yn y Lleuar gan ei fab

GEORGE TWISLETON,

a briododd Barbara Jackson o Lundain; bu ef farw 22 Rhagfyr 1732. Disgynnodd y stad i ddwylo eu merch Mary, a briododd y capten William Ridsdale o Ripon. Wedi gwerthu'r stad i Syr Thomas Wynn, Glynllifon, lladdwyd y capten ym mrwydr Dettingen yn 1743 a darfu am hil Glyniaid y Lleuar.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.