Mab John Vaughan, Derllys (1624 - 1684), bargyfreithiwr, a Rachel, merch Syr Henry Vaughan, Derwydd, Sir Gaerfyrddin; ganwyd yn y flwyddyn 1663. Ei dadcu ar ochr ei dad oedd brawd John Vaughan, y Gelli Aur, iarll 1af Carbery (gweler yr ysgrif ar y teulu). Addysgwyd ef, yn ôl pob tebyg, yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Ar 6 Hydref 1692 priododd Elizabeth, ferch Thomas Thomas, Meidrym, a'i wraig Elizabeth (gynt Protheroe), cyfnither Lucy Walter, mam dug Mynwy.
Yn ystod 20 mlynedd olaf ei fywyd John Vaughan oedd arweinydd bywyd crefyddol ac addysgol Sir Gaerfyrddin. Gyda chefnogaeth y S.P.C.K., gwnaeth ef a'i gyfaill Syr John Philipps, Castell Pictwn, Sir Benfro, y ddwy sir hon yn llwyddiannus dros ben yn y fath bethau. Talodd John Vaughan sylw arbennig i sefydlu ysgolion elusennol a llyfrgelloedd ac i ddosbarthu llenyddiaeth grefyddol Gymraeg. Ef oedd arloesydd llyfrgelloedd rhyddion a llyfrgelloedd i blant; cefnogodd roddion arian o'r sir i dalu am addysg plant tlodion, a chymerai ddiddordeb neilltuol mewn tlotai ac mewn gwella cyflwr carcharau. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd gweddi deuluol ym mhob cartref. Ef oedd maer tref Caerfyrddin am y flwyddyn 1710-11, a bu'n aelod o gyngor y dref o 1707 hyd 1722. Ei ferch, Bridget Bevan, oedd prif noddwr yr ysgolion cylchynol Cymraeg. Bu farw ei wraig yn 1721 a chladdwyd hi yn eglwys Merthyr; bu yntau farw 16 Tachwedd 1722, a'i gladdu yn eglwys Llanllwch, Sir Gaerfyrddin.
Dilynodd ei frawd hynaf, RICHARD VAUGHAN (1653 - 1724), ei dad yn y gyfraith a bu'n feinciwr a thrysorydd Gray's Inn, aelod seneddol dros dref Caerfyrddin (1685-1724), cofiadur (1683-6, 1688-1722), a phrif ustus siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Priododd Arabella Philipps, Castell Pictwn, ac yr oedd felly yn frawd-yng-nghyfraith i Griffith Jones, Llanddowror.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.