Dywed W. Davies Leathart yr arferai ganu'r ffidil yng nghyfarfodydd Cymdeithas y Gwyneddigion, Llundain, tua'r flwyddyn 1776. Paentiodd ddarlun o Owen Jones ('Owain Myvyr'). Bu farw 1824 mewn oedran mawr.
Brawd iddo oedd WILLIAM VAUGHAN, brodor o Gonwy, un o aelodau cynharaf y Gwyneddigion. Dywed Leathart yr edrychid arno fel 'a dandy of the first order, a distinction he was not a little proud of,' ac ychwanega ei fod yn berthynas i'r arglwyddes Mostyn, mam y Syr Thomas Mostyn a fu farw yn 1831. Margaret, merch ac aeres Hugh Wynn, Ll.D., Bodysgallen a Berthddu, oedd yr arglwyddes Mostyn hon; yr oedd hi yn aeres Bodysgallen (gerllaw Conwy), Plasmawr (Conwy), Bodidris (sir Ddinbych), a Chorsygedol (Sir Feirionnydd). Bu William Vaughan farw yn Hammersmith c. 1827, yntau hefyd mewn oedran mawr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.