YOUNG, GRUFFYDD (c. 1370 - c. 1435), esgob, a phleidydd Owain Glyndŵr

Enw: Gruffydd Young
Dyddiad geni: c. 1370
Dyddiad marw: c. 1435
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob, a phleidydd Owain Glyndŵr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Glyn Roberts

Fe'i ganed yn anghyfreithlon. Enillodd ffafr Anne o Bohemia, brenhines Richard II (Cal. Pap. Letters, iv, 445; v, 239) a rhwng 1391 a 1403 yr oedd yn dal amryw fywiolaethau yn esgobaethau Bangor a Thyddewi - Llanynys, Llanbadarn Fawr, a phrebendau Garthbrengi, Boughrood, Llanbedr-Pont-Steffan, Bangor (Cal. Pat. Rolls, 1388-92, 355; ibid., 1391-6, 16; Cal. Pap. Letters, v, 239, 412, 521); daeth hefyd yn ' Vicar-General ' esgobaeth Tyddewi, Regg. St. Davids, 18-22) ac yn archddiacon Meirionnydd (B. Willis, Bangor, 140). Tua'r flwyddyn 1403 ymunodd â phlaid Glyndŵr gan ddyfod yn ganghellor iddo, ac yr oedd ym Mharis yn 1404 gyda John Trevor yn trefnu cytundeb o gynghreiriaeth â Charles VI. Efe, y mae'n debyg, a oedd yn gyfrifol am ' bolisi Pennal '; yn ôl hwnnw yr oedd Glyndŵr yn cytuno i drosglwyddo gwrogaeth Eglwys Cymru o Rufain i'r pab Benedict XIII yn Avignon (Lloyd Owen Glendower, 121-2). Ym mis Chwefror 1407 cafodd esgobaeth Bangor, o bosibl oherwydd iddo gynllwynio yn erbyn yr esgob Lewis Byford. Ym mis Ebrill yr un flwyddyn trosglwyddwyd ef i Dyddewi -yr esgobaeth y golygai 'polisi Pennal' iddi fod yn fam-esgobaeth Cymru. Erbyn 1408 yr oedd gallu Glyndŵr yn edwino, a serch i Young gadw mewn cysylltiad ag ef hyd y diwedd, rhoes heibio bleidio polisi pabaeth Avignon pan drefnodd cyngor Constance ddyfod â'r sism i ben gydag ethol y pab Martin V yn 1417. Cafodd ei ethol yn esgob Ross gan Martin yn 1418 eithr ni bu erioed mewn gofal cyfan gwbl yn yr esgobaeth honno ac yn 1423 symudwyd ef i esgobaeth Hippo ' in partibus infidelium ' a chaniatáu iddo ddal rhai bywiolaethau 'in commendam' yn archesgobaethau Rheims a Tours. Yr oedd yn parhau i'w alw ei hun yn esgob Ross yn 1430 ac yr oedd yn fyw yn 1432.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.