Aeth yr hen eiriaduron ar gyfeiliorn; y mae'n amlwg i rywun gymysgu rhwng Thomas Jones a'r David Johns neu Jones a fu yn Llanfair Dyffryn Clwyd. Ar wahan i hwnnw, nid oes Jones na Johns o gwbl yn rhestr D. R. Thomas (A History of the Diocese of St. Asaph, ii, 100) o bersoniaid cyfoes Llanfair Dyffryn Clwyd.
Y mae yn llawysgrif B.M. Add. 14878, a sgrifennwyd tua 1692, awdl-gywydd ar y waredigaeth rhag yr Armada, gan ' Thomas Jones, Person Llanfair ym Mynwy '; argraffwyd hi gan J. H. Davies yn Hen Gerddi Gwleidyddol (Cymdeithas Llên Cymru). Llanfair Cilgedin (nepell i'r dwyrain o Lanofer) ydyw'r plwyf; yr oedd Thomas Jones yn rheithor yno yn 1590 (Bradney, iv, 258-9), a chan i'w fab Walter ei ddilyn yno ym Medi 1622, tebyg iddo farw yn 1622 neu 1621.
Y mae hefyd awdl-gywydd o ddiolch am y Beibl Cymraeg, gan ' Sir Tho: Johns ' (Llanstephan MS 41 - llawysgrif gyfoes), ' Syr Thomas Johns, circa 1600 ' (Panton 41, 18fed ganrif), ' Syr Thomas Jones ' (Cwrtmawr MS 12B , 18fed ganrif - gweler hefyd Cwrtmawr MS 454B ), 'Syr Tomas Jones, offeiriad Llandeilo Bertholeu' (Iolo MS. 40). Argraffwyd hon yn Cymru Fydd, 1889 (404-6), yn Hen Gwndidau (187-92), ac yn Canu Rhydd Cynnar Parry-Williams (367-72). Fe sylwir mai'r 'Iolo MS.' yn unig sy'n cysylltu'r bardd â Llandeilo'r Bertholau; ac y mae gan ' Iolo Morganwg ' nodyn arno (a ddyfynnir yn Hen Gwndidau, 282) a dynnwyd, meddai ef, ' o Lyfr Harri Siôn o Bont y Pwl ' (Henry John) - nid oes fodd gwybod pa faint ohono sy'n wir, nac ychwaith a yw W. O. Pughe yn iawn pan ddywed yn y Cambrian Biography (ar dystiolaeth ' Iolo,' mae'n debyg) i Thomas Jones gymryd rhan mewn 'eisteddfod' yn Llandaf yn 1588. Y peth a wyddys i sicrwydd yw bod rhyw Thomas Johns yn ficer Llandeilo (ac yn byw yno) yn 1560 (Browne Willis, Llandaff, 205), a'i fod wedi diflannu oddi yno ar ddyddiad amhendant cyn diwedd y ganrif (Bradney, ii, 208 - ' Thomas ap John '). Y farn gyffredin (gweler G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 129) yw mai'r un gwr sydd yma, ac fe welir nad yw'r dyddiadau uchod yn gwahardd credu hynny. Bernir hefyd (G. J. Williams, loc. cit.) mai ef a wnaeth y gwndid (Llanover MS. 23) sy'n dechrau 'Nid llai'n beie na'n pechode' (gweler Hen Gwndidau, 281), y mae ei hawdur yn ei alw ei hunan yn 'fab hen brelad sydd offeyriad.' Ond ni ellir bod yn sicr o hyn, gan fod rhyw Thomas Jones arall cyfoes yn ficer Llanarth gyfagos (Mehefin 1589 meddai Foster, 'Index to Institutions,' NLW MS 1626C ; 1602 yn Bradney, i, 310). Gwelir hefyd yn NLW MS 1553A englyn unig gan 'Syr T. Johns,' ac yn NLW MS 13068B gyfres o englynion gan 'Syr T. Jones' i ' Syr William' - nid clerigwr oedd hwnnw, eithr marchog, a gall mai Syr William Herbert o S. Julians, ydoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.