PARRY, HUMPHREY (c. 1772 - 1809), ysgolfeistr, aelod o Wyneddigion a Chymreigyddion Llundain

Enw: Humphrey Parry
Dyddiad geni: c. 1772
Dyddiad marw: 1809
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, aelod o Wyneddigion a Chymreigyddion Llundain
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd tua 1772 yn y Cwm Mawr, Clynnog Fawr, Arfon. Yn glerc i gyfreithiwr yr aeth i Lundain, ond wedyn bu'n athro cynorthwyol yn ysgol ramadeg y Brewers' Company, Sadler's Wells, dan David Davies. Ar farwolaeth Davies (1797), agorodd Parry ysgol breifat yn Hackney; gellid meddwl iddi fod yn llwyddiant, oblegid yn 1806 sonia am wario £700 ar helaethu ei hadeilad. Yr oedd yn aelod o'r Gwyneddigion (is-lywydd 1807, llywydd 1808), a hefyd o'r Cymreigyddion. Pan gychwynnwyd Y Greal (1804), yr oedd yn un o'r pedwar a'i harolygai - Pughe a'r ' Bardd Cloff ' yn cynrychioli'r Gwyneddigion, Parry a ' Glan-y-gors ' yn cynrychioli'r Cymreigyddion (ond yr oedd y pedwar yn aelodau o'r ddwy gymdeithas); y mae pob arwydd bod Parry 'n arweinydd gwrthblaid a godai yn erbyn awdurdod ' Owain Myfyr ' a Pughe yng nghyfarfodydd y Gwyneddigion. Teimlai fod Pughe (ar bwys 'llogellau Owain Myfyr,' chwedl Parry) yn cael gormod o'i ffordd, ei fod yn mynnu cael argraffu'r Greal yn ei orgraff ef ei hunan, ac yn cadw allan ohono bopeth ond a gydweddai â'i olygiadau ef - a hefyd fod cynnwys Y Greal yn rhy hynafol i ddiddori'r darllenydd cyffredin. Eglura hyn oll mewn llythyr maith (Medi 1806) at ' Dafydd Ddu Eryri ' - dengys y llythyr, gyda llaw, y gallai Parry ei hunan fod mor ffansïol â Pughe yn ei syniadau gramadegol. Dymunai weld cylchgrawn Cymraeg mwy gwerinol na'r Greal yn cael ei gyhoeddi yng Nghaernarfon. A phan gychwynnodd ' Dafydd Ddu ' Yr Eurgrawn (1807), anfonodd Parry i ail rifyn (1808) y cylchgrawn byrhoedlog hwnnw ysgrif ar ramadeg (dyddiedig o Glynnog, Gorffennaf 1807), 'i'w barhau yn y nesaf.' Cyfeirir at Parry yn amryw o lythyrau ' Dafydd Ddu ' yn Adgof uwch Anghof ' Myrddin Fardd,' a gwelir yno fod ym mryd Parry gyhoeddi gramadeg Cymraeg. Yn ôl Leathart, yr oedd yn ysgolhaig da yn yr ieithoedd clasurol a modern. Bu farw fis Ebrill 1809, wrth ddarllen llyfr Cymraeg i'w gydysgolhaig y Dr. John Jones (1766? - 1827).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.