DWN neu DON, HENRY (cyn c. 1354 - Tachwedd 1416), uchelwr a gwrthryfelwr

Enw: Henry Dwn
Dyddiad geni: cyn c. 1354
Dyddiad marw: Tachwedd 1416
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: uchelwr a gwrthryfelwr
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwrthryfelwyr; Perchnogaeth Tir
Awdur: John K. Bollard

Roedd Henri Dwn o Groesasgwrn, Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Gruffudd Dwn (neu Gruffudd Gethin) ap Cadwgan ac Annes ferch Cadwgan ap Ieuan, ac yn ddisgynnydd o lin Llywelyn ap Gwrgan, arglwydd Cydweli. Ymddengys Dwn yn y cofnod hanesyddol yn gyntaf ym Mhicardi a Normandi yn 1369 yn llu John of Gaunt, dug cyntaf Caerhirfryn, ac fe'i penodwyd yn ystiward Cydweli gan Gaunt yn 1388-89. Yn ystod 1394-95 gwasanaethodd dan Rhisiart II yn Iwerddon.

Serch hynny, erbyn 1403, efallai mor gynnar ac 1401, yr oedd Dwn wedi ymuno â gwrthryfel Owain Glyndŵr. Mewn llythyr Lladin 'i'n cyfaill annwyl a thra charedig, Henri Don', y mae Glyndŵr yn ei orchymyn i ymuno ag ef 'gyda'r llu mwyaf posibl'. Efallai na chyrhaeddodd y llythyr hwn ei nod, ond er hynny daeth Dwn a'i fab Maredudd yn arweinwyr pwysig yn ymgyrch Glyndŵr yn y De. Ym Mehefin 1403, roedd Dwn gyda Glyndŵr, Rhys Ddu (siryf Ceredigion gynt) ac eraill pan gipiasant Gaerfyrddin, ac ym mis Medi daliodd Dwn long yn perthyn i John Sely, masnachwr o Lansteffan, ym mhorthladd Caerfyrddin. Trosglwyddwyd stiwardiaeth Cydweli yn 1401 i John Skydmore (Scudamore), cwnstabl castell Carreg Cennen, ac yn 1403 ymosododd Dwn, ei fab Maredudd, a'i ŵyr Gruffudd ap Maredudd deirgwaith ar gastell a thref Cydweli ond heb lwyddiant, hyd yn oed gyda chymorth gan luoedd Ffrengig a Llydewig ar 3 Hydref.

Fforffedwyd tiroedd Dwn yn 1407, a charcharwyd Dwn ei hunan ar brydiau yng Nghydweli a Chaerloyw. Dan amodau heddwch cymodlon Harri V, cafodd Dwn faddeuant yn 1413 ar ôl cytuno i dalu dirwy fawr. Prisiwyd y ddirwy honno yn £266.13s.4d yn erbyn ei wyrion Gruffudd ac Owain yn 1439, ond ni chafodd ei thalu fyth, ac o'r diwedd yn 1445, ymhell wedi marwolaeth Dwn, fe'i diddymwyd.

Yn y cywydd 'Ymddiddan yr Enaid â'r Corff' a ganwyd tua 1375-82, mae Iolo Goch yn sôn am dri o 'wŷr Cydweli' fel argwlyddi rhyfel, gan gyfeirio mae'n siŵr at Henri Dwn a'i deulu. Ac mae Lewys Glyn Cothi yn enwi Henri Dwn mewn cerdd i Wilym ap Gwallter, gŵr yr oedd ei fam yn wyres i Dwn.

Fel sawl un arall o'r uchelwyr, gallai Dwn fod yn llawdrwm a chynhennus, ac ni phoenai fawr ddim am achosion cyfreithiol yn ei erbyn. Yn ystod y 1380au gwaharddwyd ef dan berygl dirwy o £42 rhag herio perchnogaeth tiroedd a roddasai ei dad i Briordy Sant Ioan yng Nghaerfyrddin. Ar ôl ei bardwn yn 1413, cymerodd Dwn ei le unwaith eto fel arglwydd meistrolgar ar ei diroedd, gan fentro hyd yn oed osod treth yn ddigywilydd ar ddau gant o'i ddeiliaid a arhosodd ar ei dir heb ei gefnogi yn ystod y gwrthryfel. Fodd bynnag, cwynodd Dwn ei hunan yn ei dro am ormes Syr John Skydmore fel stiward Cydweli, gan ei gyhuddo o gynllwyno i ladd Dwn. Yn gam neu'n gymwys, diswyddwyd Skydmore yn 1415.

Bu Henri Dwn farw ym mis Tachwedd 1416.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-04-02

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.