GRIFFITHS, ARCHIBALD REES [yn ddiweddarach RHYS] (1902 - 1971), arlunydd

Enw: Archibald Rees Griffiths
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1971
Priod: Edith Annie Rose Griffiths (née Tabony)
Priod: Winifred May Griffiths (née Jones)
Plentyn: Rhys Adrian Griffiths
Plentyn: Diana Griffiths
Rhiant: Sarah Jane Griffiths (née Evans)
Rhiant: William Henry Griffiths
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Peter Lord

Ganwyd Archie Griffiths yn Aberdâr ar 12 Ionawr 1902, yn un o bum o blant William Henry a Sarah Jane Griffiths. Symudodd y teulu yn fuan wedyn i Orseinon, lle cafodd y tad waith fel glöwr. Cymraeg oedd iaith yr aelwyd. Ar ôl gadael yr ysgol bu Archie Griffiths yn gweithio yn y diwydiant tunplad am ddwy flynedd cyn ymuno â'i dad ym mhwll glo'r Mynydd. Yn ôl Griffiths ei hun, dechreuodd ymhél â pheintio er mwyn diddanwch pan fu'r pwll yn segur. O 1919 ymlaen astudiodd mewn dosbarth nos ac wedyn yn llawn amser yn Ysgol Gelf Abertawe dan William Grant Murray. Erbyn 1922 roedd wedi gwneud digon o gynnydd i gyflwyno portread olew, The Gorseinon Schoolgirl, i gystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman, lle dyfarnwyd y wobr gyntaf iddo gan Christopher Williams. Ar argymhelliad William Goscombe John, enillodd Ysgoloriaeth Sir Morgannwg i astudio yn y Coleg Celf Brenhinol yn 1924-6. Yn ystod y cyfnod hwnnw peintiwyd ei lun gan Ceri Richards, a oedd un flwyddyn yn iau nag ef. Cafodd Griffiths lawer o glod am ei ddarn diploma coll, Preaching in the Mines, ac mae'n amlwg bod gan William Rothenstein, Prifathro'r Coleg Brenhinol, feddwl mawr ohono. Ni bu ond y dim iddo ennill gwobr y Prix de Rome, ond derbyniodd ysgoloriaeth deithio er mwyn mynd i Baris a Fenis, ac yna i'r Ysgol Brydeinig yn Rhufain yn 1927. Cyn iddo adael, priododd Winifred May Jones (a elwid yn 'Bobby'), model ddwy-ar-bymtheg oed yn y Coleg Brenhinol. Cawsant ddau o blant, Diana a Rhys Adrian.

Cafwyd adroddiadau am yrfa Griffiths o'r cychwyn gan John Davies Williams, golygydd y Cambria Daily Leader , a chomisiynwyd dyluniadau i'w cyhoeddi yn y papur. Cefnogwyr eraill iddo yn Abertawe oedd William Grant Murray a Winifred Coombe Tennant, a wahoddodd Griffiths i weithio yn ei chartref. Rhoddodd Grant Murray ei arddangosfa undyn gyntaf yn Oriel y Glynn Vivian ym mis Tachwedd 1928, arddangosfa a gafodd dderbyniad gwresog yn lleol. Yn ogystal â dyluniadau ac ysgythriadau, arddangosodd Griffiths bortreadau a lluniau glofaol, gan gynnwys Glowyr yn Dychwelyd o'u Gwaith, llun a brynwyd gan Coombe Tennant.

Ar ôl iddo briodi bu Griffiths yn byw yn Llundain, lle dirywiodd ei sefyllfa ariannol yn fuan, ac aeth i yfed yn drwm. Cafodd gymorth gan gyfaill iddo, yr awdur Geraint Goodwin, gŵr y peintiodd Griffiths ei lun ac a ddaeth i berchen ar y gwaith pwysicaf o eiddo Griffiths i oroesi, sef Ar y Domen Lo a beintiwyd tua 1930. Dengys tystiolaeth catalogau arddangosfa fod Griffiths wedi teithio yn Fflandrys rywbryd rhwng 1928 a 1932.

Bu tro ar fyd i Griffiths am gyfnod byr yn 1932, pan ddyfarnwyd iddo rai comisiynau ac arddangosfa yn y 'Young Wales Association' yn Sgwâr Mecklenburg, Llundain, gyda chefnogaeth Rothenstein a Dr Thomas Jones. Mae'n debyg mai fel rhan o ymgais i'w hyrwyddo ei hun ymhlith Cymry Llundain y bu iddo fabwysiadu ffurf Gymraeg ei enw, Rhys Griffiths. Cafodd yr arddangosfa ei hongian gyda chymorth Evan Walters, a denodd sylw ffafriol gan y wasg a phrynwyr. Ymysg y gweithiau a arddangoswyd oedd yr ail ddehongliad dwys o bwnc Glowyr yn Dychwelyd o'u Gwaith, a Profi Lamp Glöwr. Amlyga'r ddau lun yr adleisiau Beiblaidd sy'n is-destun nodweddiadol yng ngwaith yr arlunydd.

Ar ôl yr arddangosfa dirywiodd bywyd personol Griffiths unwaith eto. Adolygwyd ei waith am y tro olaf mewn arddangosfa gymysg yn Abertawe yn 1935. Chwalodd ei briodas ac aeth i fyw am sbel gyda Geraint Goodwin yn Dagnall, Buckinghamshire, ond gadawodd yn sydyn, heb ei waith fe ymddengys, a chollwyd y rhan fwyaf wedyn. Yn fuan ar ôl y rhyfel torrodd bob cyswllt â'i rieni a'i frodyr a chwiorydd. Cafodd ysgariad, ac wedyn priododd Edith Annie Rose Griffiths, gan ymgartrefu gyda hi yn y 1960au yn Herne Bay yn swydd Gaint. Gwnaeth beth gwaith graffeg a lluniau tirwedd syml yn ystod y cyfnod hwn, ond ei unig gomisiwn o bwys oedd un am gyfres o Safleoedd y Groes yn Eglwys St Martin, Hwlffordd.

Bu Archie Griffiths farw mewn ysbyty yn Llundain ar 2 Ebrill 1971, wedi ei anghofio gan mwyaf fel arlunydd, er gwaethaf ei gyfraniad pwysig i'r ymateb artistig i brofiad trawmatig cymunedau glofaol Cymru rhwng y ddau ryfel byd.

Cafodd mab Griffiths, Rhys Adrian (1928-1990), yrfa lwyddiannus fel dramodydd, yn enwedig ar gyfer y radio.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-01-25

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.