WILLIAMS, CHRISTOPHER DAVID (1873 - 1934), arlunydd

Enw: Christopher David Williams
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1934
Priod: Emily Williams (née Appleyard)
Rhiant: Mary Williams
Rhiant: Evan Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Megan Ellis

Ganwyd ym Maesteg, 7 Ionawr 1873, yn unig fab i Evan a Mary Williams. Arfaethwyd iddo ddilyn gyrfa feddygol, ond llwyddodd yn y pen draw i drechu gwrthwynebiad ei rieni, ac wedi gadael yr ysgol uwchradd yng Nghroesoswallt a mynychu dosbarthiadau celf yng Nghastell-nedd sicrhaodd ysgoloriaeth i'r Coleg Celf Brenhinol yn South Kensington. Wedi tair blynedd dechreuodd fynychu ysgolion yr Academi Frenhinol, lle y bu'n astudio dan Sargent a Clausen a lle'r enillodd wobr Landseer am bortread pen. Ar ôl priodi Emily Appleyard yn 1904 bu'n teithio'n helaeth yn yr Eidal, y Swistir, Sbaen, a Moroco. Bu farw yn Llundain, 19 Gorffennaf 1934.

Peintiwr portreadau a darluniau alegorïaidd oedd Christopher Williams yn anad dim, ond peintiodd hefyd dirluniau a thirluniau yn cynnwys ffigurau. Fe'i comisiynwyd i beintio darlun o arwisgiad tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1911 a The Charge of the Welsh Division at Mametz Wood yn 1916. Ymysg ei bortreadau y mae rhai o Syr John Williams, Syr Henry Jones, Syr John Rhys, David Lloyd George (yr Iarll Lloyd-George o Ddwyfor cyntaf yn ddiweddarach), Syr John Morris-Jones, a Hwfa Môn. Cafodd nifer o'i beintiadau eu cynnwys yn arddangosfeydd yr Academi Frenhinol a chynrychiolir ei waith yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, ac yng Nghaernarfon, Maesteg, a Choleg Harlech.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.