Ganwyd Cecily Mackworth yn y Maerdy ym mhlwyf Llandeilo Bertholau ger y Fenni, Sir Fynwy, ar 15 Awst 1911, yn blentyn hynaf i Francis Julian Audley Mackworth (1876-1914) a'i wraig Dorothy Conran (née Lascelles, 1883-1976). Roedd ei thad yn aelod o hen deulu o filwyr nodedig yn ne Cymru. Gwasanaethodd yn y Magnelwyr Maes Brenhinol a bu farw ar faes y gad ar y Ffrynt Gorllewinol ar 1 Tachwedd 1914, ddeuddydd ar ôl ei ddyrchafu'n uwchgapten a llai na blwyddyn ar ôl genedigaeth ei ail blentyn. Symudodd Cecily a'i chwaer fach gyda'u mam i Wlad yr Haf. Yn 1922 priododd Dorothy Mackworth yr artist ceffylau Charles Edward Gatehouse, ac ymgartrefodd y teulu yn Sidmouth, Dyfnaint.
Wedi cyfres o athrawesau cartref, bu Cecily Mackworth yn preswylio am ddwy flynedd yn Ysgol Sherborne i Ferched. Ar ôl cyfnod byr mewn Coleg Gwyddor Cartref (syniad ei mam) roedd yn dda ganddi dderbyn awgrym ei modryb i astudio newyddiaduraeth yn y London School of Economics. Y fodryb hon oedd Margaret Haig Thomas, Arglwyddes Rhondda, a fu gynt yn briod â Syr Humphrey Mackworth, brawd iau tad Cecily, a fuasai'n was priodas ar gyfer ei rhieni.
Cwblhaodd Mackworth gwrs diploma dwy flynedd mewn newyddiaduraeth academaidd yn 1931. Yr Arglwyddes Rhondda oedd perchennog a golygydd yr wythnosolyn o fri Time and Tide, ac enillodd ei nith ei chyflog cyntaf yn adolygu llyfrau ynddo. Cyhoeddwyd rhai o'i cherddi cynnar yn y London Mercury.
Cyfarfu Mackworth y myfyriwr o Hwngari Nicholas Kaldor (yn ddiweddarach yr economegydd Arglwydd Kaldor) yn yr LSE. Ar gost yr Arglwyddes Rhondda, teithiodd i Hwngari yn 1931, a bu'n gweithio yno fel cyfeilles i ferch mewn teulu cefnog. Ar ôl dychwelyd adref am ychydig - anaml y byddai'r enaid rhydd hwn yn cyd-weld â'i mam - teithiodd i Ferlin lle gwelodd losgi'r Reichstag yn 1933. Wrth weithio i deulu Iddewig bu'n dyst i'r tyndra cynyddol.
Cyfarfu Leon Donckier de Donceel, cyfreithiwr o Wlad Belg, mewn sanatoriwm yn y Swistir. Priodasant yn 1935, a ganwyd eu merch Pascale Léonie Juliette y flwyddyn ganlynol. Bu ei gŵr farw o'r diciâu ar ddiwedd 1938, ddau fis ar ôl trasiedi teuluol arall. Ychydig oriau cyn yr oedd ei chwaer iau Helen i fod i briodi William McClintock, swyddog milwrol o Donegal, gwnaeth ei fam, a fuasai'n dioddef o iselder ers i'w mab gael ei barlysu gan ddamwain marchogaeth, saethu ei mab ac yna gymryd ei bywyd ei hun. Wedi i Helen ddarganfod hyn cyflawnodd hithau hunanladdiad. Fe'i claddwyd yn ei ffrog briodas.
Wedi colli ei thad, ei gŵr a'i hunig sibling cyn cyrraedd ei deg ar hugain, aeth Mackworth ati i'w hailddyfeisio'i hun ym Mharis. Treuliodd flynyddoedd olaf y 1930au yn mwynhau awyrgylch pensyfrdanol Paris fohemaidd, gan ymuno â chymuned ryngwladol o awduron ac artistiaid. Mynychai stiwdio Henry Miller yn Villa Seurat, a chyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o gerddi, Eleven Poems ganddo ef yn 1938. Roedd Lawrence Durrell yn aelod o'r cylch hwn, ac yn nes ymlaen lluniodd Mackworth ysgrif ddylanwadol ar The Alexandria Quartet.
Ar ddechrau'r rhyfel bu'n gweithio gyda'r deliwr celf René Gimpel dros lyfrgell a ddarparai lyfrau i filwyr. Ymunodd â'r Groes Goch, gan weithio yn y Gare d'Austerlitz lle cyrhaeddai rhyw 5,000 o ffoaduriaid o Wlad Belg bob dydd. Pan syrthiodd Paris ym Mehefin 1940, ffodd i Rennes gyda ffrindiau mewn car tolciog, a'i gwisg Groes Goch amdani o hyd. Dinistriwyd ei phapurau gan fomiau yn yr orsaf, a dechreuodd gerdded i Chartres gyda thorf o ffoaduriaid 'like a column of drugged ants'. Yn y pen draw, ar ôl ymlwybro'n llafurus ar droed ac mewn trenau, llwyddodd i gyrraedd Portiwgal ac yna groesi i Loegr ganol Awst. Y flwyddyn ganlynol disgrifiodd y profiadau enbyd hyn yn I Came Out Of France, llyfr a gafodd glod gan T.S. Eliot a sawl un arall.
Treuliodd Mackworth weddill y rhyfel yn Llundain. Bu'n ysgrifenyddes ym mhencadlys Ffrainc Rydd, a honnodd yn ei henaint fod MI5 wedi ei recriwtio. Bu'n darlithio dros yr Alliance Française a hefyd dros Bureau Materion Cyfoes y Fyddin, gan deithio'n wythnosol i dde Cymru i annerch criwiau o weithwyr gan gynnwys glowyr a menywod mewn ffatrioedd arfau a pharasiwtiau.
Gweithiai'n galed a chwaraeai'n galed. Cyhoeddwyd ei barddoniaeth gan Cyril Connolly yn Horizon. Lluniodd adolygiadau ac ysgrifau nodwedd i'r wasg, weithiau dan y ffugenw 'Rhiannon'. Yn ei llyfr Czechoslovakia Fights Back (1942) adroddodd hanes meddiannu'r wlad gan y Natsïaid. Y flwyddyn ganlynol cyhoeddodd hi a Dr Jan Stransky Czechoslovakia gyda rhagair gan y cyn-lysgennad Jan Masaryk. Gwnaeth ddarllediadau radio hefyd ac ymchwil dros y Blaid Lafur. Cymdeithasai gyda llenorion fel Dylan Thomas, Nancy Cunard, Inez Holden a Stevie Smith.
Dychwelodd Mackworth i Baris ar ôl y rhyfel, gan fyw yn St-Germain-des-Prés ymhlith Swrealwyr, Dirfodwyr a Chomiwnyddion. Ysgrifennodd i'r misolyn llenyddol newydd Paru a chyhoeddodd ddau lyfr yn 1947. Astudiaeth o farddoniaeth François Villon oedd y naill, a'r llall oedd A Mirror of French Poetry 1840-1940, blodeugerdd gyda chyfieithiadau Saesneg gan feirdd o Brydain. Cyfieithodd Vernon Watkins bum cerdd a chynhwysodd Mackworth rai o'i chyfieithiadau ei hun. Cyfieithiad arall ganddi o'r Ffrangeg oedd The Schoolmistress (1957) o nofel Renée Massip La Régente.
Ymddiddorai ym mywydau llenorion Ffrainc, ac yn 1961 cyhoeddodd fywgraffiad Guillaume Apollinaire, bardd, beirniad celf a phleidiwr Ciwbiaeth. Ymateb cymysg a gafwyd gan y beirniaid celf, ond ym marn adolygwyr llenyddol fel Anthony Powell roedd yn astudiaeth arwyddocaol. Rhoddwyd clod helaeth i English Interludes (1974), cyfrol a ganolbwyntiai ar bedwar bardd Seisgarol o Ffrainc a drigai ym Mhrydain (Lloegr, a Llundain yn bennaf) rhwng 1862-1914. Archwiliodd y berthynas gyfnewidiol rhwng Prydain a Ffrainc trwy brofiadau Mallarmé - bardd yr oedd Mackworth yn dipyn o arbenigwr arno - Verlaine, Valéry a'r awdur llai adnabyddus Larbaud a oedd hefyd yn nofelydd ac a fu'n teithio yn ne-ddwyrain Cymru. Disgrifiwyd y gyfrol yn y Guardian fel 'clever little book'.
Roedd Mackworth yn deithiwr eofn a diymwared. Hi oedd gohebydd y Dwyrain Canol ar gyfer Paris Presse a L'Aube. Yn gynnar yn 1947 fe'i comisiynwyd gan L'Aube i dreulio mis yn arsylwi ar fywyd ym Mhalesteina. Teithiodd drydydd dosbarth i Haifa ar long lawn o fewnfudwyr Iddewig, ac yna aeth o amgylch y wlad. Dychwelodd y flwyddyn wedyn, gan adrodd mewn amgylchedd llethol o wrywaidd a gadael Palesteina ychydig ddyddiau cyn creu gwladwriaeth Israel. Mae The Mouth of the Sword (1949) yn adrodd am ei theithiau yno ac yn Syria, Lebanon a Transjordan (lle cyfwelodd â'r Brenin Abdullah).
Ymddangosodd The Destiny of Isabelle Eberhardt, hoff gyhoeddiad Mackworth, yn 1951. Awch yr awdur am antur a'i denodd at yr hanes hynod hwn am ferch i Nihilydd Rwsiaidd. Ar ôl plentyndod yn y Swistir ffodd Eberhardt i Algeria yn ugain oed gan droi at grefydd Islam. Daeth yn awdur cyhoeddedig ac yn gyfrinydd. Yn drawswisgwr, bu'n byw fel nomad, a bu farw'n saith ar hugain oed drwy foddi mewn gorlif sydyn yn y Sahara. Rhoddodd Eberhardt esgus perffaith i Mackworth i deithio yn ôl ei thraed.
Ar gyfer ei hastudiaeth o 'Lucy R' o waith Freud Five Studies in Hysteria, ymwelodd Mackworth â Vienna, ond cafodd nad oedd cofnodion yr athrawes hon o'r Alban yn bodoli bellach. Dychmygu hanes Lucy a wnaeth yn bennaf yn ei llyfr, felly, a bu Lucy's Nose (1992) hefyd yn gyfle i'r awdur ddadansoddi ei hunan ifancach a myfyrio am y ffin rhwng bywgraffiad a ffuglen.
Ymhen tair blynedd daeth Dreams and Poems, llyfryn argraffiad cyfyngedig a gyhoeddwyd ym Mharis. Cyfunodd holl gerddi cyhoeddedig Mackworth â darnau o gofnodion am ei breuddwydion dros fwy na hanner canrif. Gwelai freuddwydion yn fynegiant o'r un dychymyg creadigol ag arlunio, cerddoriaeth neu farddoniaeth.
Fel 'Our Woman in Paris', adolygai Mackworth yn gyson ar gyfer y Manchester Guardian a daeth yn ohebydd Paris i Twentieth Century, gan ysgrifennu hefyd ar gyfer papur dyddiol Ffrangeg. Arweiniodd y pwysau hyn at chwalfa nerfol yn 1956. Roedd ar fin dychwelyd i fyw ym Mhrydain pan gyfarfu â'i hail ŵr, pendefig o Ffrancwr: y Marquis de Chabannes La Palice. Priodasant y flwyddyn honno, gan dreulio eu hafau yn eu château yn Normandi a'r gaeafau ym Mharis. Daeth Mackworth yn ddinesydd Ffrengig.
Er dod yn wraig weddw yn 1980, parhaodd yr awdures osgeiddig a bydol hon i fyw ym Mharis am ddeng mlynedd ar hugain arall. Cyhoeddodd Ends of the World (1987), adroddiad episodig ond byw iawn am rai o'r cyfnodau mwyaf lliwgar yn ei bywyd, gan gyfuno hanesion anturus gyda hunan-fyfyrdod nodweddiadol. Roedd yn ddeallusen a pharch mawr ati o bob tu'r Sianel, ac un a feddai ar chwilfrydedd newyddiadurol a diddordeb ysol mewn pobl a lleoedd.
Mewn cyfweliad yn y 1970au am ei dewis i fyw yn alltud yn Ffrainc, eglurodd Mackworth mai am Gymru ei phlentyndod yr oedd unrhyw hiraeth a deimlai. Ganwyd yr awdur Sosialaidd Raymond Williams yn yr un ardal ar y ffin, cwta ddeng mlynedd ar ôl Mackworth, ac er bod eu cefndiroedd yn wahanol iawn, dylanwadodd tirwedd eu cynefin ar ffuglen y ddau. Gosodir nofel Mackworth Spring's Green Shadow (1952, cyfieithiwyd i'r Ffrangeg yn 1956) yng nghysgod Ysgyryd Fawr yn ogystal ag ym Mharis. Yn naratif person-cyntaf, mae'n adlewyrchu ymlyniadau deublyg ei bywyd ei hun. Gwnaeth yr adrannau am Gymru argraff arbennig ar John Betjeman.
Bu Cecily Mackworth farw ym Mharis ar 22 Gorffennaf 2006, ychydig wythnosau cyn ei phen-blwydd yn 95 oed. Fe'i claddwyd gyda'i gŵr yn Normandi. Yn 93 oed, roedd wedi cychwyn ar hunangofiant, a'r teitl a roddodd ar y deipysgrif oedd Out of the Black Mountains.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-12-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.