Ganwyd Helen Watts yn Aberdaugleddau ar 7 Rhagfyr 1927, yn ferch i Thomas Watts, fferyllydd, a'i wraig Winifred (ganwyd Morgan). Cafodd ei magu yn Hwlffordd a mynychu Ysgol St Mary a St Anne yn Abbot's Bromley, swydd Stafford. Roedd cerddoriaeth yn rhan o fywyd y teulu: dechreuodd ganu'r piano yn saith oed, a bu ei brawd yn aelod o gôr Eglwys Gadeiriol Llandaf cyn ennill ygoloriaeth gorawl i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt. Ei bwriad gwreiddiol hi, fodd bynnag, oedd bod yn ffisiotherapydd. Gan ei bod yn rhy ifanc i ddechrau ar y cwrs priodol, fe'i hanogwyd i fynd am hyfforddiant lleisiol i'r Academi Gerdd Frenhinol, lle bu'n astudio gyda Caroline Hatchard cyn cychwyn ar yrfa gerddorol.
Yn ystod yr 1950au cafodd lwyddiant mewn darllediadau radio ac ennill sylw'r arweinydd o Gymro, Geraint Jones, a'i cyflogodd i ganu mewn rhaglenni BBC o gerddoriaeth Bach. Canodd ariâu o waith Bach yng nghyngherddau'r Proms yn 1955 a daethpwyd i'w chysylltu yn arbennig â cherddoriaeth Bach a Handel; gwnaeth nifer fawr o recordiau o'u gwaith, gan gynnwys pedwar recordiad llawn o Messiah Handel a thri o Magnificat Bach. Cafodd ei recordiadau gryn glod gan y beirniaid, ac enillodd Grand Prix du Disque yn 1959. Yn 1964 canodd y brif ran ym mherfformiad yr English Opera Group o The Rape of Lucretia gan Britten ar daith yn yr Undeb Sofietaidd, ac yn 1970 cafodd ganmoliaeth uchel am ei pherfformiad o Kindertotenlieder Mahler yn Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd. Perfformiai'n rheolaidd mewn cyngherddau gyda chymdeithasau corawl, a gweithiodd gyda llawer o arweinyddion blaenllaw, megis Georg Solti, Benjamin Britten, Bernard Haitink a Herbert von Karajan. Ymddangosodd yn rheolaidd mewn opera yn Covent Garden a Salzburg a chyda Chwmni Opera Cymru a pherchid hi fel un o gantorion gorau a mwyaf dibynadwy ei chenhedlaeth. Edmygir yn arbennig ei recordiadau o ran yr Angel yn Dream of Gerontius Elgar o dan arweiniad Adrian Boult yn 1976 a'i rhan yn y recordiad cyflawn cyntaf o Riders to the Sea Vaughan Williams o dan Meredith Davies yn 1972.
Er nad oedd yn rhugl ei Chymraeg, roedd yn fawr ei serch at Gymru, yn enwedig sir Benfro ei phlentyndod; perfformiodd yn aml yng Nghymru a recordiodd rai caneuon Cymraeg, megis 'Berwyn' gan D. Vaughan Thomas, 'Y Bardd' gan Mansel Thomas a 'Gweddi Pechadur' gan Morfydd Owen, ar label Qualiton. Yng Ngŵyl Gerdd Abertawe yn 1969 rhoddodd y perfformiad cyntaf o'r cylch o ganeuon 'Billows of the sea' gan Grace Williams, a gyflwynwyd iddi gan y cyfansoddwr.
Wedi byw am flynyddoedd yn Cuckfield yn Sussex, ymddeolodd o'i gyrfa fel cantores yn 1985 a dychwelodd i sir Benfro lle y gallai barhau i fwynhau garddio.
Derbyniodd Gymrodoriaeth yr Academi Gerdd (FRAM) yn 1961, ac fe'i hurddwyd yn CBE yn 1978. Yn 1980 priododd â'r chwaraewr fiola Michael Mitchell (1929-2007).
Bu farw Helen Watts ar 7 Hydref 2009. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn eglwys St Paul, Covent Garden ar 9 Rhagfyr. Chwaraewyd nifer o'i recordiadau a rhoddwyd teyrngedau iddi gan y tenor Ian Partridge a'r bariton Thomas Allen, ymhlith eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 2019-04-16
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.