YSTUMLLYN, JOHN (bu farw 1786), garddwr a goruchwyliwr tir

Enw: John Ystumllyn
Dyddiad marw: 1786
Priod: Margaret Gruffydd
Plentyn: Ann
Plentyn: Lowri
Plentyn: Richard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: garddwr a goruchwyliwr tir
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Ffion Mair Jones

Y mae'r hyn sy'n hysbys ynghylch John Ystumllyn yn deillio gan mwyaf o waith Robert Isaac Jones (Alltud Eifion), a gyhoeddodd lyfryn yn 1888 sy'n adrodd ei hanes o dan y teitl John Ystumllyn, neu, 'Jack Black': hanes ei fywyd, a thraddodiadau am dano, o'r amser y dygwyd ef yn wyllt o Affrica hyd adeg ei farwolaeth; ei hiliogaeth, &c., &c., ynghyda darlun o hono yn y flwyddyn 1754 . Gan nad oes ffynonellau eraill, testun Alltud Eifion yw prif sail y cofnod hwn, sy'n cyflwyno rhai o'i sylwadau o fewn dyfynodau. Er bod modd derbyn llawer o'r ffeithiau a adroddodd, mae elfennau amlwg hiliol i'w gynrychioliad. At hyn, fel y nododd Yasmin Begum yn 2019, nid ei rieni a roddodd yr enwau yr adnebid John Ystumllyn wrthynt yn ei ardal fabwysiedig (gan gynnwys y llysenw Jack Black). Yn hytrach, adlewyrchant y modd y'i trawsfeddiannwyd gan drefedigaethwyr a gan ddisgwrs trefedigaethol.

Daethai hanes John i glyw'r awdur drwy deulu ei fam a'i thad o'i blaen: yr oedd yr olaf yn gweithio ar stad teulu Wynn, Ystumllyn, Cricieth, yn y cyfnod pan aed â John i fyw yno. Awgrymir mai aelod o'r teulu hwn, o bosibl Ellis Wynn yr hynaf, a ddaeth â'r bachgen du adref i Ystumllyn, yn blentyn wythmlwydd oed (neu dair ar ddeg yn ôl adroddiadau eraill), ar ôl ei herwgipio yn Affrica. Cefnogir y traddodiad hwn gan adroddiadau John ei hunan o gofio bod yng nghwmni ei fam ar lan afon fechan yng nghysgod coed pan ddaeth dynion gwyn yno a'i gipio er gwaethaf protest ei fam. Mae sylwebwyr diweddar o'r farn mai plentyn mewn caethiwed oedd John, a ddygwyd i Brydain o India'r Gorllewin, safbwynt a atgyfnerthir gan englyn o waith Dafydd Siôn Siâms, Penrhyndeudraeth, a ysgythrwyd ar ei fedd. Ynddo, cofnodir ei enedigaeth 'Yn India gynna' (cyfeiriad at India'r Gorllewin, o bosibl), a'i fedyddio a'i gladdu yng Nghymru.

Wedi i John gyrraedd Ystumllyn, fe'i bedyddiwyd (naill ai yn eglwys Cricieth neu yn eglwys Ynyscynhaearn ger Pentrefelin, Cricieth, medd Alltud Eifion). Mae Alltud Eifion yn adrodd 'nad oedd ganddo iaith ond swn [sic] fel udiad ci' pan ddaliwyd ef ac iddynt gael '[c]ryn drafferth i'w ddofi am amser hir, ac n[a]s goddefid iddo fyned allan' wedi iddo gyrraedd Ystumllyn. Yn y man, daeth i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg, a dysgwyd iddo sut i arddio yng ngerddi'r plas. Yr oedd yn abl iawn â'i ddwylo, yn ogystal: gallai greu basgedi gwiail, llwyau pren a llongau bychain, ac yr oedd yn dda am drin blodau. Tyfodd John yn llanc golygus a hawliai sylw merched y gymdogaeth, yn eu plith Margaret Gruffydd, Hendre Mur, Trawsfynydd, a oedd yn forwyn yn Ystumllyn. Goresgynnodd Margaret 'ei hofn o'r dyn dû', ac ar 9 Ebrill 1768, priodwyd y ddau yn Nolgellau, lle yr aethai hi o Eifionydd i weini. Gan i'r ddau ddianc heb ganiatâd o'r cartrefi lle y'u cyflogid er mwyn priodi, collasant eu lle ynddynt. Daeth cyfle i ymgartrefu a gweithio fel goruchwylwyr tir yn Ynysgain Fawr ger Criccieth, am gyfnod. Yn y man ailgynigiwyd ei le yn Ystumllyn i John; ond erbyn diwedd ei oes, yr oedd yn gweithio i gangen o deulu Wynn ym Maesyneuadd, Llanaelhaearn. Symudodd i gartref newydd yn ogystal yn y cyfnod olaf hwn, sef Nanhyran ('Y Nhyra Isa' neu 'Nhyrau ddu' ar lafar), rhwng Cefn-y-Meusydd-Uchaf a Thyddyn-iolyn, Dolbenmaen. Tŷ to gwellt oedd Nanhyran, ac iddo ardd fawr o'i amgylch; fe'i rhoddwyd i John gan Ellis Wynn i gydnabod ei wasanaeth i deulu Ystumllyn. Ganed saith o blant i John a Margaret. Bu farw dau yn fabanod; o blith y gweddill, priododd merch o'r enw Ann â James Martin, gwerthwr offerynnau cerdd yn Lerpwl; merch arall o'r enw Lowri â Robert Jones, bwtler o Fadryn, Llŷn, yn gyntaf, yna â gŵr o'r enw John Mcnamare; a gwasanaethodd mab, Richard (1770-1862), Syr Thomas Wynn (bu farw 1807), y barwn Newborough 1af fel heliwr yng Nglynllifon.

Bu farw John Ystumllyn ar 9 Gorffennaf 1786 o'r clefyd melyn, a'i gladdu ym mynwent Ynyscynhaearn. Ar ei garreg fedd, sy'n cynnwys yr englyn a grybwyllwyd, cofnodir yn wallus mai 1791 oedd blwyddyn ei farwolaeth. Y mae hanesion lleol a gofnodwyd gan Alltud Eifion yn rhoi portread o lanc a gŵr cadarn ei foesau, a ymatebai gyda gwytnwch i ragdybiaethau ei gyfoedion yn ei gylch fel yr unig berson du ei groen yn y gymdogaeth, ac a lynai at y gwirionedd mewn unrhyw achos o gamwri yn ei erbyn neu gam gwag ar ei ran ei hun. Rhydd y stori amdano'n penderfynu dweud y gwirionedd yn hytrach na cheisio achub ei groen, a 'gwerth[u] fy enaid i'r cythrael', pan dorrodd goes hwch a fuasai'n chwalu ei blanhigion yng ngardd Ystumllyn, ddarlun nodweddiadol o blith yr hyn a gofnodwyd gan Alltud Eifion o gymeriad a oedd yn danllyd, balch a gonest.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2021-06-16

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.