JONES (MROWIEC), ELIZABETH MAY WATKIN (1907 - 1965), athrawes ac ymgyrchydd

Enw: Elizabeth May Watkin Jones
Dyddiad geni: 1907
Dyddiad marw: 1965
Priod: Josef Mrowiec
Rhiant: Watkin Jones
Rhiant: Annie Jones (née Thomas)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: athrawes ac ymgyrchydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth; Ymgyrchu; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Ffion Mair Jones

Ganwyd Elizabeth May Watkin Jones ar 10 Mai 1907 yng Nghapel Celyn, Meirionnydd, yn blentyn cyntaf i Watkin Jones ('Watcyn o Feirion'; 1882-1967), postfeistr, a'i wraig Annie (g. Thomas; 1881-1924). Fe'i magwyd ar aelwyd gyfoethog mewn diwylliant a dysg. Roedd ei thad yn fardd gwobrwyedig mewn eisteddfodau lleol ac yn hyfforddwr a gosodwr cerdd dant llwyddiannus a dylanwadol. Buasai ei mam, a fagwyd yn Rhydlydan, Pentrefoelas, sir Ddinbych, yn athrawes yn ei hardal enedigol, cyn dysgu yn Barnsley, swydd Efrog, ac yn Llandudno. Priododd y rhieni ym mis Ebrill 1906, gan ymgartrefu yn gyntaf yn Gwern Tegid, Capel Celyn, cyn symud yn ddiweddarach i'r Llythyrdy yn y pentref. Daeth Annie yn hwyluswr gweithgarwch ei gŵr yn ei swydd gyflogedig ac fel arweinydd corawl a beirniad; yn gymeriad cynnes a hoffus ymhlith ei chymdogion; ac yn gefnogwr i'w plant, a fyddai'n 'adrodd a chanu, etc., yn bur fedrus, yn aml yng nghyfarfodydd y cylch'. Bu marwolaeth annhymig ei mam ym mis Chwefror 1924 yn ergyd neilltuol i Elizabeth, fel y ferch hynaf. Roedd yn ddisgybl un ar bymtheng mlwydd oed yn Ysgol Ramadeg y Merched yn y Bala ar y pryd, eisoes wedi derbyn Tystysgif Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg, a Botaneg (1922), ac yn gweithio tuag at gymwysterau pellach gyda'r nod o ennill statws athro cymwysiedig. Fe'i gorfodwyd, fodd bynnag, i roi'r gorau i'w haddysg er mwyn gofalu am ei brodyr a'i chwiorydd, yr ieuengaf yn ddwyflwydd a hanner yn unig. Erbyn mis Tachwedd 1925, serch hynny, roedd yn ymgeisio am swydd yn ei hen ysgol gynradd, Ysgol Celyn. Daeth penodiad ym mis Ebrill y flwyddyn ganlynol, ynghyd â chydnabyddiaeth o statws Cynorthwy-ydd Didystysgrif ('Uncertified Assistant') oddi wrth Adran Gymreig y Bwrdd Addysg yn Whitehall.

Arhosodd Elizabeth yn Ysgol Celyn am ddeng mlynedd hyd nes yr arweiniodd cwymp yn niferoedd y plant at symudiad i ysgol gyfagos Maesywaun ym Medi 1936. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd i Ysgol Ganolog y Bala, lle y'i gosodwyd yng ngofal 'Standard One' (plant saith i wyth mlwydd oed). Drwy gydol ei gyrfa fel athrawes, dangosodd ddiddordeb mewn datblygu ei chymwysterau a'i gwybodaeth broffesiynol. Mynychodd ysgolion haf yr Undeb Athrawon Cymreig, gan gynnwys un cwrs yn y Barri, Morgannwg, ac fe'i canmolwyd mewn llythyrau tysteb am ei diddordeb brwd mewn problemau addysgiadol; am '[roi] llawer o'i hamser i astudio Egwyddorion Pedagogi' yn arbennig ym maes dysgu'r Gymraeg; ac am ei galluoedd fel cerddor. I un disgybl yn Ysgol y Bala, 'Miss Watkin Jones, y delynores' ydoedd, ac mewn ffotograff o'i chyfnod yno, fe'i gwelir yn eistedd wrth delyn yr ysgol yn cyfeilio i barti o dros ugain cerdd dantiwr brwd. Ni chydnabuwyd cyfraniad Elizabeth fel athrawes yn deg, fel y dengys llythyr a ddrafftiwyd ar ei rhan (c.1940) i dynnu sylw at yr anghysonderau yn lefelau ei chyflog: nodwyd i sylw Awdurdod Addysg Meirionnydd y diffyg cydnabyddiaeth o'i blynyddoedd o wasanaeth a'r modd y'i camleolwyd fel Athro Cyflenwol yn hytrach nag Athro Didystysgrif wrth bennu ei chyflog. Pan ddaeth ateb anymrwymol yn ôl, ysgrifennodd Elizabeth mewn pensel ar ei fôn, 'Hopes dashed. He'll probably put me back on Supplementary Scale'. Parhaodd i frwydro am gydnabyddiaeth, serch hynny, gan ddangos gwytnwch ac uchelgais wrth ymgeisio am swyddi mor uchel â phenaethiaeth, yn Ysgol y Cyngor, Cwmtirmynach, er enghraifft yn 1947; ac ym mis Chwefror 1956, ysgrifennodd Gordon Price, cyn-brifathro yn Ysgol y Bala, dysteb ganmoliaethus iddi yn ei hargymell fel pennaeth addas ar gyfer ysgol wledig.

Gadawodd Elizabeth a'i thad eu cartref yn Llythyrdy Capel Celyn yn y man, a symud i Frongoch yn is i lawr dyffryn afon Tryweryn; erbyn tua 1949 yr oeddent wedi ymgartrefu mewn tŷ yn y Bala, a'i enwi, yn briodol, 'Celyn'. Yn y dref, felly, yr oedd eu cartref pan drawodd taranfollt eu cynefin gwreiddiol: yn fuan cyn Nadolig 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i gyflwyno mesur preifat i'r Senedd yn gofyn am yr hawl i godi argae ar afon Tryweryn, gan greu llyn a fyddai'n boddi Cwm Tryweryn gan gynnwys pentref Capel Celyn. 'Pobl swil a gwylaidd' oedd aelodau ei chyn-gymdogaeth, meddai Elizabeth mewn cyfweliad â'r Daily Herald ym mis Tachwedd 1956, a 'wnaethon nhw ddim byd pan glywson nhw gyntaf am y cynllun hwn. Ond fe'i prociais i nhw. Rŵan, maen nhw'n ddig'. Un ymgyrchydd ydoedd ymhlith amryw a ymffurfiodd yn Bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn ar 23 Mawrth 1956. Yn y man, daeth Dafydd Roberts, Caefadog, yn gadeirydd arno, a chafwyd peth cydnabyddiaeth o'i ran ef yn yr ymgyrch. Nid oedd gyfuwch â chyfraniad gwylaidd ond cwbl allweddol Elizabeth fel ysgrifennydd, serch hynny. Fe ymlafniodd hi drwy ymgyrch lythyru eang a dygn, gan adrodd erbyn mis Rhagfyr 1956 sut yr oedd yr ymbil gwreiddiol am gefnogaeth bellach wedi troi yn anogaeth wirfoddol o bob cyfeiriad. Daeth llythyrau oddi wrth eglwysi Cymru, undebau amaeth, aelodau'r pleidiau gwleidyddol, cynghorau (plwyf, dosbarth gwledig, sir, tref a bwrdeistref), disgyblion ysgol, cymdeithasau Cymraeg o Gymru, Lloegr a Chanada, heb sôn am unigolion lu. Cadwyd trefn ofalus ar hyd a lled y brotest drwy ddulliau megis anfon slipiau at gefnogwyr i'w dychwelyd yn nodi pa aelodau seneddol y buont mewn cysylltiad â hwy ar gyfer cofnodion y pwyllgor. At hyn, trefnwyd cyfarfodydd cyhoeddus niferus yn lleol drwy gydol 1956 cyn ymledu i ddarlledu ar y cyfryngau Saesneg. Ar 29 Tachwedd, er enghraifft, ymddangosodd trigolion Cwm Tryweryn â'u placardiau o brotest - Elizabeth a'i thelyn, yn symbol o ddyfnder eu diwylliant, yn eu plith - ar raglen Under Fire teledu Granada, a ffilmiwyd ym Manceinion. Ymhlith y cyfweliadau radio a theledu niferus y bu Elizabeth ynglŷn â hwy yr oedd un ar y rhaglen The Dragon's Teeth, lle y dadleuodd hi a Megan Lloyd George yn erbyn cefnogwyr y cynllun i foddi'r cwm.

Er gwaethaf y llwyddiannau, roedd yr ymdrech ar adegau yn chwerw. Bu rhai ymatebion yn siom: anodd credu na fyddai Elizabeth wedi'i chythruddo wrth glywed i Gyngor Tref y Bala wrthod gwrthwynebu'r cynllun mewn cyfarfod ym mis Hydref 1956; neu nad oedd gan y llenor R. T. Jenkins, a fagwyd yn y Bala ac a ysgrifennodd ati ar 26 Ebrill 1956, 'ryw argyhoeddiad mawr ar y mater... fe allai manteision y cynllun i'r ardal orbwyso unrhyw anfantais; ni wn i, dyna'r gwir'. At hyn, yr oedd brwydr i'w hymladd yn erbyn Corfforaeth Lerpwl. Sawl gwaith yn ystod misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf 1956, gwrthododd y Gorfforaeth gyfarfod yn uniongyrchol â dirprwyaeth o'r Pwyllgor Amddiffyn. Yn ei thro, gwrthododd Elizabeth ar ran y Pwyllgor dderbyn gwahoddiad y Gorfforaeth i gyfarfod ag un o is-bwyllgorau'r Cyngor, Corfforaeth Dŵr Lerpwl. Y cam olaf oedd trefnu protest i Lerpwl ar 21 Tachwedd 1956, gyda'r nod o ddarbwyllo'r trigolion a'u cynghorwyr o'r angen i achub y cwm. Mewn datganiad i'r wasg ar drothwy'r ymweliad, condemniodd Elizabeth yn ddi-flewyn-ar-dafod weithredoedd trahaus y cyngor. Wrth fynnu'n gyhoeddus mai protest 'cwbl bersonol' fyddai hon - dyna pam y gofynnwyd i blant yr ardal gyd-deithio â'u rhieni i'r ddinas - dangosodd ei chrebwyll gwleidyddol, gan ymbellhau oddi wrth y cyswllt mwyfwy amlwg â'r mudiad cenedlaetholaidd a gynrychiolid gan Blaid Cymru. Serch hynny, Gwynfor Evans, Llywydd y Blaid a chyfaill triw i'r ymgyrch, a arweiniodd yr orymdaith drwy strydoedd Lerpwl.

Ar 27 Tachwedd 1956, cyflwynodd Corfforaeth Lerpwl fesur preifat dros foddi Cwm Tryweryn ger bron pwyllgor seneddol, gan gychwyn ar y broses o sicrhau caniatâd swyddogol i'w cynllun. Mewn trydydd darlleniad ohono ar 31 Gorffennaf 1957, pleidleisiwyd o'i blaid â mwyafrif o 96. Ar ôl gwytnwch ei hymdrech, gallasai Elizabeth, fel y nododd ei brawd ieuengaf, Watkin L. Jones, 'suro mewn digalondid... ond ni ddigwyddodd hyn. I'r gwrthwyneb. Prin y soniodd am y peth wrthyf'. Un rheswm posibl am ei distawrwydd oedd ei bod ar drothwy cyfnod hapus iawn yn ei bywyd personol: ar 24 Mai 1958, daeth yn wraig i Josef (Iozef) Mrowiec (1914-1995), Pwylwr o Silesia Uchaf. Ffoasai Josef oddi wrth orthrwm y Natsïaid gan ymuno â chorfflu Pwylaidd o fewn byddin Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn y man, daeth i fyw i Lanuwchllyn a dechrau gweithio fel peintiwr yn ardal y Bala, cyn priodi ac ymsefydlu yn 'Celyn' gydag Elizabeth a'i thad.

Yn dilyn dwy daith i ymweld â theulu ei gŵr yng Ngwlad Pwyl (1960, 1962), cyflwynodd Elizabeth ddyddiadur taith i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, gan ennill y wobr gyntaf gyda chanmoliaeth y beirniad, Geraint Dyfnallt Owen (1908-1993), am iddi 'gerdd[ed] yn syth i ganol cymdeithas gwlad dramor yn lle crwydro ar yr ymylon'. Er gwaethaf ymhyfrydu amlwg Elizabeth yn 'fy annwyl wlad fabwysiedig', nid oedd ffawd ei bro enedigol yn anghof ganddi ar y teithiau hyn: ar ymweliad â llyn Goczałkowice, a luniwyd wedi i argae gael ei gosod ar draws afon Vistula gan foddi chwe phentref, adroddodd sut yr 'Aeth ias annifyr i lawr fy nghefn a sibrydais "Tryweryn"'. Erbyn i'r gwaith o weithredu'r un amcan ar ei chwm ei hun gael ei gwblhau'n swyddogol ar 21 Hydref 1965, roedd Elizabeth wedi'i chladdu. Bu farw ar 21 Mehefin y flwyddyn honno yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Roedd wedi bod yn dioddef o gyflwr dirywiol ar y galon. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanycil, gan osod carreg fedd sy'n cynnwys delwedd o'r delyn, a'r geiriau Pwyleg 'Tu spoczywa w Bogu moja ukochna zona' ('Yma y gorwedd fy annwyl wraig yn Nuw') yn crynhoi hiraeth ei gweddw amdani.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-11-24

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.