REES, MERLYN (1920 - 2006), yr Arglwydd Merlyn-Rees, gwleidydd

Enw: Merlyn Rees
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 2006
Priod: Colleen Faith Rees (née Cleveley)
Plentyn: Patrick Merlyn Rees
Plentyn: Gareth David Rees
Plentyn: Glyn Robert Rees
Rhiant: Levi Daniel Rees
Rhiant: Edith Mary Rees (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Marc Collinson

Ganwyd Merlyn Rees ar 18 Rhagfyr 1920 yn Stryd William, Cilfynydd, Morgannwg, unig blentyn Levi Daniel Rees, glöwr, a'i wraig Edith Mary (g. Williams). Roedd o leiaf dair cenhedlaeth o deulu Rees wedi gweithio dan ddaear ym maes glo de Cymru. Roeddent yn Fedyddwyr selog, ac un o atgofion cynnar Merlyn oedd mynychu'r Ysgol Sul. Bu Levi Rees yn weithgar yn Streic Gyffredinol 1926, ac yn sgil ei weithgarwch gwleidyddol, gan gynnwys gwerthu'r papur newydd sosialaidd y Daily Herald yng Nghilfynydd am y tro cyntaf, symudodd y teulu i Lundain, lle roedd ef wedi cerdded i chwilio am waith a chael swydd mewn ffatri gwm cnoi. Dechreuodd Merlyn Rees yn yr ysgol gynradd yng Nghilfynydd, lle'r arhosodd gyda'i fam-gu, cyn symud i gwblhau ei addysg gynradd yn Wembley.

Erbyn bod Rees yn un ar ddeg oed, roedd y teulu wedi ymgartrefu yn Llundain, ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Harrow Weald, lle bu'n ymgeisydd Llafur yn etholiad cyffredinol yr ysgol yn 1935. Symudodd y teulu i Harrow yn 1933. Aeth Rees ymlaen i Goleg Goldsmiths i hyfforddi fel athro, ond torrodd y rhyfel ar ei draws, ac wedi cyfnod byr yn Nottingham ymunodd â'r Awyrlu. Gwasanaethodd yn ardal Môr y Canoldir, gan gynnwys gogledd Affrica gydag Awyrlu'r Anialwch, goresgyniad yr Eidal, a de Ffrainc. Fe'i penodwyd yn Arweinydd Sgwadron yn 24 oed, dyrchafiad anghyffredin i swyddog anhedfannol, a chynigiwyd comisiwn parhaol iddo ar ddiwedd y rhyfel. Serch hynny, dewisodd ailafael yn ei addysg, gan fynychu Ysgol Economeg Llundain, lle'r astudiodd hanes ac economeg dan yr Athro Harold Laski, cyn dychwelyd i Ysgol Harrow Weald fel pennaeth y chweched dosbarth o 1949 i 1960. Cwblhaodd radd meistr hefyd yn 1955. Yn 1949 priododd Colleen Cleveley (g. 1927). Cawsant dri mab, Patrick Merlyn (g. 1954), Gareth David (g. 1956) a Glyn Robert (g. 1960).

Dechreuodd Rees ymhel â gwleidyddiaeth y Blaid Lafur yn ystod y 1950au. Safodd yn etholaeth Harrow East, lle roedd ei ysgol, yn etholiadau cyffredinol 1955 a 1959 a hefyd mewn is-etholiad yn 1959, yn aflwyddiannus bob tro, gan adlewyrchu perfformiad cenedlaethol Llafur. Yn 1960, penodwyd ef gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur, y Cymro Morgan Phillips, i drefnu a goruchwylio'r 'Festival of Labour', a ddigwyddodd yn 1962. Nod yr ŵyl oedd pwysleisio ochr ddiwylliannol y mudiad llafur ehangach, gan gynnwys chwaraeon, sioeau a gorymdeithiau, ac fe'i mynychwyd gan 150,000 o gefnogwyr Llafur dros 16-17 Mehefin 1962 ar safleoedd yn Llundain a Manceinion. Llai na blwyddyn wedyn, ar ôl cyfnod byr yn ddarlithydd mewn Economeg yng Ngholeg Politechnig Luton, ef oedd ymgeisydd y Blaid Lafur i olynu ei diweddar Arweinydd, Hugh Gaitskell, fel AS dros South Leeds mewn is-etholiad ar 20 Mehefin 1963. Cafodd ei ethol a daliodd y sedd tan 1983 ac wedyn y sedd ddilynol Morley and Leeds South tan 1992. Adeiladodd Rees berthynas agos yn y senedd gydag AS Caerdydd a Changhellor yr Wrthblaid James Callaghan, ac fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat iddo (1964-1965) wedi i Lafur ennill etholiad 1964. Bu'r ddau'n gyfeillion a chynghreiriaid gwleidyddol ar hyd eu hoes.

Yn ystod llywodraethau 1964-70, gwasanaethodd Rees mewn nifer o swyddi gweinidogol. Bu'n Weinidog y Fyddin (1965-1966) a Gweinidog yr RAF (1966-1968) yn y Weinyddiaeth Amddiffyn cyn symud yn ôl i weithio fel dirprwy effeithiol i Callaghan yn y Swyddfa Gartref (1968-1970). Yn yr wrthblaid sgrifennodd The Public Sector in the Mixed Economy (1973), llawlyfr yn trafod swyddogaeth y sector gyhoeddus a ddefnyddiwyd ar gyrsiau economeg chweched dosbarth. Er bod y llyfr efallai'n awgrymu uchelgais ym maes yr economi, yn Hydref 1971 ymunodd Rees â chabinet yr wrthblaid ar Ogledd Iwerddon. Roedd ganddo brofiad eisoes o'r argyfwng cynyddol yn y rhanbarth fel cyn-weinidog yn y Swyddfa Gartref, a byddai'r pwnc yn hawlio llawer o'i sylw dros y degawd nesaf. Pan ddaeth Llafur yn ôl i rym dan Harold Wilson, gwasanaethodd Rees fel Ysgrifennydd Gwladol dros Ogledd Iwerddon (1974-1976), ond wrth i gytundeb rhannu pŵer Sunningdale fethu yn sgil streic Cyngor Gweithwyr Wlster, cynyddodd y trais, a methiant fu ei ymgais i reoli'r sefyllfa. Ar ôl i Harold Wilson ymddiswyddo, bu Rees yn gyfrwng i ddarbwyllo Callaghan i sefyll. Trefnodd ymgyrch lwyddiannus ei gyfaill am yr arweinyddiaeth a'i wobr oedd swydd yr Ysgrifennydd Gwladol (1976-1979). Unwaith eto, roedd ymgyrchoedd bomio yr IRA yn flaenllaw trwy'r cyfnod, yn ogystal ag amlygrwydd y Ffrynt Cenedlaethol, ac nid oedd mwyafrif gan y llywodraeth i weithredu diwygiadau a allai fod yn ystyrlon. Nid aeth y cynllun i ddiwygio cyfraith genedligrwydd, er enghraifft, yn bellach nag ymgynghoriad. Serch hynny, er gwaethaf heriau o ran trefn gyhoeddus, cychwynnodd Rees ymchwiliadau pwysig i lygredd yr heddlu ac i wasanaethau cudd Prydain.

Ar ôl i Lafur golli etholiad 1979, arhosodd Rees yng Nghabinet yr Wrthblaid fel llefarydd dros faterion Cartref (1979-1981) ac Ynni (1981-83) a gwasanaethodd ar ymchwiliad Franks i Ryfel y Falklands. Cyhoeddodd gyfrol o fyfyrdodau ar ei ymwneud hir â Ogledd Iwerddon, Northern Ireland: A Personal Perspective ac yn 1987 ymunodd â dirprwyaeth gyda'r Cardinal Basil Hume, yr Arglwydd Devlin, yr Arglwydd Scarman, a Roy Jenkins i ymgyrchu dros ryddhau'r 'Guildford Four' a'r 'Maguire Seven'. Gwrthwynebodd symudiad y blaid i'r chwith dan yr arweinydd newydd Michael Foot ac arhosodd yn aelod llafar a theyrngar o'r meinciau cefn dan Neil Kinnock. Chwaraeodd ran bwysig wrth hyrwyddo'r Ddeddf Troseddau Rhyfel, 1991, a ganiataodd i lysoedd Prydain erlid troseddwyr rhyfel o'r Almaen, a gwasanaethodd ar y Cyngor Safonau Fideo (1990-2006).

Ymunodd â Thŷ'r Arglwyddi yn 1992 pan urddwyd ef yn Arglwydd Merlyn-Rees o Morley and South Leeds yn Sir Gorllewin Swydd Efrog ac o Gilfynydd yn Sir Morgannwg Ganol, gan newid ei enw trwy weithred i Merlyn Merlyn-Rees. Cadwodd gysylltiadau pwysig â de Cymru yn ystod ei flynyddoedd olaf, a derbyniodd LLD er anrhydedd gan Brifysgol Cymru (1987) a Chymrodoriaeth Anrhydeddus gan Goleg Polytechnig Cymru (1989). Pan ddaeth y sefydliad olaf yn Brifysgol Morgannwg bum mlynedd yn ddiweddarach, penodwyd ef yn Ganghellor cyntaf arno (1994-2002). Er gwaethaf salwch tua diwedd ei fywyd, parhaodd yn weithgar yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Bu farw'r Arglwydd Merlyn-Rees ar 5 Ionawr 2006 yn Ysbyty St Thomas, Lambeth. Ar ôl angladd preifat, cynhaliwyd gwasanaeth coffa cyhoeddus yn Eglwys St Margaret, Abaty Westminster ar 20 Ebrill 2006, pan ganodd Côr Meibion Cymry Llundain 'Gwahoddiad' a 'Myfanwy'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-04-04

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.