Ganwyd Thomas Esmor Rhys Roberts (mabwysiadodd 'Rhys-Roberts' fel cyfenw yn ddiweddarach) ar 22 Ebrill 1910, yn 23 Albion Road, Hampstead, yn fab i Arthur Rhys Roberts, cyfreithiwr, a'i wraig Hannah Dilys Roberts (g. Jones), cantores adnabyddus. Roedd Arthur Rhys Roberts wedi bod yn bartner cyfreithiol i David Lloyd George ac yn dal i'w gynghori ar faterion cyfreithiol personol. Un o atgofion cynharaf Thomas oedd mynd gyda'i dad i 10 Downing Street a chael ei osod mewn cadair wrth fwrdd y Cabinet gan Lloyd George, a oedd newydd gael ei benodi'n Brif Weinidog.
Collodd Rhys-Roberts ei dad pan oedd yn ddeng mlwydd oed. Fe'i hanfonwyd i ysgol fonedd Westminster. Er gwaethaf cryfder cefndir cyfreithiol y teulu, dewisodd Rhys-Roberts yrfa fel milwr proffesiynol ac aeth ymlaen i Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst cyn cael ei gomisiynu, yn 1930, i fod yn swyddog yn y fyddin. Gwasanaethodd yn y Dwyrain Pell a bu'n rhan, yn 1935, o'r llu milwrol rhyngwladol a oruchwyliodd y refferendwm yn y Saarland a arweiniodd at ail-uno'r dalaith honno gyda'r Almaen.
Yn fuan wedi hynny, gadawodd y fyddin er mwyn cymhwyso fel bargyfreithiwr, gan gael ei alw i'r Bar yn Gray's Inn yn 1936. Priododd, ym Mehefin 1939, Barbara Ruth Eccles a chawsant un mab, Timothy, a anwyd yn 1941. Erbyn hynny roedd Rhys-Roberts wedi dychwelyd i'r fyddin, gan wasanaethu yng Ngogledd Affrica ac yn yr Eidal, lle gafodd ei glwyfo. Enillodd Fedal Siôr am symud wagen rheilffordd a oedd wedi mynd ar dân ac a oedd mewn perygl o achosi i'r trên cyfan ffrwydro. Gadawodd y fyddin ar ddiwdd y rhyfel fel Is-gyrnol.
Ar ôl iddo ddychwelyd i'r Bar, symudodd Rhys-Roberts i ardal Caerdydd, gan ymgartrefu ym Mro Morgannwg. Adeiladodd bractis llwyddiannus yn ne Cymru, yn bennaf yn y llysoedd troseddol. Er gwaethaf ei wreiddiau Rhyddfrydol, daeth yn aelod amlwg o'r Blaid Geidwadol, gan sefyll yn aflwyddiannus dros y blaid honno yn etholiadau 1950 (Pontypridd) a 1951 (Casnewydd).
Roedd 'Tommy' Rhys-Roberts yn bresenoldeb trawiadol yn y llysoedd. Bu ei daldra (ym mhell dros chwe throedfedd) a'i ddawn gyda geiriau, yn ei alluogi i hoelio sylw rheithgor ar ei ddadleuon yn effeithiol. Roedd ganddo duedd, fodd bynnag, ar lwyfan gwleidyddol yn ogystal ag mewn llys barn, i adael i'w huodledd fynd yn rhy bell a datgelu rhai agweddau rhagfarnllyd. Wrth ymgyrchu dros y Ceidwadwyr yn etholaeth Pontypridd, esboniodd mai swyddogaeth llywodraeth Dorïaidd fyddai ysgubo allan o Dŷ'r Cyffredin drewdod syrffedus sosialaeth ('the cloying stench of socialism'). A phan, yn 1951, amddiffynnodd ddyn o dras Somali o ardal dociau Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddiaeth, awgrymodd ei fod yn dod o ran o'r byd a nodweddwyd gan ffyrnigrwydd hanner gwaraidd ('semi-civilised savagery').
Yn yr achos mwyaf amlwg y bu Rhys-Roberts yn rhan ohono, achos llofruddiaeth yn 1952 yn erbyn Mahmood Mattan, Somali arall (y dyn olaf i gael ei grogi yng ngharchar Caerdydd) dychwelodd at yr un thema. Gwrth-drowyd euogfarn Mattan yn 1998 ar y sail fod yr heddlu wedi cuddio tystiolaeth a oedd yn awgrymu mai gŵr arall oedd wedi cyflawni'r llofruddiaeth. Ond anhawster arall a gafodd yr amddiffyniad oedd perfformiad anfoddhaol iawn Mattan wrth gael ei groesholi gan yr erlynydd, Herbert Edmund Davies. Cred llawer fod Rhys-Roberts wedi gwneud materion yn waeth, wrth geisio perswadio'r rheithgor i anwybyddu gwendidau tystiolaeth Mattan, trwy awgrymu y dylent gofio ei fod, oherwydd ei gefndir, yn gyfuniad o ddiniweidrwydd a ffyrnigrwydd ('half child of nature, half semi-civilised savage').
Achos pwysig arall a gysylltir ag enw Rhys-Roberts oedd un yn Llys y Goron, Amwythig yn 1973. Cynrychiolai un o chwe gweithiwr adeiladu (gan gynnwys un arall - Ricky Tomlinson - a ddaeth wedi hynny'n actor adnabyddus) o ogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Cawsant eu cyhuddo o gynllwynio i drefnu picedu bygythiol tu allan i safleoedd adeiladu yn y cylch yn ystod streic yn y diwydiant. Unwaith eto, diddymwyd yr euogfarnau, bron i hanner canrif yn ddiweddarach, am ei bod wedi dod yn amlwg fod yr heddlu wedi dinistrio tystiolaeth bwysig.
Penodwyd Rhys-Roberts yn Gwnsler y Frenhines yn 1972 a'i wneud, yn yr un flwyddyn, yn farnwr rhan-amser (Cofiadur) yn Llys y Goron. Bu farw o gancr ar 6 Mehefin 1975, prin tair wythnos ar ôl iddo ymddangos olaf yn y llysoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-08-07
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.