Ganwyd Arthur Rhys Roberts ar 27 Ebrill 1872 yn 20 Ogwen Terrace, Bethesda, yn unig blentyn i'r Parch. Thomas Roberts, gweinidog capel Jerusalem (Methodistiad Calfinaidd), a'i wraig Winifred, hithau hefyd yn blentyn i weinidog Methodistaidd, y Parch. Rees Jones (Brynmenai, y Felinheli).
Ar gyfer ei addysg uwchradd, fe'i hanfonwyd i'r Salop School yng Nghroesoswallt, ysgol breswyl anenwadol. Wedi iddo benderfynu dilyn gyrfa gyfreithiol, treuliodd gyfnod o hyfforddiant erthygledig gyda chyfreithiwr ym Mangor, John Glynne Jones. Pasiodd arholiadau terfynol Cymdeithas y Cyfreithwyr yn Ebrill 1894 (gan ddod yn drydydd o holl ymgeiswyr Cymru a Lloegr) a chymhwyso, yn 22 oed, fel cyfreithiwr.
Cafodd ei swydd gyntaf fel cyfreithiwr yn swyddfeydd Lloyd George and George, cwmni'r Aelod Seneddol lleol, David Lloyd George, a'i frawd William George. Ond penderfynodd, ar ôl ychydig o flynyddoedd, dderbyn swydd gyda chwmni Ward, Colbourne a Coulman (oedd hefyd â chysylltiadau Rhyddfrydol cryf) yng Nghasnewydd, Gwent. Yno cafodd gyfle i ddatblygu arbenigedd ym meysydd cyfraith fasnachol a diwydiannol.
Adeg y Pasg 1897, cynigiodd Lloyd George iddo bartneriaeth mewn practis cyfreithiol newydd yn Llundain, cynnig hynod i gyfreithiwr ifanc 25 oed, gyda dim ond tair blynedd o brofiad ers iddo gymhwyso.
Cefndir y cynnig, a dderbyniwyd gan Roberts dim ond ar ôl trafodaethau dwys ynglŷn â thelerau'r bartneriaeth, oedd bod Lloyd George, ers iddo gael ei ethol yn AS yn 1890, wedi ymarfer fel cyfreithiwr, o leiaf mewn enw, o swyddfa yn New Inn yn y Strand a rannai gyda chyfreithiwr arall, Harvey Clifton. Roedd hynny yn ei alluogi i dderbyn, o bryd i'w gilydd, gyfarwyddiadau gan gyfreithwyr gwledig (gan gynnwys Lloyd George and George) i weithredu ar eu rhan fel 'asiant Llundain' mewn achosion o flaen y llysoedd uwch. Ond bu'n rhaid iddo, yn ymarferol, gyflogi Clifton i ddelio gyda'r achosion hynny ar ei ran, gyda'r canlyniad mai Clifton fyddai'n derbyn y rhelyw o'r ffioedd a dalwyd. Erbyn 1897, ac yntau, bellach, yn dad i bedwar o blant, teimlai Lloyd George yr angen i sefydlu practis cyfreithiol go iawn yn Llundain, gyda phartner ifanc medrus ac egnïol i ysgwyddo baich y gwaith bob dydd. Gobeithiai gynyddu ei incwm proffesiynol, sef ei unig incwm heblaw am daliadau achlysurol am erthyglau yn y wasg, gan na thelid cyflog, yr adeg honno, i aelodau seneddol.
Agorodd y cwmni newydd, Lloyd George, Roberts and Company - partneriaeth rhwng David Lloyd George ac Arthur Rhys Roberts yn unig - yn Walbrook yn Ninas Llundain ar 1 Gorffennaf 1897. Symudodd, o fewn ychydig fisoedd, i swyddfa yn Ormond House, yn Queen Victoria Street. Dewiswyd lleoli'r practis yn Ninas Llundain yn hytrach nag yng nghanolfan draddodiadol y byd cyfreithiol o amgylch y Deml a Chancery Lane, yn unol â'r strategaeth o ddatblygu practis ym mhlith cwmnïoedd y Ddinas.
Gwireddwyd, yn raddol, uchelgais y partneriaid o ddatblygu practis cyfreithiol llwyddiannus yn Ninas Llundain, er bod safiad gwleidyddol amhoblogaidd Lloyd George yn erbyn y rhyfel yn Ne Affrica wedi llesteirio'r datblygiad hwnnw am gyfnod. Prif gyfraniad Lloyd George oedd denu cleientiaid, gan elwa ar ei gysylltiadau personol a gwleidyddol, tra bod Roberts yn canolbwyntio ar ddefnyddio ei sgiliau eithriadol fel cyfreithiwr i sicrhau gwasanaeth o'r safon uchaf iddynt. Mae'r dystiolaeth ysgrifenedig yn dangos trylwyrdeb Roberts a'i hyder cynyddol wrth ymdrin â materion cyfreithiol corfforaethol trwm a chymhleth. Roedd y cwmni newydd yn cystadlu gyda chyfreithwyr mwyaf blaenllaw'r deyrnas ac mae'r ffaith iddo lwyddo nid yn unig i ddenu cleientiaid, ond hefyd i'w cadw, yn dysteb i allu proffesiynol eithriadol Roberts.
Cyfyngedig oedd y cysylltiad o ddydd i ddydd gyda phractis cyfreithiol arall Lloyd George yng Nghymru. Bu Lloyd George, Roberts and Company yn derbyn, o bryd i'w gilydd, gyfarwyddiadau i weithredu fel asiantau ar ran Lloyd George and George mewn materion penodol o flaen llysoedd Llundain (er enghraifft yr achos enllib enwog, Lord Penrhyn v Parry yn 1903). Byddai Roberts hefyd yn teithio, yn achlysurol, i gynrychioli cleientiaid Lloyd George and George o flaen llysoedd gogledd Cymru mewn achosion a oedd yn ymwneud â phwnc cyfreithiol masnachol arbenigol fel methdaliad, trwyddedi neu gyfraith gorfforaethol.
Yn ogystal â bod yn gyfreithiwr, roedd Roberts wedi'i gymhwyso fel asiant seneddol, a thrwy hynny'n galluogi'r cwmni i gynrychioli cyrff (gan gynnwys awdurdodau lleol) a oedd yn gwneud cais i'r Senedd am bwerau statudol arbennig, er enghraifft er mwyn ehangu harbwr neu adeiladu rheilffordd. Ym mhlith y ceisiadau y bu ef yn ymwneud â hwy roedd nifer o Gymru, fel y cais ar ran y Portmadoc, Beddgelert and South Snowdon Railway Company am Ddeddf Seneddol preifat i awdurdodu adeiladu rheilffordd o Ryd-ddu i Borthmadog (sydd bellach yn rhan o Reilffordd Ucheldir Cymru).
Rhan o arbenigedd Lloyd George, Roberts and Company oedd byd y cyfryngau torfol cyfoes, sef y wasg ddyddiol. Daethant yn gyfreithwyr i berchnogion papur newydd y Daily News, a oedd o dan reolaeth y diwydiannwr o Grynwr, Joseph Cadbury. Roedd y papur hwnnw'n gefnogol i Lloyd George yn wleidyddol, a bu ef am gyfnod yn gyfarwyddwr y cwmni oedd yn ei redeg. Yn ogystal â gweithredu ar ran y cwmni hwnnw mewn materion corfforaethol, gweithredodd Lloyd George, Roberts and Company ar ran y Daily News mewn nifer o achosion enllib.
Cleient anarferol (a ddenwyd ar sail haeriad Lloyd George ei fod yn arbenigwr mewn materion Affricanaidd) oedd y mudiad Seionistaidd byd-eang. Trefnodd y mudiad hwnnw, trwy un o'i arweinwyr yn y Deyrnas Unedig, y Rhyddfrydwr brwd Leopold Greenberg, i Lloyd George, Roberts and Company (yn ymarferol, Arthur Rhys Roberts) lunio, ar eu cyfer, gytundeb drafft manwl rhyngddynt â Llywodraeth y DU ar gyfer sefydlu gwladfa Iddewig yn Nwyrain Affrica. Er na wireddwyd y cynllun, cafodd y comisiwn ddylanwad mawr ar Lloyd George, a ymffrostiodd i'w frawd ei fod ef ac Arthur Rhys Roberts wedi dod yn 'gyfreithwyr y Gaersalem Newydd'. Gellir dirnad cysylltiad amlwg rhwng y cyfarwyddiadau proffesiynol hynny a phenderfyniad llywodraeth Lloyd George, 14 mlynedd yn ddiweddarach, i greu cartref cenedlaethol i Iddewon ym Mhalesteina.
Ar ddiwedd 1905 penodwyd Lloyd George yn Llywydd y Bwrdd Masnach yn y llywodraeth Ryddfrydol newydd, gyda'i gyflog gweinidogol yn golygu nad oedd yn rhaid iddo, bellach, ddibynnu i'r un graddau ar enillion proffesiynol. Serch hynny, parhaodd y cwmni i ymarfer o dan yr enw Lloyd George, Roberts and Company am chwe blynedd arall ac nid ildiodd Lloyd George ei bartneriaeth yn y cwmni tan 1911. Newidiwyd enw'r practis, y pryd hynny, i Rhys Roberts and Company. Roedd cyfreithiwr ifanc arall o Gymro wedi cael ei recriwtio er mwyn cynorthwyo Roberts, sef Wynn Powell Wheldon, yntau hefyd yn fab i weinidog Methodistaidd o Arfon ac yn hen ddisgybl y Salop School. Nid oedd yn annisgwyl bod y cwmni, yn ogystal â'i gleientiaid yn Llundain, wedi meithrin cysylltiad proffesiynol â'r Hen Gorff a'i weinidogion, gyda Roberts yn rhoi cyngor, yn 1908 i'r Parch. R. Silyn Roberts ar gyhuddiad o enllib a wnaed yn ei erbyn gan weinidog arall (D. M. Phillips, Tylorstown) ar sail sylwadau gan Silyn a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Y Glorian.
Parhaodd y cysylltiad personol a phroffesiynol rhwng Lloyd George ac Arthur Rhys Roberts ar ôl i'w partneriaeth ddod i ben, gyda Roberts yn gweithredu ar ran Lloyd George mewn sawl mater proffesiynol a busnes. Ef a fu'n gyfrifol, yn 1918 (gyda Lloyd George erbyn hynny'n Brif Weinidog) am y gwaith cyfreithiol cymhleth a sensitif a oedd yn ymwneud â sefydlu, o dan gyfarwyddyd Lloyd George, cwmni United Newspapers (1918) Limited. Pwrpas y cwmni hwnnw oedd prynu nifer o bapurau newydd, gan gynnwys y Daily Chronicle, er mwyn sicrhau i Lloyd George gefnogaeth ddibynadwy yn y wasg boblogaidd.
Bu Arthur Rhys Roberts yn aelod blaenllaw o gapel Charing Cross Road, Llundain. Priododd, yn 1907, Hannah Dilys Jones (1882-1967), unawdydd opera nodedig o Sir y Fflint yn wreiddiol. Cawsant un plentyn, Thomas Esmor Rhys-Roberts (1910-1975) a gychwynnodd ei yrfa fel milwr proffesiynol (gan ennill y George Medal yn yr Eidal yn 1943) cyn troi at y gyfraith. Daeth yn Gwnsler y Frenhines (1972) ac yn un o fargyfreithwyr amlycaf cylchdaith Cymru a Chaer.
Bu Arthur Rhys Roberts yn aelod gweithgar o'r Blaid Ryddfrydol ar hyd ei oes, a gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cronfa Goffa T. E. Ellis. Rhoddodd ei enw ymlaen i fod yn ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol ar gyfer etholaeth Arfon pan fu farw'r aelod ar y pryd, William Jones, yn 1915, ond ni chafodd ei ddewis.
Erbyn 1914 roedd ei iechyd wedi dechrau dirywio, a bu'r gwaith o gynnal Rhys Roberts and Company ar ei ben ei hun yn straen ychwanegol. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi arwain at ymadawiad Wynn Wheldon, a oedd wedi ymuno â'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol. Pan ddaeth yn glir yn 1919 fod y Cyfreithiwr Swyddogol, Syr William Winterbotham, ar fin ymddeol, gwelodd Roberts gyfle i ysgafnhau'r pwysau o redeg practis preifat prysur, a gofynnodd i Lloyd George argymell i'r Arglwydd Ganghellor y dylai ef gael ei benodi i'r swydd.
Y Cyfreithiwr Swyddogol oedd (ac sydd o hyd) yn gyfrifol am ddarparu cynrychiolaeth o flaen y llysoedd uwch ar gyfer rhai a oedd o dan anfantais ac na fyddai ganddynt neb, oni bai fod y Cyfreithiwr Swyddogol yn ymyrryd ar eu rhan, i warchod eu buddiannau. Credai Roberts fod ganddo gymwysterau da ar gyfer y swydd, a chafodd gefnogaeth nifer o farnwyr, gan gynnwys ei gyd-Gymro, yr Arglwydd Ustus Atkin. Gan gofio ei bwysigrwydd parhaol i Lloyd George fel cyfreithiwr personol, pwysleisiodd, wrth ofyn am gefnogaeth Lloyd George, na fyddai amodau'r penodiad yn ei atal rhag parhau i wneud rhywfaint o waith preifat ar yr un pryd. Cytunodd Lloyd George i gefnogi'r cais ac fe benodwyd Arthur Rhys Roberts yn Gyfreithiwr Swyddogol y Goruchaf Lys yn Rhagfyr 1919. Fodd bynnag, roedd ei iechyd eisoes wedi'i niweidio cymaint fel nad oedd yn bosibl ei adfer. Bu farw dim ond 11 mis yn ddiweddarach, ar 26 Tachwedd 1920, yn 48 mlwydd oed, o gymhlethdodau yn dilyn llawdriniaeth er mwyn trin briw dwodenol. Fe'i claddwyd ym mynwent Abney Park, Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-05-17
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.