ROBERTS, EVELYN BEATRICE (Lynette) (1909 - 1995), bardd a llenor

Enw: Evelyn Beatrice (Lynette) Roberts
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1995
Plentyn: Angharad Rhys
Plentyn: Prydein Rhys
Rhiant: Ruby Roberts (née Garbutt)
Rhiant: Cecil Arthur Roberts
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd a llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Daniel Hughes

Ganwyd Lynette Roberts ar 4 Gorffennaf 1909 yn Buenos Aires, Ariannin, yr hynaf o bedwar o blant Cecil Arthur Roberts (b. f. 1949), peiriannydd rheilffordd, a'i wraig Ruby (g. Garbutt, b. f. 1923). Evelyn Beatrice oedd ei henwau bedydd, ond gelwid hi'n Lynette gan ei theulu, ac yn nes ymlaen yn ei bywyd defnyddiodd yr enw Lynette Roberts ar gyfer ei holl waith cyhoeddedig. Roedd ganddi ddwy chwaer, Winifred a Rosemary, a'i brawd Dymock oedd y plentyn ifancaf. Roedd teulu Cecil Roberts wedi ymfudo i Awstralia o Ruthun, ac o Awstralia symudodd Cecil i Ariannin i weithio fel peiriannydd rheilffordd. Roedd eisoes yn briod â Ruby, a hanai ei thad-cu hithau o Sir Benfro.

Yn 1914 symudodd y teulu o Buenos Aires i Lundain, lle'r ymrestrodd Cecil yn y lluoedd arfog ac ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd y teulu i Ariannin ar ddiwedd y rhyfel yn 1918, ac addysgwyd y chwiorydd mewn ysgol gwfaint. Medrai Lynette Sbaeneg yn ei phlentyndod (er nad fel iaith gyntaf), a byddai treftadaeth ei magwraeth yn Ariannin yn ddylanwad ar rai o'i cherddi'n ddiweddarach. Bu farw Ruby Roberts o deiffoid yn 1923, pan oedd Lynette yn bedair ar ddeg, a dychwelodd y teulu i Loegr lle'r aeth y merched i ysgol yn Bournemouth. Aeth Dymock i Ysgol Winchester ond bu'n dioddef o sgitsoffrenia ac anfonwyd ef yn un ar bymtheg oed i ysbyty meddwl yn Salisbury lle y bu tan ei farwolaeth.

Yn y 1930au, astudiodd Lynette yn y Central School of Arts and Crafts tra'n byw yn Fitzrovia, a theithiodd gyda'i ffrind Celia Buckmaster i Madeira, lle dechreuodd farddoni a llunio straeon byrion wedi eu hysbrydoli gan ei theithiau, a chyhoeddwyd rhai ohonynt yn Life and Letters Today. Ychydig cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd, teithiodd Lynette trwy Hwngari, Awstria a'r Almaen gyda'i ffrind Kathleen Bellamy, newyddiadurwraig a anfonai adroddiadau i La Nacion gyda darluniau gan Lynette. Ar ôl dychwelyd i Lundain, hyfforddodd fel gwerthwr blodau dan Constance Spry ac agor ei siop ei hun, Bruska.

Roedd Lynette wedi dyweddïo am gyfnod byr â'r milwr a gyrrwr rasio Merlin Minshall, ond torrodd y dyweddïad ar ôl iddi gwrdd â'r Cymro Keidrych Rhys (William Ronald Rees Jones, 1915-1987), bardd, golygydd a llenor, mewn digwyddiad Poetry London yn 1939. Priododd y ddau ar 4 Hydref 1939 yn Llansteffan, gyda'r bardd Dylan Thomas yn was priodas. Ymgartrefodd Lynette a Rhys yn Llan-y-bri, Sir Gaerfyrddin, gan rentu bwthyn o'r enw Tŷ Gwyn. Cadwodd Lynette ddyddiadur yn ystod ei hamser yn Llan-y-bri, o 1939 hyd 1948. Profodd dynfa at ei gwreiddiau Cymreig, gan ymgolli yn y pentref a'i ffyrdd o fyw, ac yno y bu iddi ddatblygu'r pynciau a'r estheteg a fyddai'n diffinio llawer o'i gwaith. Mae ei dyddiadur, ei cherddi a'i hysgrifau o'r cyfnod hwn yn cyfleu argraff fyw o le ac amser neilltuol, yn ogystal â chyflyrau meddwl yn amrywio o symlder delfrydol bywyd y pentref hyd at drychineb a thrawma rhyfel modern. Bu Lynette hefyd yn astudio hanes Cymru, ei mythau a'i chwedlau, blodau a bywyd gwyllt yr ardal, a gohebodd â nifer o lenorion blaenllaw gan deithio i gwrdd â rhai ohonynt. Ymhlith ei gohebwyr pwysig roedd Edith Sitwell, a fu'n hael ei chlod i waith Lynette, ac o 1942, Robert Graves, a gydnabu fod ei White Goddess yn ddyledus i Lynette Roberts.

Gwysiwyd Keidrych Rhys i'r fyddin yng Ngorffennaf 1940, ar ôl i Lynette gamesgor ym Mawrth y flwyddyn honno. Er iddi ymroi i fywyd y pentref, nid oedd cyfnod Lynette yn Llan-y-bri yn ddedwydd bob amser, ac yn 1942 fe'i hynyswyd gan rai o'r pentrefwyr am iddynt gredu ei bod yn ysbïwraig Almaenig. Daliwyd awyrgylch pryderus a straen emosiynol y digwyddiad hwn yn ei dyddiadur a'i cherddi ac mewn ysgrif anghyhoeddedig, er i'w gwaith hefyd fynegi'r llawenydd, y pwrpas a'r ymdeimlad o berthyn a gafodd ym mywyd y pentref.

Deilliodd llawer o ddeunydd creadigol gweithiau pwysicaf Lynette Roberts o'i chyfnod yn byw yn Llan-y-bri ac yn archwilio hanes y pentref a'i ddiwylliant pob dydd, ac o'r Ail Ryfel Byd. Yn 1942 anfonodd rai o'r cherddi at T. S. Eliot yn Faber and Faber, a chafodd ymateb cadarnhaol ganddo. Gwrthododd Eliot gerdd hir, â'r teitl 'A Heroic Poem' yr adeg honno, ond gofynnodd am ragor o gerddi byrion, a chyhoeddwyd y rheini fel y casgliad Poems yn 1944. Mae'r gyfrol honno'n cynnwys cerdd fwyaf adnabyddus Roberts, 'Poem from Llanybri'. Gan gyfarch y milwr a'r bardd Alun Lewis, mae'r gerdd yn wahoddiad i Lan-y-bri, ond y tu hwnt i hynny mae'n gwahodd y darllenydd i gyfranogi yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru a'i hamddiffyn. Yn y modd hwn, gellir gweld Roberts yn ymuniaethu â thraddodiad barddol y gellir ei olrhain i Daliesin yn y chweched ganrif, traddodiad y bardd fel ceidwad ac amddiffynnwr diwylliant dan warchae.

Yn 1948, gofynnodd Eliot am 'A Heroic Poem' drachefn, ac ar awgrym Eliot, ychwanegodd Roberts nodiadau esboniadol ac 'Arguments' i'w thestun, a gyhoeddwyd yn 1951 fel Gods with Stainless Ears. Gods yw campwaith Roberts. Yn gerdd sy'n cyfleu lle ac amser neilltuol, yn gymysgfa gymhleth o ryfel y ffrynt cartref a bywgraffiad barddol, mae Gods yn archwiliad mythaidd a hanesyddol o Lan-y-bri ac yn alwad i'w amddiffyn rhag ymosodiad Ffasgaidd a hefyd rhag unffurfiaeth ddiwylliannol. Ar draws y testun, daw polemig pwerus i'r amlwg yn erbyn rhyfel ac yn erbyn grymoedd totalitaraidd, gan eu cyfuno tua diwedd y gerdd i awgrymu y gallai'r setliad wedi'r rhyfel fygwth y diwylliant penodol yr ymgartrefodd Roberts ynddo. Ar yr un pryd yn ddwys-bersonol ac eto'n anwadadwy gymunedol, mae'n gerdd arbrofol ac idiosyncratig sydd eto'n meddu ar gysondeb trwy ei ffocws neilltuol ar Lan-y-bri. Mae'n waith hynod wreiddiol, o ran ffocws, strwythur ac estheteg, ac mae'n gwreiddio arwriaeth y rhyfel yn Roberts ei hun, ei ffrindiau a'i chymuned, ac fel canu mawl Cymru'r oesoedd canol, mae'n cadw ac yn dwyn i gof gymuned a diwylliant mewn argyfwng.

Hefyd yn Llan-y-bri, lluniodd Roberts y nofel hanesyddol arbrofol 'The Book of Nesta', sef ymgais i adfer ac ail-greu bywyd y dywysoges Nest ferch Rhys, esiampl arall o ymdrechion Roberts i gadw, amddiffyn ac ailadeiladu ei threftadaeth ddiwylliannol leol. Er gwaethaf diddordeb gan Graves, Eliot ac eraill, ni chyhoeddwyd y nofel fyth; yn rhannol oherwydd prinder papur ond hefyd ar ryw ystyr am fod y golygyddion gwrywaidd a ddarllenodd y nofel yn ddall i'w gwleidyddiaeth ddiwylliannol a ffeministaidd. Yn 1944, cyhoeddodd Druid Press Keidrych Rhys An introduction to Village Dialect: and seven stories, an essay and short stories, sef ysgrif a straeon byrion gan Roberts. Yn ystod ei hamser yn Llan-y-bri, gweithiodd Roberts hefyd ar amryw ddarnau rhyddiaith am fywyd y pentref yn y rhyfel, y cyhoeddwyd rhai ohonynt mewn cylchgronau megis The Field, ac arhosodd eraill heb eu cyhoeddi, ac er gwaetha'r pynciau ymddangosiadol eclectig mae llawer ohonynt yn meddu ar yr un cysondeb o'u gweld fel corff o waith ymroddedig i ddiwylliant mewn argyfwng.

Cafodd Roberts a Rhys ddau blentyn. Ganwyd merch, Angharad, ym Mai 1945, a mab, Prydein, yn 1946. Yn 1949 cafodd Lynette ysgariad oddi wrth Rhys a bu'n byw mewn carafán a brynwyd iddi gan ei thad, i ddechrau ym mynwent Talacharn ac wedyn ar safle dibreswyl yn Bell's Wood, Hertfordshire, yn ymyl ysgol breswyl ei phlant. Tra'n byw yn Bell's Wood, ceisiodd lunio blodeugerdd o farddoniaeth ranbarthol, ond ni fu i'r prosiect hwnnw ddwyn ffrwyth, a rhannodd Lynette ei hamser rhwng y garafán a Kent Terrace, Llundain, gan ddal ati i weithio ar ei barddoniaeth ei hun yn ogystal â ffuglen fer anghyhoeddedig a barddoniaeth radio. Darlledwyd 'O Lovers of Death', drama fydryddol, ar Wasanaeth Rhanbarthol Cymru yn 1952, a'r faled radio 'El Dorado' ar y Drydedd Raglen yn 1953. Cyhoeddwyd ei gwaith mawr olaf, The Endeavour, nofel hanesyddol am fordaith gyntaf y Capten Cook, yn 1954 gan Peter Owen, ac erbyn hynny roedd Roberts yn byw yn Chislehurst.

Yn Chislehurst yn 1955-56 datblygodd Lynette y syniad o sefydlu oriel mewn ogofâu cyfagos. Aeth y cerflunydd Peter Danziger ati i naddu cerfluniau i mewn i'r muriau sialc, a pheintiodd yr arlunydd Denis Williams yn syth ar y muriau. Dymchwelodd rhan o'r nenfwd gan anafu Danziger a rhoi diwedd ar yr oriel arfaethedig. Yn sgil y ddamwain hon yn rhannol, dioddefodd Lynette chwalfa nerfol yn 1956, ac yn yr un flwyddyn symudodd i'w chartref cyntaf ei hun yn Chislehurst, a brynwyd iddi gan ei chwaer Winifred. Tra'n gwella o'i chwalfa, daeth Lynette yn un o Dystion Jehovah, a rhoddodd y gorau i ysgrifennu'n greadigol. Dychwelodd i Lan-y-bri yn 1970. Bu'n dioddef o sgitsoffrenia, a danfonwyd hi i Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerfyrddin bedair gwaith. Yn 1983 cyhoeddwyd esiamplau o'i gwaith am y tro cyntaf ers deng mlynedd ar hugain mewn rhifyn arbennig o Poetry Wales, a dyna gychwyn y broses o ailddarganfod Roberts sydd wedi parhau i'r unfed ganrif ar hugain, gyda nifer sylweddol o'i cherddi bellach mewn print, ynghyd â'i dyddiaduron amser rhyfel a detholiad o'i llythyrau.

Symudodd Lynette i Gaerfyrddin ar ôl ei harhosiad cyntaf yn yr ysbyty, ac wedyn i gartref henoed yng Ng yn 1989. Prynodd ei chwaer Winifred fwthyn iddi yn Llandeilo, a thra'n byw yn y cartref henoed byddai'n aml yn bwrw'r Sul yn ei bwthyn. Trwy gydol ei bywyd, mwynhaodd Lynette arlunio a dawnsio, ac fe'i disgrifiwyd gan gyfeillion a theulu yn ddireidus, yn chwilfrydig ac yn ffyrnig o deyrngar. Cafodd godwm a thorri ei chlun tra'n dawnsio yn Rhagfyr 1994, a bu farw o ball ar y galon ar 26 Medi 1995. Fe'i claddwyd ym mynwent Llan-y-bri, ac ar ei charreg fedd y mae'r geiriau 'Lynette Roberts, poet'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-10-10

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.