CONSTANTINE, GEORGE (c. 1500 - 1560?), clerigwr

Enw: George Constantine
Dyddiad geni: c. 1500
Dyddiad marw: 1560?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Glanmor Williams

Ganwyd, yn ôl ei dystiolaeth ei hun (P.R.O. E321/39/24), tua 1500. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt, a graddio yn B.Can.L. yn 1524. Mabwysiadodd athrawiaethau'r diwygiad a ffôdd i Antwerp, lle y bu'n cynorthwyo Tyndale a Joye i gyfieithu'r Testament Newydd ac i gyfansoddi llyfrau yn erbyn eglwys Rufain. Bu'n byw hefyd ym Mharis am gyfnod a gwnaeth ei gartref yno yn ganolfan taenu llenyddiaeth Lutheraidd (L.&P., iv, 4396). Yn ystod y blynyddoedd hyn bu'n ddiwyd gêl-redeg llenyddiaeth waharddedig i mewn i Loegr. Rhestiwyd ef am y gweithgarwch hwn gan Syr Thomas More yn 1531 ac, o dan wasgfa, rhoes wybodaeth am rai o'i gyd-gynllwynwyr. Dihangodd yn gynnar yn 1531 gan ffoi eilwaith i Antwerp. Wedi dychwelyd i Lundain ar farw More aeth i wasanaeth Syr Henry Norris a ddienyddiwyd gydag Ann Boleyn.

Daeth yr esgob Barlow ag ef i esgobaeth Tyddewi a'i wneud yn ficer Llanhuadain. Ar gyfrif rhyw sylwadau a wnaeth ar awr wan wrth John Barlow, (y par. olaf o dan William Barlow) yn 1539 achwynwyd wrth Thomas Cromwell fod Constantine yn uchel sagrafennwr a charcharwyd ef yn Nhŵr Llundain. Daeth yn ôl i ffafr, fodd bynnag, ac yn gofrestrydd Tyddewi yn 1546, yn ymwelydd brenhinol i'r esgobaeth yn 1547, yn archddiacon Caerfyrddin yn 1549, ac yn brebendari Llangamarch. Gan ragflaenu'r polisi swyddogol parodd dynnu i lawr yr allor yn eglwys S. Pedr, Caerfyrddin, a gosod bwrdd yn ei lle, gweithred a achosodd gryn fraw. Er ei fod yn Brotestant selog ac yn gofrestrydd cymerodd ran flaenllaw yn y gwrthwynebiad i'r esgob Ferrar ac eisteddodd yn gyd-farnwr â'r esgob Henry Morgan yn y prawf a fu arno. Yn ddiweddarach ar deyrnasiad Mari, beth bynnag, cymerwyd ei swydd a'i fywoliaethau oddiarno. Yn haf 1559 apwyntiodd Elisabeth ef yn un o'r ymwelyddion dros y gylchdaith orllewinol o esgobaethau, ac yn Nhachwedd 1559 gwnaethpwyd ef yn archddiacon Aberhonddu. Gan i'w olynydd gael ei sefydlu yn yr ofalaeth hon ar 3 Chwefror 1561 ymddengys i Constantine farw yn hwyr yn 1560 neu'n gynnar yn 1561. Bu'n briod ac yr oedd iddo un ferch a ddaeth yn briod i Thomas Young.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.