DAVIES, JOHN (1781-1848), Fronheulog, Llandderfel, Sir Feirionnydd, un o arweinwyr lleyg amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd yn ei ddydd

Enw: John Davies
Dyddiad geni: 1781
Dyddiad marw: 1848
Priod: Jonnet Davies (née Jones)
Rhiant: Gabriel Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o arweinwyr lleyg amlycaf y Methodistiaid Calfinaidd yn ei ddydd
Cartref: Fronheulog
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Yr hynaf o chwe phlentyn

GABRIEL DAVIES (1757 - 1828)

Brodor o Glocaenog, sir Ddinbych, ond daeth i'r Bala, c. 1775-80, fel cyfrwywr. Yna bu'n ddilledydd a groser, ac, yn olaf, datblygodd ar raddfa eang fel cyfanwerthwr hosanau. Yr oedd y Bala yr adeg honno yn ganolfan bwysig i'r fasnach mewn hosanau a weid yn yr ardaloedd oddi amgylch. Allforiai Davies yr hosanau hyn o'r Bermo, gan eu danfon mor bell ag America. Casglodd gyfoeth mawr. Yr oedd yn flaenor blaenllaw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn gefnogwr eiddgar i waith Thomas Charles. Ar ôl marwolaeth Charles cefnogai Davies (1816-7), Thomas Jones (1756 - 1820) a John Hughes (1796 - 1860) yn eu hymdrechion i atal twf Uchel Galfiniaeth yn yr enwad. Priodasai (5 Ionawr 1781) Ann Jones o Gae-gwyn, Rhydlydan. Sally Jones, yn ddiweddarach Mrs. Thomas Charles, oedd y forwyn briodas. Bu farw 6 Awst 1828.

Etifeddodd John Davies (a fedyddiwyd 23 Hydref 1781) lawer o gyfoeth ei dad, a'i ddilyn fel arweinydd yn yr enwad; ond, yn wahanol i'w dad, cofleidiai ef ddiwinyddiaeth geidwadol John Elias, ac ef oedd ei brif gefnogwr lleyg. Gymaint felly nes peri i Michael Roberts (1780 - 1849) o Bwllheli, a alwai Elias yn 'bab' yr enwad yn ei ddicter, i alw Davies yn 'gardinal' i Elias. Gydag Elias yr oedd Davies yn un o'r tri a luniodd ' Weithred Gyfansoddiadol ' (1826) yr enwad. Elias Bassett (gweler Bassett, Richard), y cyfreithiwr a blaenor o Forgannwg, oedd y trydydd. Ysgrifennwyd y weithred gan John Wilks o Lundain, gŵr y bu ei dad, Matthew Wilks, yn un o bregethwyr Whitefield ac yn un o gydweithwyr Thomas Charles ynglŷn â'r Gymdeithas Feiblaidd, ond gŵr y disgrifir ei fab (o'r un enw) yn gwta yn y D.N.B. fel ' swindler '.

Yn 1813 priododd John Davies, Jonnet, merch John Jones, Ty'n-ddôl, Llandderfel, a thua 1815 adeiladodd blasty Fronheulog, gan amgau a datblygu tir oddi amgylch i greu ystad. Yn 1816 yr oedd yn siryf sir Feirionnydd. Achoswyd cynnwrf pan benodwyd ef i'r fainc ustusiaid yn 1822. Fel anghydffurfiwr a masnachwr nid oedd Davies yn dderbyniol gan ei gyd-ustusiaid ar fainc y Bala, ac am rai blynyddoedd gwrthodasant gyd-eistedd ag ef yn y sesiwn fach. Pan ddeuai tro Davies i wasanaethu, byddai raid i Samuel Holland ddyfod trosodd o Ffestiniog er mwyn gwneud i fyny'r nifer angenrheidiol. Rhyfedd yw sylwi bod T. J. Hogg, cyfaill Shelley, yn cymeradwyo agwedd y gwrthwynebwyr. Bu Davies farw 12 Mehefin 1848. Ceir llythyr gan Wordsworth yn ei ganmol (ynghŷd â Thomas Charles a John Elias) am ei deyrngarwch i'r eglwys a'r wladwriaeth, ac am ei welliannau ar ei ystad. Y mae papurau ystad Fronheulog yn awr yn Ll.G.C.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.