Mewn un llawysgrif gelwir ef yn fwy pendant yn ' Iorwerth ap Madog ap Rhahawd ', a gwnai hyn ef yn frawd i'r bardd Einion ap Madog (fl. c. 1237), perthynas a dderbynir gan Syr John Lloyd, A History of Wales , 355. Byddai felly yn un o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu (9ed ganrif), ac yn perthyn i'r teulu y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel teulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, teulu a fagodd gyfreithwyr o gryn fri mewn cyfnod diweddarach. Ceir ymchwiliad manwl i gysylltiadau teuluol Iorwerth yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gweler cyfeiriad isod). Hyd yn oed cyn amser Iorwerth buasai'r teulu yn amlwg ym myd y gyfraith a gweinyddiaeth. E.e. bu cefnder tadcu Iorwerth, sef CYFNERTH (fl. c. 1210) yn gyfrifol am lunio llyfr cyfraith a gysylltid yn wreiddiol â Gogledd Cymru, ond mewn argraffiadau diweddarach â De Cymru. Yn ôl pob tebyg, gor-ewythr Iorwerth, YSTRWYTH (fl. 1204-22; gweler Lloyd, A History of Wales , 622, n. 55 a mynegai), oedd y clerigwr o'r enw hwnnw a wasanaethai fel ysgrifennydd a chennad i Lywelyn Fawr. Credir mai Iorwerth a roddodd ei ffurf derfynol i ' Ddull Gwynedd ', y gorau'i drefniant a'r mwyaf cyflawn o'r Dulliau. Y mae'n amlwg y cyfrifid ef yn ei ddydd yn awdurdod uchel ar y gyfraith, ond ni ellir penderfynu'n fanwl pa beth yn union a ychwanegodd ef at gorff y gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.