Ganwyd yn Lerpwl 21 Chwefror 1916, ond magwyd ef yn y Ro-wen, Dyffryn Conwy, Sir Gaernarfon. Addysgwyd ef yn ysgol y Rowen ac ysgol ramadeg Llanrwst. Bu am gyfnod yn gweithio yn swyddfa Henry Jones, cyfreithiwr yn Llanrwst. Dechreuodd bregethu gyda'r MC a bu dan addysg bellach yng Ngholeg Clwyd, Coleg y Brifysgol, Bangor, a'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Safodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn ystod Rhyfel Byd II a bu'n gweithio ar y tir gartref yn y Ro-wen. Ar ddiwedd y rhyfel ymunodd â'r Annibynwyr ac ar ôl cyfnod byr yng Ngholeg Bala-Bangor, ordeiniwyd ef, a bu'n gweinidogaethu ar eglwysi Peniel a Gerisim, Llanfairfechan 1946-51; Ebeneser, Bangor 1951-65; Salem, Bae Colwyn a Degannwy Avenue, Llandudno 1965-68.
Bwriodd ei brentisiaeth fel bardd ym ' Mhabell awen ' Y Cymro dan gyfarwyddyd Dewi Emrys a daeth dan ddylanwad R. Williams Parry ym Mangor ac E. Prosser Rhys yn Aberystwyth. Enillodd lawer o wobrau eisteddfodol gan gynnwys rhai yn yr Eisteddfod Genedlaethol Ar wahân i fod yn weinidog gofalus a hoffus daeth yn adnabyddus i gylch eang yng ngogledd Cymru fel beirniad eisteddfodol, colofnydd mewn papurau wythnosol, darlledwr ac athro gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth: Yn ieuenctid y dydd (1941) a Y Dwyrain a cherddi eraill (1945). Ar ôl ei farwolaeth cyhoeddwyd trydedd gyfrol o'i farddoniaeth, Yr ysgub olaf (1971). Enillasai radd M.A. Prifysgol Lerpwl yn 1958 am draethawd ar fywyd a gwaith Gwilym Cowlyd a chyhoeddodd ei weddw ef dan y teitl Gwilym Cowlyd 1828-1904 (1976).
Priododd Freda Vaughan Davies, Maesneuadd, Pontrobert a bu iddynt fab a merch. Bu farw yn ei gartref ym Mae Colwyn 13 Mehefin 1968, a chladdwyd ef ym mynwent Bron-y-nant, Bae Colwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.