JONES, ROBERT WILLIAM ('Erfyl Fychan'; 1899 - 1968), hanesydd, llenor, athro ac eisteddfodwr

Enw: Robert William Jones
Ffugenw: Erfyl Fychan
Dyddiad geni: 1899
Dyddiad marw: 1968
Priod: Gwendolen Jones (née Jones)
Plentyn: Geraint Vaughan-Jones
Rhiant: Jane Jones (née Thomas)
Rhiant: Robert William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd, llenor, athro ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Geraint Vaughan-Jones

Ganwyd dydd Calan 1899 ym Mrynllwyni, Pen-y-groes, Sir Gaernarfon, mab ieuangaf Robert William Jones a Jane ei wraig, merch Robert Thomas, Drws-y-coed, Nantlle, y Bedyddiwr selog a gerddai bum milltir bob Sul i addoli yn Llanllyfni. Chwarelwr a thyddynnwr, yn òl arfer y fro, oedd y tad. Cafodd y mab ei addysg yn ysgol sir Pen-y-groes. Wedi dod allan o'r fyddin ar derfyn Rhyfel Byd I aeth i adran hyfforddi athrawon Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a bu am ddwy flynedd yn dysgu yn Birmingham. Penodwyd ef yn brifathro ysgol Trisant, Ceredigion, yn 1922, ac yn 1924 symudodd i fod yn brifathro ysgol waddoledig Llanerfyl ym Maldwyn. Yn 1928 cafodd ysgoloriaeth ymchwil gan y Bwrdd Addysg i astudio hanes bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif tan gyfarwyddyd Thomas Gwynn Jones. Dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth Owen Templeman i'w alluogi i astudio yn Ysgol Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Lerpwl tan gyfarwyddyd John Glyn Davies. Derbyniodd radd M.A. (Lerpwl) am draethawd ar ' The wayside entertainer in Wales in the nineteenth century ' yn 1939, a'r flwyddyn honno penodwyd ef yn brifathro ysgol Berriew Road yn y Trallwng, swydd y bu ynddi nes ymddeol yn 1961. Yn ystod Rhyfel Byd II gwasanaethodd gyda'r gwarchodlu cartref ym Meirion a dyrchafwyd ef i reng milwriad cyn diwedd y rhyfel.

Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr mewn cerdd dant, ac yn 1926 enillodd y wobr gyntaf ar yr unawd canu penillion yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe. Yno hefyd y derbyniwyd ef trwy arholiad i Orsedd y Beirdd. Dylanwadwyd yn drwm arno ym myd 'y pethe' gan Thomas Gwynn Jones, y brodyr Francis o Nantlle, a T. D. James ('Iago Erfyl') rheithor amryddawn Llanerfyl yn y 1920au. Yn y Bala yn 1934 sefydlodd Gymdeithas Cerdd Dant, ac ef oedd ei hysgrifennydd tan 1949 pan etholwyd ef yn Gofiadur yr Orsedd dros gyfnod archdderwyddiaeth Cynan. Buasai'n Arwyddfardd yr Orsedd er 1947 ar ymddiswyddiad Syr Geoffrey Crawshay a daliodd y swydd honno am un mlynedd ar hugain, a gweithredu fel trefnydd yr arholiadau. Bu hefyd yn gofiadur a derwydd gweinyddol Gorsedd Talaith Powys am flynyddoedd lawer.

Cynhaliodd lu o ddosbarthiadau nos ar hanes a llên Cymru a bu'n ddiflino yn diogelu a hyrwyddo Cymreigrwydd yn ei sir fabwysiedig. Cyfrannodd lawer o raglenni i wasanaeth ysgolion y B.B.C. yng Nghymru ac ysgrifennodd lawer erthygl i Allwedd y Tannau, Y Ford Gron, Powysland collections, a Jnl. of the Gipsy Lore Soc. Gohebai â John Sampson ar faterion ynglŷn â'r sipsiwn Cymreig. Cyhoeddodd Bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif, 1931, a chyfrol o farddoniaeth, Rhigwm i'r hogiau, 1949.

Priododd â Gwendolen Jones o Aberystwyth yn 1929, a bu iddynt ddau fab. Bu farw ym Mynytho, 7 Ionawr 1968, a chladdwyd ef ym mynwent Pen-y-groes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.