JAMES, THOMAS DAVIES ('Iago Erfyl '; 1862 - 1927), offeiriad, pregethwr a darlithydd poblogaidd iawn;

Enw: Thomas Davies James
Ffugenw: Iago Erfyl
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1927
Priod: Emma James (née Jones)
Rhiant: Thomas James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad, pregethwr a darlithydd poblogaidd iawn;
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Enid Pierce Roberts

Mab Thomas James a'i wraig; ganwyd ym Manafon, Sir Drefaldwyn, 13 Awst 1862. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Wyddi-goed, Llanfechain, ond gan iddo golli ei rieni yn gynnar, gyda'i daid a'i nain, yn y Garth Isaf, Rhosybrithdir, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, y magwyd ef.

Dechreuodd bregethu gyda'r Wesleaid yn Rhosybrithdir; aeth i goleg Didsbury, Manceinion, ac wedi mynd trwy'r arholiadau'n llwyddiannus, penodwyd ef yn gynorthwywr yng nghylchdaith y Wesleaid yn Llanfyllin, cylchdaith a oedd yn cynnwys Llanfair Caereinion hefyd y pryd hwnnw. Yn fuan wedyn, efallai tan ddylanwad teulu ei ddarpar-wraig (Emma Jones, Rhos-y-glasgoed, Meifod; fe'u priodwyd Medi 1890), trodd at yr eglwys, ac yn 1888 aeth i goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Urddwyd ef yn ddiacon yn Llanelwy 1891, ac yn offeiriad 1892. Bu'n gurad Llanfair Caereinion o Ragfyr 1891 hyd Hydref 1896; yn gurad Llaneurgain, Sir y Fflint, 1896-7; ac yn gaplan eglwys Gymraeg S. Martin, Caer, o 1897 hyd 1901 pan benodwyd ef gan yr Arglwydd Ganghellor yn offeiriad plwy Llanerfyl, Sir Drefaldwyn (un o fywiolaethau'r Goron), ac yno y treuliodd weddill ei oes. Ef a ddewiswyd i ddilyn Penfro (William Morgan) fel deon gwlad Caereinion, 1918; etholwyd ef yn aelod o fwrdd gwarcheidwaid Llanfyllin, yn aelod o gyngor dosbarth Llanfyllin, yn aelod o gyngor sir Drefaldwyn ac o'r pwyllgor addysg.

Edrychai'r Wesleaid arno fel olynydd i John Evans, Eglwys-bach, a phan oedd yn gurad yn Llanfair Caereinion yr oedd ei bregethu yn denu tyrfa i'r eglwys. Gwnaeth ei huodledd a'i ffraethineb ef yn enwog fel pregethwr a darlithydd, yn Gymraeg a Saesneg, a byddai galw amdano nid yn unig led-led Cymru ond yn nhrefi Lloegr hefyd. Bu'n pregethu yn Llundain yn ystod rhyfel 1914-8, yn eglwys gadeiriol Lerpwl 1927, ac ef a ddewiswyd i draddodi'r bregeth Gymraeg yn eglwys S. Paul, Llundain, 1928. Ei ddarlithiau mwyaf poblogaidd oedd y rheini ar Robert Owen, Twm o'r Nant, Mynyddog, Ceiriog, Y Bardd Cwsg, Owain Glyndŵr ac Ann Griffiths. Byddai'n egluro'i ddarlithiau (cyn dyddiau llusern) â chyfres o ddarluniau, wedi eu tynnu ganddo ef ei hun â phin ac inc, ar roliau mawr symudol. Byddai galw amdano i arwain eisteddfodau; yr oedd ganddo gyfoeth o storïau, ac ateb parod i bawb. Yr oedd yn aelod o Orsedd a Chymrodoriaeth Talaith Powys, ac yn eisteddfod genedlaethol Caerfyrddin, 1911, urddwyd ef yn fardd dan yr enw ' Iago Erfyl '. Ysgrifennai lawer i'r papurau lleol; am flynyddoedd ef oedd yn ysgrifennu'r golofn Gymraeg, colofn Y Gigfran, ym Mhapur y Drenewydd ' (The Montgomeryshire Express).

Ar un adeg yr oedd yn Dori selog, ac yn benboeth yn erbyn datgysylltiad, ond pan ddaeth hynny'n rym fe'i derbyniodd a gweld ynddo fwy o ryddid i'r eglwys a'i swyddogion. Yn ystod rhyfel 1914-8 trodd yn sosialydd.

Fe'i trawyd yn wael wrth bregethu yn eglwys gadeiriol Lerpwl, ac er iddo geisio cymryd gwasanaethau am ddau Sul wedi hynny, ildio fu raid. Bu farw yn nhŷ ei ferch, yn Addiscombe, Surrey, Gorffennaf 30, 1927, ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanerfyl 3 Awst. Yr oedd gymaint ei barch gan yr ymneilltuwyr â chan eglwyswyr, a'r nos Sul ganlynol, 7 Awst, pan gynhaliwyd gwasanaeth coffa yn eglwys Llanerfyl, yr oedd pob capel ac eglwys yn Nyffryn Banw wedi cau. Wrth draddodi'r bregeth angladd dywedodd y parchedig ganon J. R. Roberts, Llanfihangel (mab Elis Wyn o Wyrfai), ei fod yn haeddu ei restru yn gyfochrog â gwroniaid pennaf y pulpud yng Nghymru, megis John Elias a Williams o'r Wern. Gadawodd briod (bu farw Ebrill, 1939), mab a merch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.