Ganwyd yn y Mynydd-bach, tyddyn ger pentre Hermon ym mhlwy Llanfyrnach, Penfro, 28 Rhagfyr 1879, yn ail fab o bump o blant Dan a Mari Lewis. Bu'r tad yn gweithio yng ngwaith mwyn plwm Llanfyrnach nes i hwnnw gau a'i orfodi yntau i fynd i chwilio am waith yn Aberdâr, lle y cafodd ddamwain ddifrifol a'i gorfododd i roi'r gorau i'w waith. Bu farw yn 43 mlwydd oed o glefyd y gwaith plwm. Serch hynny, cafodd y plant fagwriaeth dda a chyfle i ymddatblygu, dau ohonynt i gyrraedd safleoedd o barch mewn addysg a bancio, ond y pregethwr oedd cyfraniad mwyaf nodedig y Mynydd-bach.
Cafodd David John ei addysg gynnar yn ysgol elfennol Hermon, lle y buasai'r Prifathro Thomas Rees yn ddisgybl ryw ddeng mlynedd o'i flaen. Derbyniwyd ef i'r ysgol ar 7 Gorffennaf 1884; yr oedd T. E. Nicholas yn un o'i gyfoedion yno. Y prifathro ar y pryd oedd John Davies o'r Felin-foel, disgyblwr llym, a ddilynasai Robert Bryan yn 1883. Yr ôl yr erthygl honno bu Bryan yn ysgolfeistr yn yr Hendy-gwyn ar Daf, ond cyfeiriad post ysgol Hermon oedd hwnnw. Pwysicach na'r ysgol hon yn natblygiad y pregethwr oedd dylanwad Ysgol Sul Brynmyrnach. Yn 14 oed prentisiwyd ef yn deiliwr gyda Dafydd Jones, Brynawel, Hermon. Yr oedd yn un o naw o brentisiaid nodedig am eu talentau. Adlewyrchid disgyblaeth y grefft hon yn niwyg drwsiadus y pregethwr dros weddill ei oes. Ffynnai crefydd a diwylliant yn y fro honno, ac o dan ddylanwad cryf ei fam, ysbrydiaeth gwyr llên yr ardal, Brynach Davies yn enwedig, a gweinidogion praff fel John Stephens, Llwyn-yr-hwrdd, tad yr Athro J. Oliver Stephens, O. R. Owen, Glan-dwr, a Ben Davies, Tre-lech, taniwyd ef â'r awydd i fod yn bregethwr.
Wedi tymor yn ysgol Myrddin (Ysgol yr Hen Goleg) yng Nghaerfyrddin derbyniwyd ef yn 1901 i'r Coleg Coffa yn Aberhonddu. Wedi peth anhawster gyda'i fathemateg cwplaodd amodau derbyniad i Brifysgol Cymru a dechreuodd ar gwrs gradd yng Ngholeg Caerdydd yn 1903. Graddiodd gydag anrhydedd (dosbarth 2) mewn Hebraeg yn 1905. Am y ddwy fl. nesaf bu'n dilyn cyrsiau B.D. yn y Coleg Coffa. Cafodd farciau llawn yn arholiad Groeg y T.N. yn 1906 a chlod arbennig gan yr arholwr ar athroniaeth crefydd. Cwplaodd ail flwyddyn y B.D. yn haf 1907, ond erbyn hynny yr oedd eglwys ieuanc frwdfrydig Bethesda, Y Tymbl, wedi rhoi galwad iddo ers mis Chwefror. Ordeiniwyd ef yn weinidog arni 3 Gorffennaf 1907, ac yno yr arhosodd i gario'r enw 'Lewis Tymbl' dros weddill ei oes.
Buan y daeth yn anwylyn pulpudau Cymru, gydag apêl ei bersonoliaeth fagnetig yn fwy bron na'i bregethu. Pregethau un pwynt oedd ganddo bob amser, a hwnnw'n cyrraedd uchafbwynt wrth gloi gyda sydynrwydd annisgwyl. Daeth galw mawr am ei wasanaeth o bob rhan o Gymru. Ei bregethau enwocaf a mwyaf adnabyddus oedd ' A fynni di dy wneuthur yn iach? ' ('Roll up the mat'); ' Mair yn torri'r blwch ennaint ' ('She smashed the alabaster box'); ' Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd '; ' Hwy a aethant i'w gwlad ar hyd ffordd arall '; ac ' Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Useia y gwelais i yr Arglwydd '. Yn cydgerdded â'i bregethau yr oedd ei ddarlithiau poblogaidd - ' Y gelf o fyw '; ' David Livingstone '; a ' Shôn Gymro '. Oddi ar nodiadau ar gardiau post y pregethai a chas oedd ganddo ysgrifennu dim, na chael ei gyfyngu i sgript. Dyna paham y gwrthodai bregethu ar y radio ar ôl un tro.
Ef oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr am 1945-46, a thraddododd ei anerchiad ' Bwrw'r draul ', yn Ebenezer, Abertawe ym Mehefin 1945. Cyhoeddwyd hwnnw yng nghofiant Ieuan Davies, a hefyd un o'i bregethau yn Llef y Gwyliedydd (gol. E. Curig Davies 1927). Ni ellid trosglwyddo'i bersonoliaeth fyw i bapur.
Ni bu'n briod a threuliodd ei ddeugain mlynedd mewn dau lety yn y Tymbl. Cymerwyd ef yn wael ym mis Rhagfyr 1946, a bu dan driniaeth lawfeddygol yng Nghaerdydd. Ni chafodd bregethu wedyn, a bu farw 10 Mawrth 1947 yn ysbyty Treforus. Claddwyd ef ym mynwent Crymych ar Sul 16 Mawrth wedi i'r storm eira fwyaf o fewn cof atal yr angladd y diwrnod cynt. Cyhoeddwyd llyfryn coffa.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.