Fe wnaethoch chi chwilio am dic jones
Ganwyd Arthur ap Gwynn 4 Tachwedd 1902, yr ail o dri phlentyn Thomas Gwynn Jones, y bardd nodedig, a Margaret Jane Jones yng Nghaernarfon (Eluned oedd yr hynaf a Llywelyn, yr ieuangaf) pan oedd ei dad yn gweithio ar y papurau, Yr Herald Cymraeg, Papur Pawb a'r Carnarvon & Denbigh Herald. Symudodd y teulu i Ddinbych yn 1906, Yr Wyddgrug yn 1907 a dychwelyd i Gaernarfon yn 1908, cyn symud i Aberystwyth yn 1909. Ar wahân i gyfnod yng Nghaerdydd rhwng 1926 ac 1932 a chyfnod byrrach yn Abertawe rhwng 1942 ac 1945, treuliodd Arthur ap Gwynn y rhan fwyaf o'i fywyd yn Aberystwyth a'r ardal o gwmpas. Pan ddychwelodd i Aberystwyth yn 1945 aeth i fyw ar y Waun-fawr ac yn 1967 symudodd gyda'i wraig i fyw ym mhentref Eglwys-fach, Ceredigion, lle bu'n byw hyd nes iddo farw.
Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Ardwyn, Aberystwyth, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1923. Enillodd radd M.A. (Cymru) yn 1926 am ei draethawd 'A comparison of the Welsh version of Amlyn ac Amic with the French and Latin versions, with a study of the grammatical forms and syntax of the Welsh version'. Ar ôl graddio, cafodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle y bu hyd 1925. Rhwng 1926 ac 1932 yr oedd yn bennaeth yr adran Gymraeg yn Llyfrgell Rydd Caerdydd cyn dychwelyd i Aberystwyth yn llyfrgellydd Coleg Prifysgol Cymru. Bu yn y swydd o 1932 hyd Chwefror 1942, pan ymadawodd dros dro i wasanaethu yn y gwasanaeth tân yn Abertawe, ac o fis Mehefin 1945 hyd 1967 pryd yr ymddeolodd oherwydd afiechyd, cyfnod o dros 31 mlynedd.
'Stori o ddechreuadau bychain a chynnydd araf a dyfodol ansicr braidd': dyna fel y disgrifiodd Arthur ap Gwynn ei gyfnod yn llyfrgellydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gorffennodd J. D. Williams, ei ragflaenydd, ei adroddiad ar Lyfrgell y Coleg yn y llyfr The College by the Sea (golygydd: Iwan Morgan, 1928) gyda chyfeiriadau at y Llyfrgell yn tyfu i'w 'maint presennol o tua 50,000 o gyfrolau ac eithrio llyfrgelloedd dosbarth neu seminâr' ac at symud y llyfrau ar fathemateg a ffiseg i'r Llyfrgell Wyddonol. Trwy symudiadau o'r fath o'r brif lyfrgell 'llwyddwyd i ennill lle ychwanegol o dro i dro, ond ni ddylid caniatáu i'r drefn dameidiol hyn fynd ymlaen yn amhenodol.' Fodd bynnag, fe barhawyd â'r polisi hwn. Yr oedd Cemeg wedi gadael y prif adeiladau yn 1907 ac yr oedd y Llyfrgell Wyddonol yn cynnwys, yn ychwanegol at Fathemateg a Ffiseg, y rhan fwyaf o lyfrau'r coleg oedd yn ymwneud â'r gwyddorau eraill. Fel y datblygodd yr adrannau hyn, a'u llyfrau yn cymryd mwy a mwy o le yn y Llyfrgell Wyddonol, bu rhaid iddynt symud allan. Rhwng 1928 ac 1932 (blwyddyn apwyntiad Arthur ap Gwynn), yr oedd yr adrannau Amaethyddiaeth, Botaneg, Daeareg, Daearyddiaeth a Sŵoleg wedi eu sefydlu mewn adeiladau allanol gyda'u llyfrau. Yr oedd hyn yn digwydd hefyd yn y Llyfrgell Gyffredinol pryd y symudodd yr Adran Economeg allan yn gyntaf a dilynwyd hyn ar ôl cyfnod hir gan yr Adran Addysg, Adran y Gyfraith ac Almaeneg yn 1956, ac yn olaf adrannau'r Clasuron.
Yn y 1950au, fodd bynnag, lleihaodd nifer y llyfrgelloedd adrannol yn dilyn uno llyfrgelloedd adrannau perthnasol. Yn 1954 ffurfiwyd Llyfrgell yr adrannau Daearyddiaeth a Daeareg; ac yn 1959 ffurfiwyd Llyfrgell Bywydeg drwy uno llyfrgelloedd Botaneg a Sŵoleg. Parhawyd y broses o uno llyfrgelloedd adrannau perthnasol yn y 1960au. Yn 1962 symudodd llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol i lawr uchaf adeilad y Gwyddorau Ffisegol ar Benglais ac amsugnwyd trydedd adran gan greu Llyfrgell Fathemateg, Ffiseg ac Ystadegau; fis Medi 1965 agorwyd Llyfrgell Economeg, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gwyddor Gwleidyddiaeth, Y Gyfraith, Daearyddiaeth a Daeareg yn Llyfrgell newydd Llandinam. Oherwydd trosglwyddo nifer o gasgliadau i Lyfrgell Llandinam, symudwyd casgliadau ieithoedd a llên yr Almaen, a fuasai yn Llyfrgell yr Ieithoedd Modern er 1963, i ystafell a adawyd yn wag gan symudiad Llyfrgell y Gyfraith. Symudwyd hefyd y casgliad Rwsieg i'r un ystafell yn Rhif 11 Glan y môr. Symudwyd Llyfrgell Adrannol Addysg i Ffordd Alexandra, yr hen lyfrgell Daearyddiaeth/Daeareg.
Pan ymddeolodd Arthur ap Gwynn, yr oedd y llyfrgelloedd adrannol canlynol hyn yn bodoli: Llyfrgell Sefydliad Gwyddor Gwlad yn canolbwyntio ar Amaethyddiaeth ac yn gweithio'n agos â'r Adeiladau Llaethyddiaeth er eu bod ar wahân; Llyfrgell Gemeg; Llyfrgell Gerddoriaeth a oedd bron yn gwbl annibynnol; Llyfrgell Economeg Amaethyddol a oedd yn gwbl annibynnol. Yr oedd llyfrgell y Fridfa Blanhigion Gymreig hefyd yn annibynnol er yn cyd-weithio â Llyfrgell y Coleg gan roi gwybod am ei hychwanegiadau o lyfrau a chyfnodolion.
Erbyn 1962 yr oedd gan y llyfrgell 154,000 o gyfrolau ar ei silffoedd. Yr oedd cyfanswm o 75,000 o gyfrolau yn y Llyfrgell Gyffredinol gan gynnwys Llyfrgell y Clasuron; 72,000 o gyfrolau mewn llyfrgelloedd adrannol gan gynnwys y Llyfrgell Wyddonol; 7,000 o gyfrolau a oedd mewn casgliadau a seminarau eraill. Yr oedd lle i 300 o ddarllenwyr yn y Llyfrgell Gyffredinol a Llyfrgell y Clasuron, a 365 o lefydd yn y llyfrgelloedd adrannol. Erbyn 1967 yr oedd gan y llyfrgell dros 200,000 o gyfrolau ar ei silffoedd.
Annigonol oedd y ddarpariaeth cyllid ar gyfer cyflogau staff, llyfrau a chyfnodolion yn ôl y llyfrgellwyr. Yr oedd J. D. Williams wedi gweld y Llyfrgell yn tyfu i'w 'maint presennol gyda staff o bedwar yn hytrach nag un' yn 1928. Yr oedd presenoldeb o 500 o fyfyrwyr Coleg Prifysgol Llundain yn y coleg adeg rhyfel 1939-45 yn achosi problemau lle a staffio. Benthyciwyd byrddau trestl a 120 o gadeiriau o Neuadd y Plwyf fel mesurau dros-dro ac mewn ymateb i gais am staff ychwanegol cytunodd Coleg Prifysgol Llundain, i drosglwyddo dau aelod o'i staff llyfrgell i'r coleg. Yn Chwefror 1942 gadawodd Arthur ap Gwynn ei swydd fel Llyfrgellydd er mwyn cyflawni ei wasanaeth cenedlaethol ac apwyntiwyd Mrs E. C. Gwynn, priod ei frawd Llywelyn, yn llyfrgellydd gweithredol yn ei absenoldeb. Ailafaelodd yntau yn ei ddyletswyddau 1 Mehefin 1945 ar ôl bod yn absennol am gyfnod o dair blynedd a thri mis. Er bod un yn llai ar y staff yn ystod y rhyfel, sef y llyfrgellydd ei hun (yr unig ddyn), pedwar oedd ar y staff yn 1945. Ond yr oedd rhifau myfyrwyr (a oedd mor isel â chwe chant cyn 1939) yn codi eto, i uchafswm o tua 1,240 yn y blynyddoedd yn syth ar ôl y rhyfel. Yr oedd y cynnydd yn nifer y myfyrwyr yn gorfodi'r awdurdodau i ychwanegu at rif y staff a darparu mwy o gyllid. Graddol oedd y cynnydd er bod sefydlu'r adran gatalogio fel uned ar wahân wedi achosi ymchwydd sydyn yn 1958. Agorwyd Adran Ffotograffiaeth yn 1965. Erbyn 1962 yr oedd 19 ar y staff ac erbyn i olynydd Arthur ap Gwynn, sef Dr Hywel D. Emanuel, gael ei apwyntio yr oedd bron 40 ar y staff.
Ysbeidiol oedd y cynnydd yn y gwariant ar lyfrau a chyfnodolion, blwyddyn fain (neu flynyddoedd) yn aml yn dilyn blwyddyn fwy hael. Gosodwyd i fyny drefn o ddarparu grant arbennig ar gyfer pennaeth adran newydd wrth ei apwyntio i'w alluogi i lenwi bylchau yn y casgliadau ar ei bwnc rhwng 1932 ac 1939, ac fe roddwyd grantiau arbennig hefyd o dro i dro. Yn gyffredinol, ystyrid grantiau adrannol yn annigonol iawn hyd yn oed at bwrcasu llyfrau yn unig, gan eu bod yn dwyn y gost o gyfnodolion a rhwymo hefyd. Yn 1937 cytunodd y Pwyllgor Llyfrgell i osod cronfa gyfnodolion a chronfa rwymo, i'w rheoli ei hun; yr oedd yr arian ar gyfer y rhain yn dod drwy dynnu o'r grantiau adrannol y swm a bennwyd yn flaenorol ar gyfer y ddau bwrpas hynny. Hyd yn oed yn 1962 pan oedd grant y llyfrgell gymaint bedair gwaith yn fwy na'r hyn ydoedd yn 1947, yr oedd y llyfrgellydd yn ymwybodol o'r angen i fod yn ddarbodus o safbwynt cyfnodolion a rhwymo, a phrofiad y rhan fwyaf o'r adrannau oedd cyfyngu eu dewis o lyfrau er mwyn cadw gwariant o fewn terfynau.
Erbyn y 1960au yr oedd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn datblygu'n gyflym i fod yn 'Goleg ar y Bryn' yn hytrach na'r 'Coleg ger y lli.' Nid oedd adeilad Yr Hen Goleg, a oedd yn cynnwys y Llyfrgell Gyffredinol, mwyach yn brif ffocws y gweithgarwch academaidd. Blwyddyn ar ôl blwyddyn yr oedd y gorlenwi yn gwaethygu. Mabwysiadwyd argymhellion Pwyllgor Robbins ar Addysg Uwch yn syth gan y llywodraeth a chyflymwyd y broses o newid. Yn 1965 yr oedd nifer y myfyrwyr yn croesi 2,000 (1,500 yn 1960). Flwyddyn ynghynt cymerwyd y camau ansicr cyntaf tuag at lyfrgell ganolog newydd pan sefydlwyd gweithgor i ystyried cynllunio prif lyfrgell y dyfodol 'ar y bryn.' Ymddeolodd Arthur ap Gwynn yn 1967, y flwyddyn y gwelwyd cyhoeddi adroddiad Pwyllgor Grantiau Prifysgol, Report of the Committee on Libraries, gyda phrifathro'r Coleg, Dr Thomas Parry, yn gadeirydd arno. Geiriau olaf y llyfrgellydd i lywodraethwyr y Coleg ym mis Medi 1967 oedd: 'A derbyn bod yr amgylchiadau yn ffafriol, gan gynnwys derbyniad cyffredinol i angenrheidrwydd yr achos, gobeithir gweled eto sylfaen llyfrgell newydd yn cael ei gosod.' Bu Arthur ap Gwynn fyw i weld agoriad Llyfrgell Hugh Owen 1 Medi 1976. Ychydig cyn ei farwolaeth gwaddolodd Lyfrgell Hugh Owen â chronfa er mwyn pwrcasu llyfrau ar archaeoleg er cof am ei wraig a'i fab, Rhys, a fu farw yn 1943.
Fe wnaeth Arthur ap Gwynn gyfraniad i lyfryddiaeth Cymru. Yn Llyfrgelloedd yng Nghymru - proceedings, 1933 cyhoeddodd ei 'Modern Welsh books from point of view of Reader and Librarian'. Yr un flwyddyn ymddangosodd y gyfrol gyntaf o gyhoeddiad llyfryddol pwysig o dan ei olygyddiaeth, sef Subject Index to Welsh Periodicals, Vol. I, 1931 (Wales and Monmouthshire Branch of the Library Association). Ymddangosodd yr ail gyfrol am 1932-33 yn 1936, y drydedd gyfrol am 1934-35, yn 1937, pob un wedi'i olygu gan Arthur ap Gwynn ac Idwal Lewis o'r Llyfrgell Genedlaethol. Erbyn 1952 pan ymddangosodd y bumed gyfrol am y blynyddoedd 1938-40, enw Idwal Lewis yn unig ymddangosodd fel golygydd er bod enw Arthur ap Gwynn yn cael ei gydnabod yn y Rhagair. Y mae'n amlwg fod cysylltiad Arthur ap Gwynn â'r cyhoeddiad wedi gorffen ac yr oedd y gwaith o gasglu a golygu yn cael ei wneud yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ysgrifennodd Arthur ap Gwynn deyrnged i Geidwad Llyfrau Printiedig y Llyfrgell Gendlaethol a fu farw yn 1950, sef William Williams, yn Llyfrgelloedd yng Nghymru - proceedings, 1950 ac yn Barn Medi 1969 'Nawddogi Awduron' oedd teitl ei ysgrif ar fater Hawliau Benthyca Cyhoeddus.
O 1949 ymlaen yr oedd Arthur ap Gwynn naill ai'n cynorthwyo ei dad, yn adargraffu ei weithiau, yn ysgrifennu amdano neu yn casglu cyfeiriadau ar gyfer llyfryddiaeth arfaethedig o weithiau T. Gwynn Jones. Ymddangosodd ei nodiadau cyntaf ar ei dad yn Y Llenor 28 (1949) tt. 54-5, 'Manylion ynglyn â'i Fywyd a'i Waith'. Ailysgrifennwyd ei gyfraniad yn 1982 pan ymddangosodd yn Thomas Gwynn Jones, golygwyd gan Gwynn ap Gwilym (Llandybie: Gwasg Christopher Davies), y drydedd gyfrol yng Nghyfres y Meistri, tt. 41-60, 'Thomas Gwynn Jones: Dyddiau a Gweithiau'. Yn yr un gyfrol adargraffwyd ei ysgrif 'T. Gwynn Jones' a ymddangosodd yn Yr Efrydydd, I, 1950, tt. 11-15, ei gyfraniad i rifyn coffa canmlwyddiant 'Thomas Gwynn Jones a David de Lloyd', Y Traethodydd (Ionawr 1971) tt. 77-89, ac ysgrif a ymddangosodd yn Taliesin, 24 (1972), tt. 11-24, 'I Aberystwyth Draw.' Yn 1950 cyhoeddwyd ar y cyd â'i dad Geiriadur-Cymraeg a Saesneg-Cymraeg (Caerdydd: Hughes a'i Fab a'r Educational Publishing Company). Ymddangosodd argraffiad diwygiedig yn 1953. Yn Taliesin, 16 (Nadolig 1969), tt. 120-5, yn ei ysgrif ar 'Thomas Gwynn Jones' yr oedd yn cywiro ac yn ychwanegu ffeithiau newydd. Ymddangosodd Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950 yn 1970 gyda chyfraniad gan Arthur ap Gwynn a'i frawd yng nghyfraith, Francis Wynn Jones. Cyhoeddwyd y fersiwn Saesneg yn 2001 yn The Dictionary of Welsh Biography 1941-1970, tt. 145-6. Yn 1972 Arthur ap Gwynn oedd yn gyfrifol am adargraffu Y Dwymyn 1934-35 adargraffiad gyda rhagair gan Arthur ap Gwynn (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).
Cyfrannodd dros saith ugain o gyfeiriadau beirniadol ac astudiaethol i Lyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg a olygwyd gan Thomas Parry a Merfyn Morgan (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976). Yn 1979 ymddangosodd ei adargraffiad o Welsh Folklore and Folk-custom T. Gwynn Jones (Cambridge, D. S. Brewer) lle'r ychwanegodd ragair a nodiadau llyfryddol yn cynnwys manylion am y gwaith a gyflawnwyd ar lên gwerin Cymru er pan ymddangosodd y llyfr yn 1930. Ni roddodd dim fwy o bleser iddo na gweld cyhoeddi Cofiant i'w dad yn 1973 gan David Jenkins a Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones wedi'i olygu gan D. Hywel Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru) yn 1981. Cyfrannodd 550 o gyfeiriadau i'r olaf.
Yn 1933 priododd Arthur ap Gwynn â Catherine Eluned Isaac. Yr oedd hi'n gyn-fyfyrwraig o'r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cawsant dri o blant, Nonn, Rhys a fu farw'n bedair oed yn 1943 yn Abertawe, a Ceredig. Bu ei wraig farw fis Ebrill 1975. Tal, unionsyth ei ymarweddiad ac yn benderfynol gyda chysgod o wên dros ei fwstas, yr oedd Arthur ap Gwynn o gymeriad cryf gydag argyhoeddiadau cryfion, yn arbennig ynglyn â'r iaith ysgrifenedig a llafar. Yr oedd ei ddiddordebau yn eang ac yn amrywiol, yn arbennig gerddoriaeth glasurol a thrafaelu yn Ffrainc. Bu farw yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, 10 Rhagfyr 1987, yn 85 oed. Ar ddiwrnod ei angladd, 16 Rhagfyr, cynhaliwyd gwasanaeth coffa yng nghapel y Coleg. Gweddïwyd a darllenwyd o'r Ysgrythurau gan y Parch D. R. Thomas a thraddodwyd teyrnged gan yr Athro Emeritws J. E. Caerwyn Williams. Canwyd emyn T. Gwynn Jones 'Gosber' ar y dôn Ombersley. Gwasgarwyd ei lwch yng nghanolbarth Cymru.
Gadawyd ei bapurau i Lyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth, 'Papurau Thomas Gwynn Jones ac Arthur ap Gwynn'.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.