Fe wnaethoch chi chwilio am Seneddol

Canlyniadau

ROBERTS, EMRYS OWEN (1910-1990), gwleidydd Rhyddfrydol a gwas cyhoeddus

Enw: Emrys Owen Roberts
Dyddiad geni: 1910
Dyddiad marw: 1990
Priod: Anna Elizabeth Roberts (née Tudor)
Plentyn: Owen Roberts
Rhiant: Mary Grace Roberts (née Williams)
Rhiant: Owen Owens Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Rhyddfrydol a gwas cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yng Nghaernarfon ar 22 Medi 1910, yn fab i Owen Owens Roberts a Mary Grace Williams, y ddau ohonynt yn frodorion o Gaernarfon. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Caernarfon, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y Gyfraith a Gwobr Syr Samuel T. Evans) a Choleg Gonville a Chaius, Caergrawnt (anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn Rhan I a Rhan II o Dreipos y Gyfraith, MA). Daeth yn gyfreithiwr ym 1936 a dyfarnwyd iddo Wobr Clements Inn. Bu hefyd yn mynychu Ysgol Genefa mewn Cyfraith Ryngwladol. Roedd yn Fedalydd Aur Cymdeithasau'r Gyfraith Caergrawnt a Chymru. Gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol, 1940-45, lle ddaeth yn arweinydd-sgwadron. Galwyd ef i'r bar o Gray's Inn ym 1944. Gwnaethpwyd ef ym MBE ym 1946 ac yn CBE ym 1976.

Roedd Emrys Roberts ar y rhestr fer ar gyfer dewis ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon (hen sedd Lloyd George) yn is-etholiad 1945. Etholwyd ef yn fuan yn AS dros sir Feirionnydd yn etholiad cyffredinol 1945 yn olynydd i Syr Henry Haydn Jones, a pharhaodd i gynrychioli'r sir yn y senedd nes iddo ei cholli i'r Blaid Lafur yno yn etholiad cyffredinol Hydref 1951. Roedd yn gyfarwyddwr ar nifer fawr o gwmnïau masnachol. Roedd yn Llywydd Cynghrair Cenedlaethol y Rhyddfrydwyr Ifanc, 1946-48, a Phlaid Ryddfrydol Cymru, 1949-51. Roedd yn aelod o Gyngor Ewrop, 1950-51. Roedd hefyd yn aelod o ddirprwyaethau seneddol i'r Almaen, Iwgoslafia, Romania a Sweden. Er mai am chwe blynedd yn unig y bu Emrys Roberts yn eistedd dros sir Feirionnydd, gwnaeth argraff fawr ar ei gyd-aelodau seneddol o'r cychwyn cyntaf oherwydd cyflymder ei feddwl a'i dueddiadau radicalaidd amlwg. Canolbwyntiodd ar faterion Ewropeaidd, yr economi a materion Cymreig. Rhoddai'r rhan fwyaf o'i amser i ddadleuon mewnol ei blaid ar gyfeiriad gwleidyddol y Rhyddfrydwyr yn y dyfodol. Yn gyffredinol roedd Roberts yn rhannu syniadau'r Fonesig Megan Lloyd George (AS Sir Fôn) a Dingle Foot (AS Dundee) y dylai'r blaid symud ymhellach i'r chwith. Roedd felly yn dueddol o anghydweld â'i ffrindiau a'i gymdogion mwy adain-dde fel Clement Davies (AS Sir Drefaldwyn) a Roderic Bowen (AS Ceredigion). Roedd ei orchfygiad ym 1951 yn ergyd drom i AS gweithgar dros ei etholaeth. Credai amryw i Blaid Cymru dynnu eu hymgeisydd hwy yn ôl o'r frwydr fel cam tactegol i hwyluso llwyddiant y Blaid Lafur yn yr etholiad ac felly caniatáu i Gwynfor Evans, llywydd y blaid, gael brwydr yn erbyn AS Llafur yn unig mewn etholiadau'r dyfodol. Dywedwyd i fwyafrif y cenedlaetholwyr yn y sir bleidleisio i Lafur ym 1951 er mwyn curo Emrys Roberts.

Bu Roberts yn aelod o'r Cyngor ar Statws Cyfreithiol yr Iaith Gymraeg yn y Llysoedd Barn. Gwasanaethodd ar Bwyllgor yr Arwisgo o dan Dug Norfolk ym 1969. Roedd yn aelod o Gorfforaeth Datblygu Canolbarth Cymru, 1969-77, a'i gadeirydd ym 1977, yn aelod o Asiantaeth Datblygu Cymru, 1977-81, a chyfarwyddwr Corfforaeth Datblygu Cymru, 1978-81. Deuai i'r swyddi hyn â meddwl creadigol a sgiliau proffesiynol a gwleidyddol sylweddol. Roedd yn aelod o lys a chyngor Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1972-85, a chadeirydd Cyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1964-67, ac yn gyfreithiwr anrhydeddus iddo, 1957-74. Profodd ei hun yn gadeirydd hynod effeithiol a blaengar o gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd ar y cyd The Law of Restrictive Trade Practices and Monopolies. Priododd Anna Elizabeth Tudor ym 1948, a bu iddynt un mab ac un ferch. Roedd y mab Owen wedi marw cyn ei dad. Eu cartref oedd Bryn Dedwydd, Dolgellau a Court House, Basil Street, Llundain a 8 Kent House, 62 Holland Park Avenue, Llundain W11. Mae ei bapurau yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw ar 29 Hydref 1990.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau