PARRY-WILLIAMS, DAVID EWART (1900-1996), cerddor

Enw: David Ewart Parry-williams
Dyddiad geni: 1900
Dyddiad marw: 1996
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganwyd yng Nglyn-nedd, Morgannwg, 25 Mehefin 1900, yn fab i ysgolfeistr Glyn-nedd, Tom Williams, a'i wraig Mary Ann a gadwai Swyddfa'r Post yn y pentref. Cafodd hyfforddiant mewn cerddoriaeth gan ei ewythr, organydd Bethania, Glyn-nedd, a bu'n cyfeilio ar y sielo mewn cerddorfa fach yng nghapel Bethania. Pan symudodd ei ewythr i Lundain i fod yn organydd capel Cymraeg Charing Cross cafodd y nai gyfle i ymweld ag ef a chlywed organyddion proffesiynol mewn eglwysi mawr. Wedi cyfnod yn y llynges ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, gan raddio mewn cemeg a chael tystysgrif athro: cadwodd ei ddiddordeb mewn peiriannau ar hyd ei oes.

Yn 23 oed enillodd ysgoloriaeth i astudio cerddoriaeth yng Nghaerdydd o dan yr Athro David Evans: yr oedd y gyfansoddwraig Grace Williams yn gyd-efrydydd ag ef. Bu'n athro yn ysgol yr Eglwys Gadeiriol, Llandaf ac yn Ysgol Lewis, Pengam cyn cael ei benodi'n ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Parhaodd i astudio cerddoriaeth, gan ennill LRAM mewn canu piano, cael gwersi arwain gydag Adrian Boult yn Llundain, a graddio'n D.Mus. (Cymru) yn 1941. Yn y 1930au yr oedd yn un o'r cyntaf i gyfrannu i raglenni cerddoriaeth y BBC i ysgolion, ac yn ystod yr un cyfnod bu'n organydd a chorfeistr capel Pembroke Terrace yng Nghaerdydd.

Yn 1943 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, yn olynydd i E. T. Davies, a derbyn Cadair mewn Cerddoriaeth ym Mangor yn 1963. Yn ystod ei yrfa yno datblygodd lawer ar yr Adran Gerdd. Brwydrodd i sefydlu cyrsiau gradd mewn cerddoriaeth, a phenododd gyfansoddwyr megis Reginald Smith Brindle (ei olynydd yn y gadair) a William Mathias yn ddarlithwyr. Fe'i cyfrifid yn athro ysbrydoledig, llawn brwdfrydedd a hiwmor. Ymddeolodd yn 1967 a dychwelyd i Gaerdydd.

Oherwydd ei ymrwymiad i ddysgu ac i ddatblygu'r adran ym Mangor, nid oedd yn gyfansoddwr toreithiog, ond perfformiwyd ei 'Introduction and Allegro' yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhos 1945 gan Gerddorfa Simffoni Llundain. Mae ei gyfansoddiadau yn draddodiadol eu ffurf a'u tonyddiaeth ac yn gywrain a manwl eu gwneuthuriad, ond cymerai hefyd ddiddordeb byw mewn cerddoriaeth gyfoes. Cyhoeddwyd nifer o'i drefniannau o alawon gwerin yn ystod ei oes ac wedi ei farwolaeth. Ei gyhoeddiad mwyaf llwyddiannus oedd ei werslyfr A Music Course for Students (1937), a gafodd gylchrediad eang yn ysgolion Cymru a thu hwnt, ac a ymddangosodd hefyd yn Gymraeg dan y teitl Elfennau Cerddoriaeth (1938).

Bu'n beirniadu'n gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Eisteddfod Llangollen ac ef oedd sefydlydd Ysgol Haf Cerddoriaeth Harlech. Ef hefyd oedd Cadeirydd cyntaf Pwyllgor Cerddoriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru (1955-62). Yr oedd yn aelod o Fwrdd Gwasg Prifysgol Cymru ac yn un o'r panel a luniodd Termau Cerddoriaeth (1984).

Priododd ag Avarina Davies yn 1931 a chawsant un ferch, Ann. Bu farw yng Nghaerdydd, 10 Medi 1996. Sefydlwyd efrydiaeth yn ei enw ym Mangor gydag arian a ewyllysiodd i'r Coleg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-01

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.