Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.
Mab Llywelyn ap Seisyll (bu farw 1023) ac Angharad ferch Maredudd ab Owain, brenin Deheubarth.
Prin yw'r wybodaeth am ei ieuenctid ond cadwyd rhai traddodiadau yn straeon Gwallter Map. Fel llanc yr oedd yn araf a diantur, meddir, ond yn ddiweddarach fe'i trowyd gan uchelgais yn ŵr dewr, beiddgar, wedi'i ddonio â dychymyg ac unplygrwydd. Pan laddwyd Iago ab Idwal yn 1039 gan ei wŷr ei hun, daeth Gruffudd ap Llywelyn yn frenin Gwynedd a Phowys. Yn union wedyn trawodd ergyd yn erbyn Saeson Mercia ym mrwydr Rhydygroes-ar-Hafren a gyrrodd hwynt yn waedlyd ar ffo. Dug y fuddugoliaeth hon ef i amlygrwydd, ac o hyn hyd ei farwolaeth parhaodd yn darian i'w wlad ac yn ddychryn i'w gelynion. Ar ôl taro gwŷr Mercia a sicrhau'r gororau troes ei sylw at y Deheubarth, lle yr oedd Hywel ab Edwin yn frenin. Ni wyddys llawer am yr ymrafael rhwng y ddau, ond yn 1040 ymosododd Gruffudd ar Geredigion a llosgi Llanbadarnfawr. Yn 1041 bu Gruffudd eilwaith yn fuddugol ar Hywel ym mrwydr Pencader, ond ni lwyddodd i'w lwyr drechu, achos yn 1042 gorchfygodd Hywel lu'r Cenhedloedd Duon yn Mhwlldyfach (heddiw Pwlldyfarch) ger Caerfyrddin. Dwy flynedd wedyn (1044) dug Hywel lynges o'r Cenhedloedd Duon gydag ef o Iwerddon ond fe'i lladdwyd mewn brwydr ffyrnig yn erbyn Gruffudd yn Abertywi. Hyd yn oed ar ôl hyn ni allodd Gruffudd feddiannu Deheubarth; cododd Gruffudd ap Rhydderch ap Iestyn i'w wrthwynebu. Yn 1045, yn ôl Brut y Tywysogion (Peniarth MS 20 , 18a), bu twyll mawr a brad rhwng Gruffudd ap Rhydderch a'i frawd Rhys a Gruffudd ap Llywelyn. Bu'n rhaid i Ruffudd gael help Swegen fab Godwin i geisio cynnal ei awdurdod yn Neheubarth. Yn 1047 lladdwyd tua 140 o 'deulu' Gruffudd drwy dwyll uchelwyr Ystrad Tywi, ac i ddial hynny anrheithiodd Gruffudd Ddyfedac Ystrad Tywi; ond ni allodd wneud mwy na hynny ac am yr wyth mlynedd ar ôl hynny yr oedd gan Ruffudd ap Rhydderch afael sicr ar Ddeheubarth. Troes Gruffudd ap Llywelyn ei egnïon i gyfeiriad arall; yn gynnar yn haf 1052 cyrchodd i wlad Henffordd a gorchfygodd lu cymysg o Saeson a Normaniaid ger Llanllieni. Yn 1055 lladdodd Ruffudd ap Rhydderch a chael meddiant o Ddeheubarth o'r diwedd. Hefyd, mewn cynghrair ag Ælfgar o Fercia, ymosododd ar Saeson a Normaniaid Henffordd o dan iarll Ralph, gyrrodd hwynt ar ffo a llosgodd y dref. Gyrrwyd Harold Iarll i ddial yr ymosodiad ond ni lwyddodd ond i atgyweirio Henffordd a dod i delerau gydag Ælfgar. Yn 1056 dug Leofgar, esgob Henffordd, fyddin yn erbyn Gruffudd ac ar 16 Mehefin bu brwydr rhyngddynt yn nyffryn Machawy. Unwaith eto bu Gruffudd yn fuddugol. Wedyn trwy ymdrechion yr ieirll Harold, Leofric o Fercia, ac Ealdred o Gaerwrangon daethpwyd i gytundeb a thyngodd Gruffudd ffyddlondeb i'r brenin Edward. Tua'r adeg yma hefyd priododd Gruffudd Ealdgyth ferch Ælfgar, a phan alltudiwyd Ælfgar drachefn yn 1058 helpodd Gruffudd ef, gyda chynhorthwy Magnus Haroldson, i ennill ei diroedd yn ôl. Yr oedd y cytundeb agos rhwng Gruffudd ac Ælfgar yn sicrhau diogelwch i Gymru, ond tua diwedd 1062, pan oedd Ælfgar wedi marw, ymosododd Harold Iarll yn ddirybudd ar lys Gruffudd yn Rhuddlan ond llwyddodd Gruffudd i ddianc. Yn 1063 lladdwyd Gruffudd ' drwy dwyll ei wŷr ei hun,' medd B.T., wedi iddo fod 'yn ben ac yn darian ac yn amddiffynnwr i'r Brytaniaid.' Gadawodd Gruffudd ddau fab, Maredudd (bu farw 1070) ac Idwal (bu farw 1070), ac un ferch, Nest, yr hon a briododd Osbern FitzRichard.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.