Rydych yn darllen erthygl a archifwyd.

LLWYD (LHUYD), HUMPHREY (1527 - 1568), meddyg a hynafiaethydd

Enw: Humphrey Llwyd
Dyddiad geni: 1527
Dyddiad marw: 1568
Priod: Barbara Llwyd (née Lumley)
Plentyn: Lumley Llwyd
Plentyn: Jane Llwyd
Plentyn: Humphrey Llwyd
Plentyn: John Llwyd
Plentyn: Henry Llwyd
Plentyn: Splendian Llwyd
Rhiant: Joan Llwyd (née Pigott)
Rhiant: Robert Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Meddygaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Frederick John North

Ganwyd 1527 yn Ninbych, mab Robert Llwyd (neu Lloyd) a Joan, merch Lewis Pigott. Cafodd ei addysg yn Rhydychen; B.A. 1547, M.A. 1551. Bu'n dysgu ffisigwriaeth a bu'n feddyg preifat i arglwydd Arundel, canghellor Prifysgol Rhydychen, eithr dychwelodd i Ddinbych yn 1563. Er ei fod yn dilyn ei alwedigaeth fel meddyg yr oedd i Lwyd ddiddordeb mewn cerddoriaeth a'r gwyddorau; galwodd Anthony à Wood ef yn ' person of great eloquence, an excellent rhetorician, a sound philosopher, and a most noted antiquary.' Priododd Barbara, chwaer ac aeres John, yr arglwydd Lumley olaf, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Gwerthwyd i'r brenin Iago I lyfrau y bu Llwyd yn eu casglu i'r arglwydd Lumley; y maent yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Arwyddair Llwyd, yn ôl darlun 'mezzotint' ohono a wnaethpwyd gan J. Faber (1717), oedd ' Hwy pery klod na golyd.' Ymysg gweithiau cyhoeddedig Llwyd y mae: An Almanack and Kalender containing the Day, Hour, and Minute of the Change of the Moon for ever; De Mona Druidium Insulâ, llythyr, dyddiedig 5 Ebrill 1568, wedi ei gyfeirio at Abraham Ortelius, cyhoeddwr, Antwerp, ac wedi ei gyhoeddi mewn argraffiadau o atlas y cyhoeddwr, sef Theatrum Orbis Terrarum (yn Lladin, 1603; yn Saesneg, 1606); Commentarioli Descriptionis Britannicae Fragmentum (Cologne, 1572), a gyfieithwyd yn Saesneg gan Thomas Twyne o dan y teitl The Breuiary of Britayne, 1573; cyfieithiad Saesneg o'r hanes yr arferid ei briodoli i Caradog o Lancarfan a fersiwn wedi ei helaethu o lyfryn gan Syr John Price, Aberhonddu, The Description of Cambria, a ddaeth yn sylfaen The Historie of Cambria David Powel, 1584; The Treasury of Health, a gyhoeddwyd yn 1585 ar ôl marw Llwyd; cyfieithiad o Thesaurus Pauperum Petri Hispani, gyda chyfraniad gan Llwyd, The causes and signs of every Disease, with Aphorisms of Hippocrates.

Trwy wr arall o Ddinbych, sef Syr Richard Clough, a fu'n byw am gyfnod yn Antwerp, y daeth Llwyd i gyswllt ag Ortelius. Mewn canlyniad i hyn paratodd Llwyd fap (llawysgrif) o Gymru - ' Cambriae Typus ' - a map o Loegr a Chymru; ymddangosodd y ddau am y tro cyntaf yn 1573, mewn atodiad i'r Theatrum a gyhoeddodd Ortelius yn 1570 i gychwyn. Mewn llythyr a anfonodd gyda'r map eglurodd Llwyd fod ei fap o Gymru yn rhoddi hen enwau afonydd, trefi, pobl, a lleoedd yn ogystal â'r enwau Saesneg cyfoes, a bod map Lloegr a Chymru yn cynnwys yr hen enwau a roddid gan Ptolemaeus, Plinius, ac eraill. Yr oedd yr awdur, felly, yn golygu i'r mapiau fod yn ddogfennau hanesyddol a daearyddol. Cwpláwyd hwynt ychydig fisoedd cyn marw Llwyd, a hwy oedd y mapiau cyntaf o'r gwledydd arbennig hyn a argraffwyd ar wahân; parhawyd i adargraffu'r map o Gymru hyd 1741. Traethir ar y gwahanol broblemau ynglyn â pharatoi'r mapiau gan F. J. North yn Humphrey Lhuyd's maps of England and Wales (a gyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1937). Bu Llwyd farw 31 Awst 1568 yn Ninbych, ac yno, yn yr Eglwys Wen, y claddwyd ef.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.