CADFAN (fl. 620), tywysog

Enw: Cadfan
Plentyn: Cadwallon ap Cadfan
Rhiant: Iago ap Beli
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

Mab Iago ap Beli (bu farw 613) o linach Maelgwn Gwynedd. Gwyddys iddo deyrnasu dros Wynedd, ond nid oes dim arall o'i hanes ar gael. Y mae ei garreg fedd (dechrau'r 7fed ganrif) yn eglwys Llangadwaladr, sir Fôn, ac arni'r arysgrif: 'Catamanus rex sapientisimus opinatisimus (“mwyaf enwog”) omnium regum.' Rhydd traddodiad le iddo ym mucheddau'r santes Gwenffrewi a'r sant Beuno; ffug gan mwyaf ydyw'r hanes a geir gan Sieffre o Fynwy amdano, eithr y mae'n bosibl credu mewn rhan y dywediad iddo roddi lloches i Edwin o Ddeira pan gofir un o'r trioedd sydd yn disgrifio'r gŵr o Northumbria yn un o dri gormeswr ar sir Fôn a fagwyd ar yr ynys.

Cadfan oedd tad Cadwallon, arweinydd y Cymry yn ymladdfeydd yr oes nesaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.