Ganwyd 14 Chwefror 1764 yn Kingston, sir Faesyfed. Ymddengys iddo dderbyn cyfran o'i addysg dan David Lloyd, Llanbister - gweler NLW MS 4954C . Derbyniwyd ef i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, 21 Mai 1784 (B.A. 1788, M.A. 1792, D.D. 1825). Bu'n athro yn ysgol Dr. Thomson, Kensington, 1788, ordeiniwyd ef (yn Henffordd) 30 Mai 1790, a dyfod yn gurad Kington, Swydd Henffordd; cafodd urddau offeiriad ar 17 Mehefin 1791. Daeth yn ail feistr yn y King's School, Caer, 1794, yn gurad Eccleston gerllaw, ac yn ganon yn eglwys gadeiriol Caer. Ychydig yn ddiweddarach gwnaethpwyd ef yn brifathro ysgol ramadeg Croesoswallt; cafodd ficeriaeth Llanyblodwel yn 1798. Priododd (1), 1793, Caroline, merch John Thomson, marsiandwr, Edinburgh, a (2), 1798, Alice, merch John Croxon, Croesoswallt. Llwyddodd i adfer i feddiant ysgol Croesoswallt 26 erw o dir a gollasid iddi oherwydd dibristod rhai o'i ragflaenwyr. Ymddeolodd o swydd prifathro yn 1833 a mynd i fyw i ficerdy Llanyblodwel, lle y bu farw 23 Ionawr 1844. Daeth dau fab iddo, James a Stephen, hanner-brodyr, yn offeiriaid; dilynodd Stephen ei dad fel pennaeth ysgol Croesoswallt.
Y mae yng nghadw yn Ll.G.C. lawer o lythyrau a ysgrifennodd James Donne at (neu a gafodd yntau oddi wrth) rai o Gymry blaenllaw ei gyfnod - Walter Davies ('Gwallter Mechain'), W. J. Rees, Cascob, Hugh Davies, awdur Welsh Botanology, Rowland Williams, Ysceifiog, John Jenkins ('Ifor Ceri'), etc.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.