Ceir amryw gopïau o'r dosbarth hwn. Mynnai'r copïwyr weithiau mai Edern, mab Padarn Beisrudd, ydoedd, hynny yw, mai ef oedd tad Cunedda Wledig ! Dywedai'r Dr. John Davies, ar y llaw arall, mai tua 1280 y blodeuai. ' Iolo Morganwg ' oedd y cyntaf i haeru mai ei waith ef oedd y gramadeg a gysylltir ag enwau Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug, a chan mai ei gopi ef ydoedd ffynhonnell yr un a ddefnyddiodd John Williams ('ab Ithel') wrth gyhoeddi'r gramadeg hwnnw, rhoes iddo'r teitl, Dosparth Edeyrn Davod Aur, 1856. Ceisiodd Syr John Morris-Jones brofi mai gwaith 'ffug-hynafol o'r unfed ganrif ar bymtheg' yw'r dosbarth a dadogir arno yn y llawysgrifau, ac i'r ffugiwr (pwy bynnag ydoedd) ei alw'n ' Edern ' oherwydd bod yr enw'n debyg i ' Herodian,' hen ramadegwr o'r ail ganrif Ac nid yw ' Dafod Aur ' namyn cyfieithiad o'r cyfenw Groeg ' Chrysostom.' Er hynny, gellir tybied fod y dosbarth yn gynharach nag a awgrymir gan Syr John, oherwydd sonnir am 'Ddull Edern Dafod Aur' ym marwnad Tudur Aled gan Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan. Y mae'n eglur ei fod wedi ennill ei blwyf fel un o'r hen awdurdodau erbyn 1525, ac felly y mae'n fwy na thebyg fod y dosbarth yn perthyn i'r ganrif flaenorol. Rhaid with fwy o ymchwil cyn medru datrys y broblem hon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.