JONES, EDWARD (fl. 1781-1831), ‘Ned Môn’

Enw: Edward Jones
Ffugenw: Ned Môn
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

— ond sylwer mai llysenw yw hwn, ac nid ffugenw llenyddol. Etholwyd ef yn aelod o Wyneddigion Llundain yn 1781; bu'n ysgrifennydd iddi yn 1782 ac yn llywydd yn 1785, ac yr oedd yn aelod am ei oes o'i chyngor. Dywedir yn aml mai bargyfreithiwr oedd, ac yn wir geilw William Owen Pughe ef yn ‘Ned Môn the lawyer,’ a sonia Leathart (Origin and Progress of the Gwyneddigion, 31) am ei ‘chambers in the Temple,’ ond dylid cofio mai ‘the Temple’ a roddir fel cyfeiriad Robert Hughes (‘Robin Ddu’) yn rhestr aelodau'r Cymmrodorion yn 1778, a gwyddom mai clerc mewn swyddfa cyfreithwyr oedd hwnnw; gan nad ymddengys enw unrhyw Edward Jones yn rhestrau unrhyw un o'r ‘Inns of Court,’ haws yw credu mai clerc oedd ‘Ned Môn’ yntau. Priodola ‘Gwilym Lleyn’ dri llyfr iddo: cyfieithiad Saesneg o ddau draethawd gan Cicero, 1776; Cyfreithiau Plwyf — Holl Ddyledswydd Swyddogion Plwyf, 1794; a Index to Records … of the Exchequer (dwy gyfrol), 1793 a 1795, gan ‘Edward Jones, Inner Temple.’ Sut bynnag y mae esbonio'r ‘Inner Temple’ yn wyneb y ffaith a nodwyd uchod, bydd yn rhaid wrth amgenach tystiolaeth cyn y gellir bod yn ffyddiog mai ‘Ned Môn’ biau'r cyntaf a'r trydydd. Ychydig a ddywed Leathart amdano, ond ei fod yn flaenllaw yn y Gwyneddigion; edrydd (t. 31) hanes ysgarmes ddigri rhyngddo ef a David Samwel. Dywedodd Pughe wrth Leathart ei fod yn ‘prominent orator,’ ac edrydd David Samwel mewn llythyr at ‘Gwallter Mechain’ (Trans. Cymm., 1926-7, 130) iddo ddadlau ar wleidyddiaeth, yn erbyn ‘Owain Myfyr’ ac ym mhlaid Samwel, yng Nghymdeithas y Caradogion yn 1797. Cydnabyddir ei help (a help ei frawd Owen) yn y rhagymadrodd i Dafydd ap Gwilym, 1789. Ym Mharis yr oedd yn byw pan sgrifennodd Leathart ei lyfr (t. 37), ac efo oedd yr hynaf o aelodau'r Gwyneddigion a oedd yn fyw pan gyhoeddwyd y llyfr. Yr oedd ganddo ddau frawd: OWEN JONES (‘Owain Môn,’ neu ‘Cor y Cyrtie’ — enw a awgryma ei fod yntau'n glerc cyfreithiwr), a fu'n ysgrifennydd y Gwyneddigion yn 1789, yn is-lywydd yn 1792, ac yn llywydd yn 1793, ond a oedd wedi m. pan sgrifennodd Leathart; a WILLIAM JONES (‘Bardd Môn’), a fu farw yng Ngorffennaf 1820 (Leathart, 57) — yr oedd ef yn aelod hefyd o'r Cymreigyddion, a bu'n llywydd iddynt (Y Llenor, 1938, 231).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/