JONES, JOSEPH (1786? - 1856), llenor a stiward gweithfeydd

Enw: Joseph Jones
Dyddiad geni: 1786?
Dyddiad marw: 1856
Plentyn: Jonathan Jones
Rhiant: Martha Jones
Rhiant: Jacob Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor a stiward gweithfeydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Richards

Mab Jacob Jones, garddwr ('Jacob Glochydd') a'i wraig Martha, bedyddiwyd yn Amlwch 27 Rhagfyr 1786.

Yn y dauddegau yr oedd yn swyddwr pwysig yng ngwaith copr Mynydd Parys ym Môn, yn enwedig gyda'r peiriau puro ('smelting works'), ond yr oedd mor biwus ac uchelgeisiol ei ddulliau nes i bethau fyned yn bur ddrwg rhyngddo ef a swyddwyr eraill fel James Treweek a Thomas Beer; a chyn 1830 daeth ei gyswllt effeithiol â'r gweithiau i ben. Am dymor byr bu'n cadw masnach flawd ym Melin Adda ger Amlwch; a'i gam nesaf oedd dod i Gaernarfon fel un o brif swyddogion Thomas Assheton Smith o'r Faenol, ac arolygu ar ei ran weithiau copr Drws-y-coed a Llanberis. Hyn o gwmpas 1835-1840; yn Slater's Directory am 1844 disgrifir ef fel ' mine agent ' ar ei ben ei hun (ceir enw Joseph Jones fel rheolwr gwaith nwy Caernarfon o 1856 i 1860, ond y mae sicrwydd mai gwr arall hollol oedd hwnnw). Nid oes y ddadl leiaf am allu a gwybodaeth Joseph Jones y stiward; yr oedd iddo lawysgrif gelfydd nodedig; a medrai saernïo llythyr neu femorandwm yn gryno argyhoeddiadol.

Fel Eglwyswr mawr a Thori rhonc yr oedd yn amlwg ym mywyd cyhoeddus tref Caernarfon o dan yr hen drefn cyn diwygiad mawr y corfforaethau yn 1835; nid oedd pleidwyr mwy selog i'r Tori Bulkeley Hughes yn lecsiwn fawr y bwrdeisdrefi yn 1837 nag ef a'i fab Jonathan.

Yr oedd iddo gryn enw fel llenor a hynafiaethydd, er ei bod yn anodd erbyn heddiw gael allan ar ba seiliau sicr y safai'r gred honno, ar wahân i gyfeiriad neu ddau at ganeuon Saesneg o'i eiddo. Beth bynnag, ef yn 1849, gydag ' Eben Fardd ' a John Richards, a feirniadai'r awdl yn eisteddfod Aberffraw, a thrwy i'r ddau droi'r fantol yn erbyn 'Eben' y cafodd 'Nicander' y gadair yn hytrach nag 'Emrys,' dyfarniad a arweiniodd i ryfel papur newydd am fisoedd, a dyfarniad a gondemnir yn gyffredinol gan feirniaid diweddarach. Trafferth a gafodd 'Eben' gan Joseph Jones yn yr eisteddfod ym mis Awst, a chyda'r bwndel awdlau y Mehefin cyn hynny, ond pob rhwyddineb gan Jonathan y mab fel clerc dirprwywyr y dreth incwm pan ddaeth y bardd a'i apêl o'u blaenau yn 1856.

Bu farw 23 Mawrth 1856, a chladdwyd yn Amlwch, 28 Mawrth, ' Nicander ' yn gwasnaethu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.