RICHARDS, JOHN ('Iocyn Ddu '; 1795 - 1864)

Enw: John Richards
Ffugenw: Iocyn Ddu
Dyddiad geni: 1795
Dyddiad marw: 1864
Rhiant: James Richards
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 1795 yn Llannerch-y-medd, yn fab i James Richards, siopwr, ac yn nai i John Richards, clerigwr - dywedir eu bod o deulu Edward Richard o Ystrad Meurig. Bwriodd ran o'i oes (hyd 1844) yn swyddog y doll yn Lerpwl, ond priododd yn dda, a bu'n byw yn Nhre-Iorwerth (Bodedern) a Chaernarfon - dechreuodd godi plasty gerllaw Llannerch-y-medd, ond bu farw cyn ei orffen. Yr oedd yn ysgol Ystrad Meurig ar yr un pryd a ' Dewi o Ddyfed ' a ' Carn Ingli,' a bu ar hyd ei oes yn ymddiddori yn yr un pethau - canodd rai awdlau. Ond yr amgylchiad a ddug iddo 'enwogrwydd,' amheus braidd, oedd y feirniadaeth ar yr awdl yn eisteddfod Aberffraw yn 1849. Rhwng 'Emrys' a 'Nicander' yr oedd y wir gystadleuaeth; barnai 'Eben Fardd' mai 'Emrys' oedd y gorau, ond daliai 'Iocyn Ddu' yn dynn dros 'Nicander,' a mynnodd gan y trydydd beirniad, 'Chwaneg Môn' (Joseph Jones), a oedd ar y dechrau am wobrwyo ' Bardd Du Môn' (R. M. Williamson), ddyfarnu gydag ef dros 'Nicander'; bu'r peth yn destun dadl frwd yn y Wasg, na larieiddiwyd dim arni gan y ffaith mai Eglwyswyr oedd y beirniaid a'r bardd a orfu, a'r beirniad a'r bardd arall yn Ymneilltuwyr. Bu 'Iocyn Ddu' farw 17 Tachwedd 1864.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.