LEWIS DARON (fl. c. 1520), bardd

Enw: Lewis Daron
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David James Bowen

Brodor o Aberdaron. Yr oedd teuluoedd Bodeon, Bodfel, Cochwillan, Glynllifon, a Gwydir ymhlith ei noddwyr. Canodd hefyd farwnad i Dudur Aled. Yn ôl Peniarth MS 122 (122) fe'i claddwyd yn Nefyn, serch bod ffynonellau eraill yn dweud mai yn Llanegwad yn Sir Gaerfyrddin y claddwyd ef. Argraffodd 'Myrddin Fardd' gyfran o'i waith yn Cynfeirdd Lleyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.