LLOYD, CHARLES (bu farw 1698), o Faesllwch ym Maesyfed, sgwïer a henuriad Annibynnol

Enw: Charles Lloyd
Dyddiad marw: 1698
Priod: Anne Lloyd
Plentyn: Lewis Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sgwïer a henuriad Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Perchnogaeth Tir; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Richards

Un o amddiffynwyr enw da Vavasor Powell yn yr Examen et Purgamen, 1654, ac arwyddo'r Word for God, yr ymosodiad a wnaed ar Ddiffynwriaeth Cromwell yn 1655. Ym mis Awst 1672 wele Henry Maurice yn dod heibio iddo i gael sgwrs, ac yn 1675 dyry Maurice enw Lloyd i lawr fel un o henuriaid eglwys Annibynnol Brycheiniog. Ef oedd un o'r 'Dissenters,' fel Richard Edwards o Nanhoron a Jenkin Jones o Gilgerran, a enwyd yn 1687 fel gwŷr tebyg o rwyddhau ffordd y declarasiwn newydd ar ryddid crefyddol, ond nid oes unrhyw brawf iddo gael ei rwydo gan ragrith y brenin. Yn union wedi dyfod Deddf Goddefiad i rym yn 1689, penderfynodd Lloyd roddi darn o'i dir yn sir Faesyfed i godi capel arno, capel Maesyronnen, sef y capel cyntaf a godwyd gan yr Annibynwyr yng Nghymru. Yn niwedd ei oes syrthiodd i brofedigaeth gyda'r awdurdodau eglwysig yn Aberhonddu drwy briodi'r trydydd tro, â merch i frawd ei ail wraig; ond ni ddigwyddodd dim byd effeithiol, canys cyfeirir ati fel 'my dear wife Anne ' yn ei ewyllys olaf yn 1696. Teifl yr ewyllys hon lawer o oleuni ar ei gysylltiadau priodasol (trwy'r ail a'r drydedd wraig) â theulu Piwritanaidd Watkinsiaid y Sheephouse, ond dim paham y gelwid ef am gyfnod yn ' Charles Lloyd of Gwernyfed ': rhaid oedd aros am ysgrif Idris Davies yn Y Dysgedydd am 1939, 339, cyn deall mai yn y 'dower house' yno y trigai gyda'i wraig gyntaf, gweddw un o'r meibion.

Yr oedd Charles Lloyd yn frawd i William Lloyd o'r Wernos ac i Walter Lloyd o'r Felindre, ill tri yn disgyn o Lwydiaid Crai a Cherrig Cadarn.

LEWIS LLOYD

Mab Charles Lloyd. Daeth yn farsiandwr mawr yn Llundain, gan brynu tiroedd lawer ym Mrycheiniog a Maesyfed, a dal yn Anghydffurfiwr selog fel ei dad. Yr oedd yn un o brif sylfaenwyr y 'Congregational Fund' a sefydlwyd yn Llundain yn 1695 i gynorthwyo achosion gweiniaid yr enwad, ac yn niwedd ei oes dibynnid llawer arno gan y Dr. John Evans wrth adeiladu y 'Lists' Ymneilltuol. Yn ei ewyllys olaf (27 Mawrth 1714-5) dyry siars arbennig nad oedd neb, o'i deulu ef ei hun nac arall, i ymyrryd yn y dim lleiaf â'r tir y safai capel Maesyronnen arno, heb dalu dirwy drom a fyddai'n ddigon i godi capel newydd yn ei le. Bu farw yn 1717, a phrofwyd ei ewyllys ar 21 Hydref y flwyddyn honno.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.