Ganwyd yn y flwyddyn 1805 ym mhentref Llandysul, mab John Lloyd, ysgolfeistr, ac wyr i David Lloyd, Brynllefrith, a'i fam yn ferch y Parch. Henry Thomas, offeiriad Bangor Teifi a Henllan. Bu yn ysgol ei dad, yn ysgol ei ewythr y Dr. Charles Lloyd yn ysgol y Parch. John Thomas, Pantydefaid, yng Ngholeg Caerfyrddin (1825-9), ac ym Mhrifysgol Glasgow (1829-33; M.A.). Yn ôl Oriel Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin penodwyd ef yn athro'r clasuron yn y coleg yn 1833 ac yn brifathro yn 1835, a daliodd y swydd hyd ei farw yn 1863.
Am y blynyddoedd cyntaf yng Nghaerfyrddin cadwai ysgol ramadeg fel ei ragflaenwyr. Ystyrid ef yn wr o gyneddfau naturiol cryfion, yn ysgolor da, a gwr bonheddig. Yr oedd yn weinidog y gynulleidfa fach Undodaidd yn y dref a addolai yn hen gapel y Crynwyr hyd 1849 pan gododd y Dr. Lloyd gapel Parc-y-felfed ac ysgoldy gerllaw. Perthynai i'r hen ysgol, neu'r Undodiaid Beiblaidd fel y'u gelwid, ac yr oedd yn un o ddilynwyr Priestley. Ni fynnai mo syniadau newydd Colenso, Parker, Tyler, na Martineau. Ceidwadol ydoedd ei syniadau, a maentumid na newidiodd mo'i syniadau o ddyddiau'r coleg i'r diwedd. Yn 1844 ysgrifennodd adolygiad beirniadol llym ar Endeavours Martineau, ond ni thyciai mo'i feirniadaeth. Yr oedd yn hoff o ddadlau, a bu mewn dadleuon brwd â D. A. Williams, canghellor esgobaeth Tyddewi, Hugh Jones (Bedyddiwr), Caerfyrddin, yr esgob Thirlwall, a ' Gwilym Marles ' ar ddaliadau Theodore Parker. Pleidiodd addysg yn y dref, a gweithiodd yn egnïol o blaid y clafdy a'r gladdfa gyhoeddus. Yn ei farw collodd y myfyrwyr Cymreig ffrind calon, a chafodd y mudiad Undodaidd yn y dref golled anfesuradwy. Yn 1853 priododd Ellen, merch Stephen Smith, Swainby, swydd York, a bu iddynt ddau o blant, David a Lucy Lloyd Theakston (Lloyd Records and Pedigrees, 1913). Bu farw 13 Medi 1863, a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Caerfyrddin.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.