Priododd, 12 Chwefror 1746-7, Mary Hurst, Wrecsam; disgrifir y priodfab yng nghofnod y briodas yn ' writing master.' Yr oedd yn gwerthu llyfrau yn 1753; yn 1756-7 yr oedd yn un o wardeiniaid plwyf Wrecsam. Dywed A. N. Palmer (Hist. of Wrexham) a William Rowlands (Llyfryddiaeth y Cymry) iddo ddechrau argraffu cyn hynny, eithr dangosodd Ifano Jones (Hist of Printing and Printers in Wales) nad oes enghreifftiau dyddiedig o'i waith hyd 1772; e.e. Cyfarwyddiad i Fesurwyr a Cydymaith i'r Allor. Argraffodd lawer o lyfrynnau a baledi. Bu farw 24 Mai 1792 a'i gladdu ym mynwent eglwys Wrecsam.
Dilynwyd ef gan ei fab, JOHN MARSH (1747 - 1795), a oedd yn grefftwr celfydd. Y mae'n debyg i'r mab fod yn cynorthwyo'r tad am rai blynyddoedd cyn i hwnnw farw; e.e. fe'i ceir yn rhoddi tystiolaeth yn y cyngaws cyfreithiol yn erbyn W. Davies Shipley, deon Llanelwy, ynglŷn â chyhoeddi pamffledyn, 1783. Dwy enghraifft o waith argraffu da a wnaethpwyd gan John Marsh ydyw Philip Yorke, Tracts of Powys, 1795, a William Griffiths, Practical Treatise on Farriery (ail arg. 1795). Fel ei dad o'i flaen, bu yntau'n gwasnaethu fel warden 1794-5. Bu farw 11 Hydref 1795 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Wrecsam.
Dygwyd y busnes ymlaen gan M. a S. MARSH, a argraffodd lyfr John Thomas, Annerch Ieuengctyd Cymru, yn 1795. Cyn pen y flwyddyn honno, fodd bynnag, daethai'r busnes yn eiddo John Painter.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.