PAINTER (TEULU), argraffwyr yn Wrecsam.

Prynwyd busnes argraffu a chyhoeddi Marsh (gweler Marsh, Richard) yn Wrecsam gan JOHN PAINTER cyn diwedd 1795. Priododd JOHN PAINTER, 3 Hydref 1798, â Catherine, merch Hugh Burton, a gadwai fasnachdy yn High Street, Wrecsam. Dilynwyd John Painter, y tad, gan ei fab hynaf, yntau yn John Painter, a fu farw 15 Hydref 1833, yn 32 oed; a dilynwyd yntau gan ei frawd, THOMAS PAINTER, a werthodd y busnes i Railton Potter yn 1855 ac a fu farw 16 Ionawr 1889 yn 82 oed. Yr oedd y tri aelod o'r teulu hwn yn argraffwyr medrus. Y tad a argraffodd Philip Yorke, Royal Tribes of Wales, 1799, ac argraffiad Edward Edwards o Browne Willis, Survey of the Cathedral Church of St. Asaph, 1801. Y gwaith mwyaf a argraffwyd yn y swyddfa oedd Beibl Samuel Clark, wedi ei gyfieithu yn Gymraeg gan John Humphreys, 1813. Rhoddir ychwaneg fanylion personol am Thomas Painter gan Ifano Jones yn ei History of Printing and Printers in Wales; e.e. bu'n faer Wrecsam yn 1859 ac yr oedd yn gyfarwyddwr mewn tua thri o gwmnïau lleol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.