Ganwyd ger Trefdraeth, Sir Benfro, 22 Mawrth 1827, unig fab John Morgan, prifathro ysgol Madam Bevan yn Nhrefdraeth, lle hefyd yr hyfforddid athrawon. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Aberteifi ac athrofa'r Fenni. Ordeiniwyd ef gan yr esgob Ollivant yn 1850 a daeth yn gurad Cwmafon, 1850-2, ficer Pontnewynydd, 1852-75, a rheithor plwyfi unedig Llanilid a Llanharan o 1875 hyd ei farwolaeth. Pregethai lawn mor effeithiol yn Gymraeg ag yn Saesneg, a cheir yr enghreifftiau gorau o'i arddull yn ei bregethau cyhoeddedig yn y ddwy iaith. Cyfieithodd rannau o'r ' Anacreon ' a ' Chevy Chase ' yn Gymraeg a throsodd emynau ' Pantycelyn ' yn Saesneg. Cyhoeddodd hefyd gyfrolau o farddoniaeth Saesneg dan y teitlau, My Welsh Home, 1870, ar fesur ' In Memoriam '; a A Trip to Fairyland or Happy Wedlock, gyda darnau eraill a chyfieithiadau o emynau Cymraeg, 1896. Yn 1892 cyhoeddodd Four Biographical Sketches - ysgrifau ar yr esgobion Ollivant a Thirlwall, Griffith Jones, Llanddowror, a Syr Thomas Phillips. Ysgrifennai yn aml i'r cylchgronau Cymraeg, a hefyd i'r Spectator, Saturday Review, Churchman, a'r Western Mail. Ymladdodd yn gadarn dros hawliau'r Eglwys Sefydledig, ac ef, yn ôl yr archesgob Benson, oedd y galluocaf a'r dysgedicaf o amddiffynwyr yr Eglwys. Bu farw yn Llanilid, 23 Mai 1903, a chladdwyd yn y fynwent yno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/