PRICE, CHARLES (bu farw 1646), Pilleth, swydd Faesyfed, milwr a gwleidyddwr

Enw: Charles Price
Dyddiad marw: 1646
Rhiant: James Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr a gwleidyddwr
Cartref: Pilleth
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Y mae'n debyg ei fod yn fab iau i James Price, a fuasai'n ymladd yn rhyfeloedd Elisabeth ac yn aelod seneddol dros swydd Faesyfed yn 1624-6, ac yn ŵyr i'r Stephen Price a fu'n aelod seneddol dros y sir yn 1555; yr oedd y teulu yn gangen o deulu Prysiaid Monachdy (un o'r ddau deulu hynaf yn y sir), a oedd yn rhannu gyda hwy anrhydeddau swyddau yn y sir a chynrychiolaeth yn y Senedd. Etifeddodd duedd ei dad at fywyd milwrol a bu'n eilydd i Syr Robert Vaughan, Llwydiarth pan heriodd hwnnw arglwydd Herbert, Chirbury, i ymladd gornest, gornest a ataliwyd gan Iago I. Y flwyddyn ddilynol bu'n cynrychioli'r fwrdeisdref yn y Senedd; yn honno safodd yn gryf ar bwnc monopolïau, breiniau'r Senedd ei hunan a chadw ymlaen oruchafiaeth Protestaniaeth, ac fe'i hailetholwyd yn 1624. Yn 1625 aeth i Iwerddon yn gapten milisia Maesyfed a Brycheiniog eithr dychwelodd mewn pryd i eistedd dros sir Faesyfed yn nhair Senedd gyntaf Siarl I lle yr oedd yr un mor feirniadol o'r llys (hyn a oedd yn cyfrif efallai, paham y galwyd arno i ymddangos gerbron y Cyfrin Gyngor ar derfyn y sesiwn 22 Hydref 1626); ymddiddorodd hefyd yn y fyddin ac mewn materion Cymreig. Ar 18 Gorffennaf 1627 aeth ag atgyfnerthion i Syr Charles Morgan i'w ymgyrch yn Staden; yr oedd hefyd gyda'r fyddin yn Portsmouth pan lofruddiwyd Buckingham (28 Awst 1628), a daeth â'r newyddion cyntaf am y lladd i Siarl I. Yn sesiwn ystormus y Senedd (1629) a ddilynodd y ' Petition of Right ' safai ef yn gryf dros gymedroldeb. Yn 1637 daeth yn ddirprwy stiward dros Raeadr Gwy i 4ydd iarll Pembroke; yr oedd ef wedi bod yn dilyn teulu Pembroke mewn materion gwleidyddol, fel rheol. Y flwyddyn wedyn yr oedd yn gwasnaethu unwaith yn rhagor yn Iwerddon; oddi yno anfonodd ddeiseb i'r Cyfrin Gyngor ar ran ei hawliau ynglŷn â stad Monachdy - stad yr oedd ef wedi ad-dalu arian i'r benthycwyr er mwyn ei chadw yn y teulu. Y mae'n drawiadol nad ydyw ei enw i'w gael ymhlith enwau y rhai a ymunodd yn y ' Bishops' Wars ' (1639-40). Eisteddodd dros y sir yn y Senedd Fer ac yn y Senedd Faith; yn y Senedd Faith yr oedd yn aelod unwaith o'r pwyllgor breiniau, yn gyfrifydd ('teller') dros yr 'Ayes' ar y ' Root and Branch Bill ' i ddifodi'r drefn esgobaethol, a bu'n cynorthwyo i drefnu'r cyhuddiadau yn erbyn Windebank, yr ysgrifennydd gwladol, eithr yr oedd yn erbyn collfarnu Strafford. Yr oedd yn ddiwyd ynglŷn â'r mesurau i ddifodi y gwrthryfel Gwyddelig (Tachwedd 1641) a chafodd ei enwi'n swyddog yn y fyddin a anfonwyd i ddarostwng y gwrthryfel hwnnw. Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, fodd bynnag, bu'n helpu i roddi'r comisiwn brenhinol ar waith i gasglu gwŷr ac offer rhyfel ynghyd yn sir Faesyfed, ac ef oedd yr aelod seneddol cyntaf o Gymru a rwystrwyd ('disabled') rhag eistedd yn y Tŷ (4 Hydref 1642). Fe'i cymerwyd i'r ddalfa a'i garcharu yng Nghaerloyw (Tachwedd 1642) a Coventry (Ionawr 1643), eithr cafodd ei ryddhau yn nes ymlaen, a bu yn y Senedd a gyfarfu yn Rhydychen (22 Ionawr 1644). Fe'i lladdwyd, y mae'n debyg, mewn gornest, Mai 1645, ac ni chafodd ei deulu byth fwynhau stad Monachdy a addawsid iddo pan roes fenthyg £1,000 i'r brenin. Trefnodd ei weddw i gael Pilleth yn ôl yn 1653. Yr oedd yn gyfaill a gohebydd i James Howell.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.