Y mae'n debygol mai aelod ydoedd o deulu Prysiaid Eglwysegl a Llanfyllin. Dywedir mai Pabyddion oedd y Prysiaid a breswyliai yn y tŷ du-a-gwyn a adeiladwyd yn 1599 yn Llanfyllin ac a elwid ' The Hall.' Enwir Thomas Price fel un o saith anghydffurfiwr Pabyddol Llanfyllin yn 'notitia' poblogaeth esgobaeth Llanelwy (1681?). Dywedir iddo gael ei enwi'n fynych fel anghydffurfiwr o flaen y Sesiwn Fawr. Yn ôl traddodiad casglodd nifer dda o lawysgrifau a'u danfon i'r Fatican. Bu'r arglwydd Castlemaine yn llochesu dan gronglwyd yr ' Hall ' yn Llanfyllin ar ôl Chwyldro 1688. Fel hynafiaethydd perthynai Price i gylch William Maurice, Cefnybraich, Robert Davies, Llannerch, a William Lloyd, esgob Llanelwy. Safai'n gadarn dros draddodiad Sieffre o Fynwy. Yn ôl Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir'), ysgrifennodd i amddiffyn yr hanes Cymreig mewn atebion i'r esgob William Lloyd, 8 Rhagfyr 1681, ac i waith gan Syr George Mackenzie. Y mae llythyr ganddo yng nghasgliad Brogyntyn, 13 Mawrth 1681, yn trafod llyfrau teithio. Mewn llythyr a ysgrifennodd, 15 Mawrth 1685, pan rwystrwyd ef yn Llundain ar daith i'r Eidal a arfaethasai ar wahoddiad arglwydd Castlemaine, cyfarchai Edward Lhuyd fel ei gefnder. Yn llawysgrif NLW MS 1559B y mae ysgrif yn ei law o'i waith ei hun yn dwyn y teitl 'The Correct Annales of Brittaine,' 1688, a nifer o nodiadau amrywiol ac achau. Y mae ysgrif arall ar dywysogion Powys yn ei law yn llawysgrif Llansteffan 172. Argraffwyd dau lythyr yn ymwneud ag ef yn British Remains (Nicholas Owen 1777). Llythyr ato ef oddi wrth yr esgob Lloyd yw'r cyntaf, a chyfeiria at gopïau o groniclau wedi eu copïo gan William Maurice a ddangosasai ef i'r esgob. Yn yr ail, cyfeiria Charles Lloyd, Dolobran, at ymddiddan â'i gefnder Thomas Price o ' Lanvilling ' ynghylch darganfod America gan y Cymry. Dengys llythyr a ddanfonodd at Josiah Babington yn Llannerch, 12 Ebrill 1701, arwyddion llesgedd neu henaint. Trafod safle Mediolanum (Meifod yn ei farn ef), y Pymtheg Llwyth, coelcerthi noswyl yr Holl Saint, a Llywodraeth Prydain, y mae. Yr oedd un o lawysgrifau herodrol Downing wedi ei gwneuthur ganddo yn y lliwiau priodol, tua chyfnod Siarl II, meddir. Ystyriai Edward Lhuyd fod ganddo beth dysg a medr, nad oedd ganddo ddim didwylledd, ac mai prin oedd ei farn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Ymddengys mai John Price, Llanfyllin oedd ei dad. Disgrifir hwnnw fel pabydd a thad pabyddion ac offeiriaid pabyddol ym mhapurau'r Dirwyon (Compounding) yn 1652. Gwnaeth Thomas Sebastian ei ewyllys ar 6 Mawrth 1703/4. Claddwyd ef yn Llanfyllin ar Fawrth 13, felly blwyddyn ei farw yw 1704. Ei fab, John, a etifeddodd ei eiddo, ac ef oedd ysgutor ei ewyllys.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.