ROWLAND, JOHN (fl. hyd 1764 o leiaf), argraffydd yn Bodedern (sir Fôn) a'r Bala.

Enw: John Rowland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Arferid tybied bod cysylltiad rhwng John Rowland, pan argraffai yn sir Fôn, a gwasg Lewis Morris. Bellach dangosodd Ifano Jones (Hist. of Printing and Printers in Wales), na fu erioed gysylltiad. Dechreuodd John Rowland argraffu ym Modedern yn 1760. Byr a fu ei arosiad yno fel argraffydd, gan y ceir ef yn 1761 yn argraffu yn y Bala. O dan y flwyddyn 1741 y mae gan William Rowlands (Llyfryddiaeth y Cymry) gyfeiriad at Ym Ddiddan rhwng Rhobin Criwso a Bardd y Cwsg am y blynyddau dros byth; dywed mai math o almanac ydyw am y flwyddyn 1741, a dyfynna ddarn o linell - 'A'i brintio ym Môn ' - a awgrymai iddo ef (Rowlands) i'r llyfr gael ei argraffu yng ngwasg Bodedern. Y mae wedi ei argraffu mewn dull mor wallus nes peri credu mai gwaith John Rowland ydyw, gan mai argraffydd trwstan ydoedd ef. Awgryma Ifano Jones, fodd bynnag, i'r gwaith hwn gael ei ddodi yn 1741 gan Rowlands yn lle 1761 ac felly mai yn y Bala yr argraffwyd ef. Y mae Rowlands yn camgymryd hefyd wrth groniclo Pedwar o Gywyddau (' Argraffwyd gan J. Rowland Bala Tros Richard Reinallt Siopwr ') o dan y flwyddyn 1748; y mae'n amlwg na chafodd hwn mo'i argraffu cyn 1761, mwy nag yr argraffwyd Dyfyrwch ir Cymru neu Ddewisol Ganiadau yn Dulyn (Llyfryddiaeth, 1750, rhif 7); efallai i'r Dyfyrwch gael ei argraffu ym Modedern yn 1760 - y mae'n ffurfio rhan gyntaf y Pedwar o Gywyddau. Argraffwyd pedwar llyfr o leiaf gan John Rowland ym Modedern (gweler Ifano Jones, op. cit., 59) a Rowlands, op. cit.); ac, efallai, fel y sylwyd eisoes, i 'ran cyntaf' y Pedwar o Gywyddau ffurfio pumed llyfr; at y rhain rhydd John Jones ('Myrddin Fardd') deitlau tair baled (Y Traethodydd, 1880, 220). Ymysg y llyfrau a argraffodd John Rowland yn y Bala yr oedd Cynhwysiad byr o feddyliau'r eglwys a ymgorpholodd o dan y drefn hon yn Sir Fonwy: Pa un sy'n ymgyfarfod yn bennaf yn y neuaddyn y Pant-têg, gerllaw Pont y Pool [gweler Lewis, M. J. ]. Cafwyd baledi hefyd o wasg John Rowland yn y Bala, sef yn y cyfnod 1761-4.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.